Hoffem glywed gennych


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i ennyn gwell dealltwriaeth o'r modd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

Rydym yn awyddus i glywed eich barn a'ch syniadau ynghylch sut y gall y diwydiant gwastraff gyfrannu at broses y Datganiadau Ardal. Cysylltwch â ni os hoffech rannu eich safbwyntiau, y byddant (a) yn cael eu darllen gan dîm polisi gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â thimau eraill Cyfoeth Naturiol Cymru, a (b) y gellid eu defnyddio i greu cyfleoedd drwy lunio a datblygu Datganiadau Ardal yn y dyfodol. 

Gallwch gysylltu â'r tîm polisi gwastraff drwy ganolfan cyswllt cwsmeriaid Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi yn eich e-bost ei fod at sylw'r tîm polisi gwastraff. 

 

byrn o ganiau yn barod ar gyfer y ffwrnais chwyth

Diwydiant gwastraff a Datganiadau Ardal


Mae Cymru yn anelu at ddod yn genedl dim gwastraff erbyn 2050 drwy symud tuag at yr hyn a elwir yn economi gylchol. Mae economi gylchol yn ymwneud â defnyddio deunyddiau a chynhyrchion cyhyd â phosibl, gan fanteisio i'r eithaf ar eu gwerth cyn eu hailgylchu. Mae strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru yn amlinellu camau gweithredu amrywiol a fydd yn galluogi Cymru i gyflawni hyn.

Mae atal gwastraff rhag cael ei gynhyrchu a defnyddio gwastraff fel adnodd yn gamau pwysig ar y daith i greu economi gylchol. Mae gan y ddau y potensial i leihau effeithiau ein gweithgarwch economaidd ar yr amgylchedd yn sylweddol, y tu mewn a thu allan i Gymru, yn ogystal â chyflwyno manteision i'r economi.

I weithio tuag at hyn mae angen i Gymru wneud y canlynol:

  • Symud i fyny'r hierarchaeth gwastraff drwy roi blaenoriaeth i atal ac ailddefnyddio gwastraff yn y broses o reoli, dylunio cynnyrch, gweithgynhyrchu a defnyddio gwastraff

  • Adeiladu ar lwyddiannau ailgylchu presennol drwy wella ansawdd y deunydd sydd ar gael i'w ailgylchu, ac ehangu gofynion ailgylchu i'r diwydiant a busnesau ledled Cymru

  • Annog newid mewn ymddygiad drwy gyfrwng addysg a chyfathrebu

  • Lleihau effaith gwastraff yn fyd-eang drwy leihau allforion gwastraff a gwella ein seilwaith gwastraff, gan gynyddu'r gallu i brosesu gwastraff yn agosach at gartref

  • Lleihau'r defnydd o eitemau untro

  • Gwella dulliau gweithgynhyrchu a dylunio er mwyn ystyried cylch bywyd cyflawn cynnyrch

  • Gwella'r dull o olrhain gwastraff drwy gyflwyno system electronig orfodol gan sicrhau bod data gwastraff cyflawn, cywir a hygyrch ar gael ar gyfer gwastraff sy'n cael ei symud yng Nghymru

  • Gweithredu'r hyn a elwir yn 'Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ' (EPR) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr dalu cost net lawn rheoli eu cynhyrchion ar ddiwedd eu hoes, gan annog defnydd mwy cynaliadwy o adnoddau

Gwaith ar y cyd


Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru, gan ddechrau sgyrsiau ynghylch sut y gallwn fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd mewn ffyrdd sydd o fudd i'n cymdeithas, ein heconomi a'n hamgylchedd. Dyma ddiben y Datganiadau Ardal. Bwriad y sgyrsiau hyn yw dod â rhwydweithiau o bobl o wahanol sectorau a disgyblaethau at ei gilydd, oherwydd ni all yr heriau a wynebwn ar hyn o bryd gael eu rheoli gan un sector yn unig. 

Canfod themâu Datganiadau Ardal


Ceir disgrifiad llawn o'r themâu gwahanol sy'n dod i'r golwg ledled Cymru yma:


Rydym yn gofyn i bobl ddarllen y wybodaeth a geir yn y Datganiadau Ardal ac ystyried sut y gall eu helpu yn eu meysydd gwaith perthnasol a'r penderfyniadau a wneir ganddynt o ddydd i ddydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni a rhanddeiliaid eraill, gadewch i ni wybod (gweler 'Cysylltu â ni' isod).

Cyllid


I gael gwybodaeth am rai o'r cyfleoedd ariannu sydd ar gael i'r diwydiant gwastraff, ewch i:


WRAP Cymru/Y Gronfa Economi Gylchol 

Cynhyrchion hylendid amsugnol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf