Cynyddu'r gorchudd coetir er budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd

Pam y thema hon?


Gan fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae ymdeimlad o frys yng Nghymru ar hyn o bryd (sydd wedi'i gefnogi gan fframweithiau polisi a strategol cadarn) ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer creu coetiroedd newydd. Mae coed yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd, lleihau sŵn, storio carbon, diogelu pridd, gwella ansawdd aer a lleihau perygl llifogydd. Maent yn creu swyddi, ac incwm o bren a gweithgareddau eraill. Maent yn chwarae rhan bwysig mewn peillio, ffurfio pridd, cylchu maetholion, cylchu dŵr a chynhyrchu ocsigen. Mewn gwirionedd, mae plannu coed a chreu coetir yn cwmpasu pob un o'r pum thema sy'n ffurfio Datganiad Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru (sy'n nodwedd amlwg iawn yn y thema 'Datblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol/gwledig').

Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i amgylchedd, economi, iechyd cymdeithasol a llesiant ein cymunedau, ochr yn ochr â choedwigoedd a choetiroedd eraill sy’n eiddo preifat yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae sir Wrecsam yn nodweddiadol oherwydd ei flociau bach o goetir ffermydd ynghyd ag ystadau gwledig mwy o faint. Mae coetiroedd yn gorchuddio 9.4% o'r sir, sydd ymhell o dan gyfartaledd cenedlaethol Cymru o 14% (a dylid nodi nad oes dim ohono'n goetir rhydd-ddaliadol, yn perthyn i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, na'n rhydd i'r cyhoedd gael mynediad ato). Mae gorchudd coetir sir Fflint ychydig yn uwch, sef 9.8%. O hwnnw, mae 0.4% yn perthyn i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, ac yn cynnwys Coed Moel Famau yn bennaf, sef coedwig fawr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n rhannu’r ffin â sir Ddinbych, ynghyd â Choed Nercwys (hefyd yn yr AHNE) ger yr Wyddgrug. Mae coetir preifat sir y Fflint yn cynnwys coetir ffermydd ac ystadau gwledig.

Mae gorchudd coetir sir Ddinbych wedi'i ddominyddu gan yr ardaloedd estynedig o lwyfandir ucheldirol a geir ym Mryniau Clwyd ynghyd ag, unwaith eto, blociau bach o goetir ffermydd ac ystadau gwledig. Mae Coedwig Clocaenog, sy'n gorchuddio 4,166 hectar ac sy'n creu incwm pren blynyddol o rhwng £1.5 miliwn a £2 filiwn, hefyd yn cael ei reoli mewn ffordd sy'n gwarchod ac yn gwella bywyd gwyllt, yn cynhyrchu trydan ac yn darparu gweithgareddau hamdden ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr. I'r gwrthwyneb, mae gorchudd coed mewn ardaloedd difreintiedig yn tueddu i fod yn llai ac yn llai cyfoethog yn nhermau coed amwynder. Cymerwch, er enghraifft, rhannau o'r Rhyl lle mae cyn lleied ag 1% o'r arwynebedd yn cynnwys coed.

Mae Clocaenog hefyd yn treialu techneg rheoli coedwigoedd, a elwir yn goedamaeth gorchudd di-dor, sy'n gofyn am ystyriaeth ehangach. Mae'r broses hon yn golygu creu coedwigoedd sy'n fwy amrywiol, o ran eu strwythur ac yn nhermau cyfansoddiad y rhywogaethau, trwy osgoi llwyrgwympo ar raddfa fawr. Mae datblygu coedwigoedd sy'n fwy amrywiol yn ffordd synhwyrol o leihau'r peryglon a berir gan newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Amcangyfrifir bod y diwydiant coedwigaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cyflogi 3,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan gynnwys tair melin goed, meithrinfa blanhigion fwyaf y wlad, a llawer o fusnesau contractwyr. Mae'n hanfodol bwysig bod ein coetiroedd yn parhau i gynnal cymunedau lleol a'r busnesau oddi mewn iddynt.

Yn ei leoliad yng nghanol coetir preifat, mae Canolfan Beicio Mynydd Llandegla yn un o atyniadau twristiaeth mwyaf sir Ddinbych bellach, sy'n denu bron 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'n cynnig gweithgareddau beicio mynydd a cherdded llwybrau sydd wedi'u gosod o gwmpas canolfan ymwelwyr a redir gan y cwmni Oneplanet Adventure.

Mewn mannau eraill, ceir enghreifftiau, eang eu gwasgariad, o goetir gwlyb (Corsdir Coed Talon, Cors Sontley, Rhostir Llai, Llyn Bedydd a Choedwig Big Pool, sydd i gyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)) ynghyd â choetiroedd gorlifdir prin (Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Llwyn) a choetiroedd onnen gymysg ucheldirol (ACA Coedwigoedd Dyffryn Alun ac ACA Coedwigoedd Dyffryn Elwy).

Mae coetiroedd hynafol gogledd-ddwyrain Cymru yn dameidiog, ac, oherwydd hyn, mae gofyn eu gwarchod. Mewn gwirionedd, mae angen rheoli’r cynefinoedd coetir i gyd yn ofalus er mwyn gwneud y gorau o'r llu o fuddion maent yn eu darparu, gan sicrhau eu bod yn wydn, yn gallu gwrthsefyll pwysau ac yn gallu addasu er mwyn i genhedloedd y dyfodol eu gwerthfawrogi. Mae angen i ni hefyd geisio cyfleoedd i gynyddu coetir llydanddail, cymysg a chonwydd ar dir preifat a chyhoeddus i adlewyrchu cymeriad a diwylliant lleol, a chynnig cyfleoedd ar gyfer cymunedau (gan gynnwys lleihau effaith amddifadedd).

Pobol yn cerdded yng Nhoedwig Moel Famau ger Yr Wyddgrug

Mae'n hanfodol bod cymunedau'n teimlo eu bod yn gysylltiedig â'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch creu coetiroedd, fel y gall pobl gael budd llawn o'r hyn sydd ar gael. Gallai hynny olygu cydweithredu ar draws ardaloedd, neu blannu mewn mannau na fyddent wedi'u hystyried o bosib yn draddodiadol, er enghraifft ardaloedd mewn cymunedau trefol, neu'n sy'n agos atynt. Mae coed sydd mewn amgylcheddau adeiledig yn helpu i liniaru rhai o ganlyniadau negyddol trefoli, gan wneud cymunedau'n fwy gwydn yn wyneb newid.

A dweud hynny, mae'n bwysig sicrhau cydbwysedd, a'n bod yn dod o hyd i le i goed mewn ffyrdd nad ydynt yn effeithio’n niweidiol ar ddefnydd tir pwysig arall (fel bwyd amaethyddol cynaliadwy neu systemau rheoli tir). Yn ogystal, bydd dilyn egwyddor 'y goeden gywir yn y man cywir' yn sicrhau na chaiff ardaloedd pwysig sydd eisoes yn storio meintiau sylweddol o garbon, neu'n werthfawr o ran cynnal cynefinoedd neu rywogaethau o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol neu ryngwladol, eu plannu â choed lle ceir effeithiau negyddol.

Mae gwella'r dull o reoli coetiroedd sydd eisoes yn bodoli, ynghyd â lledaenu'r defnydd a wneir o goed, yn flaenoriaeth yn y Polisi Adnoddau Naturiol. Yn ogystal, byddai cynyddu'r gorchudd coetir at ddibenion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd yn helpu i gyflwyno blaenoriaethau canlynol y Polisi Adnoddau Naturiol: 

Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth

Mae coetiroedd a choedwigoedd yn dda ar gyfer bywyd gwyllt a gallant gysylltu ardaloedd o gynefinoedd gwerthfawr â’i gilydd. Bydd tirwedd sy'n cysylltu coetiroedd newydd â rhai sydd eisoes yn bodoli, felly'n helpu i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ac arferir gofal wrth (a) plannu coed yn y mannau cywir, a (b) sicrhau mai'r rhywogaethau cywir o goed sy'n cael eu plannu.

Lleihau lefel y llygredd yn yr aer a gwella ansawdd yr aer

Mae ymchwil dros y blynyddoedd diwethaf gan Coed Cadw wedi nodi sut y gellir addasu gweithgareddau gwyrddlasu trefi a phlannu coed i gyflawni targedau ansawdd aer, ochr yn ochr â chyflawni llawer o swyddogaethau buddiol eraill mannau gwyrdd trefol. Yn y bôn, mae coed yn ddatrysiad cost-effeithiol sy’n mynd i'r afael â dirywiad mewn ansawdd aer yn ogystal â'r cynnydd mewn tymheredd trefi.

Lleihau llygredd sŵn

Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy'n awgrymu bod llygredd sŵn (traffig ar lonydd, rheilffyrdd ac yn yr awyr, diwydiant, adeiladu, gwaith cyhoeddus ac ati) yn cael effaith ar ein hiechyd. Gall mannau gwyrdd liniaru lefelau sŵn mewn ardaloedd trefol. Mae'r weithred o blannu 'clustogfeydd sŵn', sy'n cynnwys coed a llwyni, yn torri lefelau sŵn gan bump i 10 desibel am bob 30 metr o led coetir, gan leihau sŵn gan tua 50%. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn, rhaid dewis y rhywogaeth a'r cynllun plannu yn ofalus.

Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

Gall coed a choetiroedd helpu i leihau llifogydd a gwella ansawdd dŵr mewn ffyrdd amrywiol, fel ailgyfeirio glaw, a'i alluogi i dreiddio i'r ddaear, lleihau cyfaint a chyflymder dŵr ffo i ddraeniau a chyrsiau dŵr, tynnu dŵr o'r ddaear ar gyfer trydarthiad, cael gwared â llygryddion a lleihau gwaddodi.

Ceir dau prif ddalgylch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, sef afon Clwyd ac afon Dyfrdwy. Mae’r rhan fwyaf o ddalgylch afon Clwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac mae’r un isafon fawr, afon Elwy, yn ardal gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Mae rhannau uchaf afon Dyfrdwy hefyd yn ymestyn i ardal gogledd-orllewin Cymru, gyda'r dalgylch isaf yn llifo dros ffin Lloegr i Wastadedd Sir Gaer ac Aber Afon Dyfrdwy.

Mae bron tair miliwn o bobl yn cael eu dŵr yfed o afon Dyfrdwy, gyda llawer ohonynt yn byw yng ngogledd-orllewin Lloegr. Mae pwysigrwydd strategol afon Dyfrdwy fel ffynhonnell dŵr yfed, a'r perygl iddi oherwydd llygredd, wedi arwain at yr afon yn dod yn un o'r afonydd sy’n cael ei gwarchod fwyaf yn Ewrop, gan ddod yn Barth Diogelu Dŵr dynodedig yn 1999.

Mae gan afon Clwyd ei rhagnentydd yng Nghoedwig Clocaenog, ac mae afon Elwy'n codi i'r gorllewin ar Fynydd Hiraethog. Amaethyddiaeth sydd â’r dylanwad mwyaf yn nalgylch gwledig afon Clwyd. Mae rhan o'r dalgylch isaf yn barth perygl nitradau ar gyfer dŵr wyneb a dŵr daear. Yn 2015, nid oedd 68% o’r holl gyrff dŵr croyw (fel y’u diffiniwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cyflawni statws da neu'n well yn gyffredinol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y ffactorau cyfrannol yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd addasu ffisegol yn gyfrifol am 22% o fethiannau oherwydd pwysau fel rhwystrau yn atal pysgod rhag mudo (e.e. coredau)

  • Roedd llygredd o garthion a dŵr gwastraff yn gyfrifol am 22% o fethiannau

  • Roedd llygredd o ardaloedd gwledig (gan gynnwys arferion rheoli tir yn ogystal ag effeithiau o ddefnyddiau eraill fel ceffylau/stablau a chyrsiau golff) yn gyfrifol am 24% o fethiannau

  • Roedd llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth yn gyfrifol am 8% o fethiannau

  • Roedd llygredd o fwynfeydd yn gyfrifol am 6% o fethiannau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos (a bydd yn parhau i wneud hynny) â'n rhanddeiliaid gan gynnwys Dŵr Cymru a ffermwyr yn nalgylch afon Clwyd er mwyn sicrhau bod ein dyfroedd ymdrochi yn y Rhyl a Phrestatyn yn ennill statws digonol, da neu ragorol. Byddwn yn parhau i geisio cyllid, a chysylltu â phartneriaid i ddarparu cynlluniau sy'n lleihau mewnbynnau bacteriolegol yn y dalgylch. Mae Dŵr Cymru wedi dynodi dalgylch afon Clwyd yn beilot ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac mae eisiau gweithio'n gydweithredol er mwyn darparu gwelliannau amgylcheddol ynghyd â buddion iechyd a llesiant.

Lleihau'r risg rhag llifogydd i'r tir a'r arfordir

Gall coed atal llifogydd drwy arafu llif y dŵr a thrwy ailgyfeirio ac anweddu dŵr, cynyddu amsugniad dŵr trwy bridd, gwneud arwynebau'r tir yn fwy garw a lleihau erydiad pridd.

Addasu i'r newid yn yr hinsawdd

Gall cynnal ein coed a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli, ynghyd â chynlluniau plannu newydd ystyriol, chwarae rhan hanfodol wrth helpu gogledd-ddwyrain Cymru i addasu i'r newid yn yr hinsawdd trwy wrthbwyso a storio carbon.


Golygfa o goedwig Llangwyfan

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Caiff y coetiroedd sy'n ffurfio Ystad Goetir Llywodraeth Cymru eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran pobl Cymru. Dyma rai o'n hasedau naturiol gorau, ac, oherwydd eu bod yn eiddo cyhoeddus, mae ganddynt gyfraniad unigryw i'w wneud. Yn y bôn, mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn adnodd coetir sy'n darparu buddion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer pobl Cymru a thu hwnt, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sicrhau y bodlonir yr egwyddorion canlynol o 'Diben a rôl Ystad Goetir Llywodraeth Cymru':

  • Bydd ardal adnodd coetir gogledd-ddwyrain Cymru yn fwy mewn 25 mlynedd nag ydoedd yn 2018

  • Bydd y dull o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a byddwn yn cadw'r ardystiad coedwigaeth

  • Bydd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru'n cefnogi llesiant Cymru, gan gynnwys trwy gydweithrediad ag eraill

  • Dylai Ystad Goetir Llywodraeth Cymru gyfrannu at ffyniant pobl Cymru, a dylid ail-fuddsoddi’r incwm o'r ystad goetir yn y gwaith parhaus o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy

Nodwyd cyfleoedd ar gyfer coetiroedd sy’n eiddo preifat a chyhoeddus, drwy broses ymgysylltu'r Datganiad Ardal, fel a ganlyn:

Datblygu canolfan creu coetir yng ngogledd-ddwyrain Cymru

Dylid sefydlu canolfan creu coetir yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a fyddai'n darparu pwynt cyswllt unigol ar gyfer ymholiadau ynghylch holl weithgarwch plannu coed a chreu coetir yn yr ardal, a'i chefnogi gan rwydwaith o bartneriaid a sefydliadau. Mae mynediad i gyngor yn rhan hanfodol o blannu coed ac mae'n rhaid bod hynny wedi'i integreiddio yn y broses (ar ba raddfa bynnag y mae'r gweithgarwch plannu coed yn digwydd). Gallai hyn gynnwys ble i blannu coed, pa rywogaethau i'w plannu, sut i reoli coed, ac o ble i gael coed a llwyni y'u tyfwyd yn y DU er mwyn lleihau'r risg o fewnforio plâu a chlefydau. Gwelir y weithred o blannu coed yn aml fel y cam olaf mewn prosiect, ond mae'n llawer pwysicach na hynny, gan fod sylfaen yn cael ei gosod a fydd yn sicrhau y bydd y coed yn goroesi ac yn darparu buddion fel storio carbon ynghyd â chynnal cynefinoedd ar gyfer fflora a ffawna. Yn ogystal â darparu cyngor a chanllawiau, gallai'r ganolfan hefyd gyfeirio cyfleoedd am gyllid, boed hynny ar gyfer prosiectau plannu coed mewn cymunedau bach neu goedwigaeth fasnachol.

Defnyddio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli

Trwy ddefnyddio tystiolaeth sydd eisoes yn bodoli (er enghraifft, i-tree), gellir nodi ardaloedd lle y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid gydweithio er mwyn cynyddu'r brigdwf trefol er budd yr amgylchedd a chymunedau. Yn ystod gweithdy ym mis Rhagfyr 2019, siaradodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Wrecsam yn fras ynghylch y posibilrwydd o reoli ffermydd cyngor yn wahanol, pan fydd cyfleoedd o'r fath yn codi, er mwyn plannu coetiroedd. Mae'n werth nodi nad oes gan Wrecsam, fel sir, ystad goetir rydd-ddaliadol sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Dylai Datganiadau Ardal greu cyfleoedd ar gyfer coetiroedd newydd, gan geisio cymhellion gwell ar gyfer pob rheolwr tir

Mae angen dull ariannu syml a strategol ar gyfer pob cynllun sy'n gysylltiedig â choetiroedd. Mae llawer o randdeiliaid wedi'u drysu gan gymhlethdod y broses creu coetir bresennol, gan gynnwys y ffordd orau o geisio cyngor, ac opsiynau ariannu posibl. Codwyd yr angen am gynllun grant y mae modd ei addasu ar lefel lle trwy ein proses ymgysylltu. Dylai cynlluniau fel Glastir fod yn addas i'r diben a chynnig cymorth y tu hwnt i'r cam sefydlu. Mae angen i'r system daliadau hyrwyddo lefelau amrywiol o greu coetir, nid yn unig ar raddfa fawr, a chanolbwyntio ar wasanaethau ecosystemau ehangach. Dylai cymunedau allu cael budd o gyllid ar gyfer gweithgareddau storio carbon. Yn ogystal, dylai'r Datganiad Ardal ystyried coed a choetir, a'u hyrwyddo, yng nghyd-destun rheoli tir, gan sicrhau bod gweithgarwch plannu newydd yn ategu buddiannau amaethyddol a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn hytrach na chystadlu yn eu herbyn. Gellid hefyd cynnal a gwella gwrychoedd, ynghyd â sicrhau bod cymhellion ar gael i dirfeddianwyr blannu coed ar rannau lleiaf cynhyrchiol eu tir (roedd colli gwrychoedd yn bryder arbennig ymhlith y rhai a fynychodd y digwyddiad ymgysylltu yn Rhuthun ym mis Tachwedd 2019). Mewn rhai achosion, dylid rhoi cefnogaeth i alluogi coetiroedd i adfywio'n naturiol, sy'n gallu bod yn llawer mwy cost-effeithiol na phlannu coed.

Coedwig Cenedlaethol Cymru a chysylltiadau â Choedwig Mersi

Fel prif gynghorydd i'r llywodraeth, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn llywio trafodaethau'r Datganiad Ardal ynghylc y goedwig genedlaethol. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gobeithir y byddai coedwig genedlaethol yn helpu i greu clytwaith o goetiroedd, gan agor mannau gwyrdd i fyny a fyddai'n cysylltu coetiroedd sydd eisoes yn bodoli, a chysylltu ardaloedd gwledig a threfol, gan ddarparu buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd lluosog yn y broses (yn debyg i fenter Coedwig Mersi sy'n ceisio creu coetir a man gwyrdd ar draws ffin Cymru a Lloegr yng ngogledd swydd Gaer a Glannau Mersi).

Rheoli perygl llifogydd gan ddefnyddio datrysiadau sy'n seiliedig ar natur

Mae'n hen hysbys fod coed yn lleihau llifau llifogydd trwy anweddu dŵr, cynyddu amsugniad dŵr trwy bridd, gwneud arwynebau tir yn arw a lleihau erydiad pridd.  Mae angen i ni gydweithio â natur er mwyn archwilio dulliau newydd o reoli llifogydd, gan ystyried mesurau ar lefel dalgylch sy'n lliniaru'r risg o lifogydd i lawr yr afon, yn ogystal â darparu buddion lluosog i gymunedau lleol. Gwnaeth un awdurdod lleol, a oedd yn awyddus i leihau effaith llifogydd yn ei ardal, ddangos 'meddylfryd i fyny'r afon' drwy ddatgan ei fod am blannu coed mewn awdurdod cyfagos.

Cynyddu’r brigdwf trefol

Gall coed amddiffyn ardal rhag llygredd, dal carbon, creu gofod ar gyfer bywyd gwyllt a chyfoethogi'r amgylchedd, ar yr un pryd â hybu delwedd a ffyniant yr ardal. Bydd y Datganiad Ardal yn cefnogi cymunedau wrth ddarparu amddiffyniad effeithiol rhag aer llygredig, creu 'coridor gwyrdd' ar gyfer teithio llesol a gwneud lle ar gyfer bywyd gwyllt. Mae modd gwneud hyn drwy gynyddu'r brigdwf trefol mewn cymunedau difreintiedig, annog cymunedau i anelu at Safon Coedwigaeth y DU (gan greu trefi 'coetir' felly) ac ymateb i'r argyfwng clefyd coed ynn drwy blannu coed amwynder newydd yn lle’r rhai a gollwyd.

Dylanwadu ar gynlluniau datblygu lleol

Dylai cynlluniau datblygu lleol gynnwys polisïau cadarnhaol ynghylch coed a choetiroedd. Dylai systemau cynllunio sicrhau y ceir rhyddid i blannu coed a chreu coetiroedd a'u bod yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau. 

Creu 'Map Stori' fel offeryn ymgysylltu

Byddai creu offeryn 'Map Stori' er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd yn galluogi pobl i ddilyn cynnydd, gan ddangos tystiolaeth a llwyddiant yn erbyn y thema. Gallai hyn, yn ei dro, alluogi mwy o newid, dylanwadu ar farn a chynyddu ymwybyddiaeth. Byddai'r mapiau hyn yn cael eu dylunio ar gyfer unrhyw gynulleidfa â mynediad i'r rhyngrwyd.

Datblygu astudiaethau achos

Mae straeon yn bwysig. Maent yn ennyn ein diddordeb, felly rydym yn dysgu ganddynt. Mae angen i ni ddatblygu a rhannu astudiaethau achos am blannu coed a chreu coetiroedd sy'n rhoi sylw i'r llwyddiannau. Dylai'r astudiaethau achos hyn hefyd fynd i'r afael â'r gamdybiaeth gyffredin fod manteision amgylcheddol yn cael eu cyflawni ar draul datblygiad economaidd.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Daeth cyfanswm o 148 o bobl yn cynrychioli 68 o sefydliadau ar draws 28 o sectorau gwahanol (â chylchoedd gorchwyl eang) i bum digwyddiad ymgysylltu wedi'u trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2019. Gwnaeth pob un ond un ddigwydd mewn lleoliadau cymunedol lleol, ac eithrio lleoliad mwy, trefol, Neuadd Tref Dinbych ym mis Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ymgysylltu ag uwch-reolwyr ac arweinwyr portffolio'r tri awdurdod lleol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Dafydd Thomas, ymgynghorydd llesiant allanol, yn bresennol ym mhob digwyddiad, a oedd yn cynnwys gweithdrefn arloesol o'r enw 'cylch cyfarfod' wedi'i dylunio i annog cyfranogwyr i rannu eu teimladau gwirioneddol, blaenoriaethu'r hyn oedd wir yn bwysig iddynt, a gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau.

Bu'r trafodaethau ynghylch plannu coed a chreu coetiroedd yn wybodus ac adeiladol ymhob un o'r digwyddiadau ymgysylltu. Bu cynrychiolaeth gan amrediad eang o sectorau sydd â chysylltiad uniongyrchol â chreu coetiroedd a choedwigaeth fasnachol ynghyd â meysydd cadwraeth, hamdden a mynediad, awdurdodau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd gan lawer o'r sefydliadau a gymerodd ran brofiad sylweddol eisoes o ran creu coetiroedd ac roeddent yn gallu gwneud awgrymiadau gwerthfawr am sut y gallai'r weledigaeth hon gael ei chyflawni. Roedd eraill yn gallu hyrwyddo buddion iechyd a llesiant coed.

Er bod llawer o sectorau'n cael eu cynrychioli'n dda, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol fod angen ehangu apêl Datganiadau Ardal y tu hwnt i'r 'bobl arferol'. Mae angen i gymunedau a'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd gymryd rhan (hyd yn hyn, roedd cyfranogwyr o'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd ond yn cyfri am 15% o'r sawl a gymerodd ran). Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, anfonwyd gwahoddiadau at oddeutu 2,500 o fusnesau bach a chanolig, eto mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Cymru Ifanc, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn cyfrannu at y Datganiad Ardal ac, yn y broses, yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu grymuso.

Rydym bob tro wedi cydnabod pa mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau, ac rydym yn y broses o ystyried y ffordd orau o wneud hynny er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd wedi cael eu trafod hyd yn hyn. Gadewch i ni eich sicrhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ac yn cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n rhannu nodau neu ddibenion cyffredin, gan eu helpu i lunio a chyflawni'r Datganiad Ardal fel ei fod o fudd i'w cymunedau lleol.

Plant yn gwneud ymarfer corff yn yr ysgol goedwig

Beth yw'r camau nesaf?


Drwy gydol 2020, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal. Rydym yn disgwyl i fwy o gyfleoedd godi wrth i'r broses ymgysylltu fynd yn ei blaen.

Mae'r camau gweithredu i CNC a'n rhanddeiliaid yn cynnwys y canlynol:

  • Ceisio ehangu apêl proses y Datganiad Ardal, gan annog sefydliadau i ddeall bod hyn yn rhywbeth y gallant ei llunio, dylanwadu arni ac ymgysylltu â hi

  • Adolygu'r Datganiad Ardal yn gyson, gan ddatgelu syniadau a thystiolaeth newydd sy'n dod i'r amlwg, ynghyd â thrafodaethau sy'n cael eu cynnal

  • Parhau i fapio'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus, gan estyn allan i sectorau a sefydliadau nad ydyn ni wedi siarad â hwy hyd yn hyn

  • Cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n cyfrannu at y Datganiad Ardal, a chael mwy o ymdeimlad yn y broses o ran ai'r cyfleoedd sy'n cael eu nodi yw'r rhai cywir

  • Annog amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddod ynghyd a ffurfio grŵp ffocws 'thema' i ddatblygu'r cyfleoedd a nodwyd ymhellach

  • Annog ffyrdd newydd o weithio, i gydberthnasau newydd gael eu meithrin, a pharhau i feithrin ymddiriedaeth gyda'n partneriaid presennol

  • Cynnwys adborth o sesiynau ymgysylltu Cymru Ifanc yn y Datganiad Ardal

  • Cyfeirio partneriaid a chymunedau tuag at gyfleoedd am ariannu sy'n cefnogi cyflawniad y Datganiad Ardal, gan gynnwys rhaglen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun

  • Codi pwyntiau a thrafodaethau penodol am bolisi sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal yn ein rôl fel prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru

  • Gwella'n defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wrth ystyried ffyrdd arloesol eraill o gynnwys pobl ym mhroses y Datganiad Ardal

Sut mae'r hyn rydym wedi'i gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r egwyddorion sy'n sail i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn hanfodol i broses y Datganiad Ardal. Wrth wraidd ei ddatblygiad mae ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd. Rydym wedi ceisio dechrau sgyrsiau sy'n bwysig, gan ofyn i bobl siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod, neu na fyddent fel arall yn siarad â hwy. Wrth wneud hynny, daeth yn glir fod llawer yn rhannu gweledigaeth debyg o'r dyfodol, un a oedd yn y pen draw yn gosod y sylfeini ar gyfer ein pum thema. Er bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n heriol, roeddent bob tro'n werth chweil ac yn gynhyrchiol.

Mae'r broses hon wedi'n helpu i ddiffinio'r broblem ar y cyd ac ennill dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r camau gweithredu posib, cyn penderfynu ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i gyflawni'n 'gweledigaeth' a rennir. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o ran sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio. Yn y gorffennol, rydym wedi parhau gyda'n hopsiynau dewisol heb ymgysylltu na chwilio am unrhyw fath o gonsensws. Yr her nawr yw gweithio gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cymunedau wrth lunio, ac yn y pen draw, gyflawni'r cyfleoedd hyn.

Bydd y Datganiad Ardal yn galluogi pob un ohonom i wneud penderfyniadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu nid yn unig ar yr wybodaeth sydd gennym, ond tystiolaeth mae ein partneriaid yn ei darparu. Bydd llawer o'r data ar gael i bawb drwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu model mapio gofodol i gefnogi cynllunio datblygu, yn benodol mewn perthynas â seilwaith gwyrdd trefol, creu coetir a bioamrywiaeth. Dylai hyn, ynghyd â pheth o'r dystiolaeth y mae ein rhanddeiliaid wedi'i chasglu, sicrhau y bydd gan Ddatganiadau Ardal ran ganolog yn y broses o ddatblygu cynlluniau datblygu lleol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth o hyd, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni ddiogelu ein hecosystemau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu drwy feithrin gwydnwch. Mae perthynas gref rhwng cynyddu gorchudd coetir, ein pedair thema Datganiad Ardal arall, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyng-gysylltu. Mae'r holl themâu hyn wedi'u dylunio i wneud ein gwasanaethau ecosystemau’n fwy gwydn, i liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i helpu'n cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid. Unwaith eto, nid yw rhai o'r manylion am sut orau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn wedi cael eu trafod. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd mwyhau llawer ohonynt naill ai trwy ddilyn y llwybr seiliedig ar ogledd-ddwyrain Cymru a ddiffinnir yma, neu drwy ymgymryd ag ymagwedd fwy rhanbarthol.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn rhagweld y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch coedtiroedd a rheoli tir yn gynaliadwy fel ffordd o ymgysylltu ymhellach. Caiff manylion eu cyhoeddi wrth i broses y Datganiad Ardal ddatblygu.  Os ydych am gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch northeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf