© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Pam y thema hon?

Mae canol de Cymru yn ardal sydd â nifer o amgylcheddau dŵr o'r ansawdd gorau. Maent yn dangos gwydnwch natur, a hwythau wedi’u hadfer ar ôl cael eu hesgeuluso am genedlaethau o ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol ac maent bellach yn fwrlwm o weithgarwch dyfrol. Eogiaid yn afon Taf – pwy fyddai wedi credu hynny yn 1970?

Mae'r amgylcheddau dŵr hyn yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer llesiant - drwy gyfleoedd hamdden, eu rolau mewn adfywio, yn ogystal â thrwy'r gwasanaethau ecosystemau hanfodol y maent yn eu darparu ar gyfer cymunedau lleol.

Dyn a phlentyn ym mhwll Kenfig

Wedi dweud hynny, mae'r ecosystemau hyn yn dal i wella o etifeddiaeth y gorffennol yn ogystal â phwysau amgylchedd trefol sy'n tyfu. Mae llawer i'w wneud er mwyn eu gwneud yn fwy addasadwy a gwydn ar gyfer newid, gan alluogi adferiad parhaus bioamrywiaeth. Bydd hyn yn gofyn bod y buddion y mae'r amgylcheddau hyn yn eu darparu ar gyfer llesiant yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi'n briodol.

Er mwyn gwella'r darlun cyffredinol, mae angen i ni gyd fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o ran sut rydym yn rheoli ein hamgylcheddau dŵr yng nghanol de Cymru. Mae hynny'n golygu dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, gan ddefnyddio dull sy'n llwyr integredig yn hytrach na'r dull traddodiadol o fynd i'r afael â materion unigol trwy raglenni unigol. Trwy ddeall prosesau naturiol a gwerthfawrogi'r amgylchedd naturiol, gallwn fod yn fwy uchelgeisiol am yr hyn rydym am ei gyflawni. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, gallwn ennill dealltwriaeth well o'n hamgylcheddau dŵr a'r pwysau y maent yn eu hwynebu.

Mae nifer o fentrau partneriaeth arloesol yn bodoli'n barod yng nghanol de Cymru, sy’n newyddion da. Nawr, mae angen mynd â hyn i'r lefel nesaf a thu hwnt, gyda'r nod yn y pen draw o sicrhau bod cymunedau yn ymgysylltu â'r amgylcheddau dŵr sydd ar stepen eu drws a chreu gwerth a rennir o ran y buddion y maent yn eu darparu. Rydym am iddynt gael eu gwerthfawrogi a'u dathlu, nid eu hanwybyddu na'u cymryd yn ganiataol.

Bydd datblygu y Datganiad Ardal yn y dyfodol yn nodi tystiolaeth ynghylch ein hadnoddau naturiol a'r buddion a gwasanaethau y gallant eu darparu. Drwy wella dealltwriaeth pobl o'r buddion a'r gwasanaethau hyn, gyda'n gilydd gallwn ddechrau mynd i'r afael â nifer o'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol wrth i ni wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, gan gynnwys: 

  • Gwrthdroi’r dirywiad i fioamrywiaeth

  • Lleihau'r perygl o lifogydd

  • Cefnogi’r broses o liniaru ac ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd trwy ddulliau rheoli ar lefel yr ecosystem

  • Gwella ansawdd ein dŵr

  • Diogelu a chynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas 

  • Gweithredu i leihau pwysau ar adnoddau naturiol, er enghraifft trwy effeithlonrwydd adnoddau ac ynni adnewyddadwy

Traeth Aberthaw

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Byddai llwyddiant yn golygu bod ecosystemau yng nghanol de Cymru (yn enwedig ein hucheldiroedd a'n ecosystemau dŵr croyw) yn cael eu rheoli mewn modd sy'n cynnal a gwella eu gwydnwch, gan gynyddu’r gwasanaethau y maent yn gallu eu darparu trwy gyflawni Polisi Adnoddau Naturiol 2017 Llywodraeth Cymru.

Mae ein thema gyntaf (Adeiladu ecosystemau gwydn) yn nodi'r ecosystemau yn ein hardal lle gall ymyriadau wella gwydnwch wrth ddarparu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol hefyd. Mae canol de Cymru yn cefnogi nifer o amgylcheddau dŵr croyw o ansawdd uchel, fel y soniwyd amdanynt yng nghynt, ac mae'r ecosystemau hyn yn dal i gael eu hadfer o ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol, yn ogystal ag wynebu pwysau gan yr amgylchedd trefol a newid yn yr hinsawdd. Mae cynefinoedd ucheldiroedd hefyd yn cael eu diraddio, sy'n deillio’n rhannol o arferion rheoli tir hanesyddol a phresennol. O ganlyniad, nid yw'r buddion y mae'r amgylcheddau hyn yn gallu eu cynnig i gymunedau lleol yn cael eu gwireddu'n llawn.

Mae'r mecanweithiau ar gyfer cyflawni a nodwyd yn ein hail thema (Cysylltu pobl â natur) yn cefnogi dull o reoli’r ecosystemau hyn yn gynaliadwy, gan ddarparu buddion lleol megis amddiffyniad gwell rhag peryglon megis llifogydd a thanau gwyllt, mesurau lliniaru ac addasu i'r hinsawdd gwell, yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr a'r cyflenwad ohono, sydd yn eu tro, yn cefnogi cyfleoedd ehangach ar gyfer adfywio a llesiant.

Mae'r ecosystemau dŵr croyw a mawn yn darparu'r cyfleoedd gorau ar gyfer buddion o ran adfer dalgylchoedd, gan ddarparu datrysiadau sy'n seiliedig ar natur sy'n mynd i'r afael ag anghenion gwasanaeth ecosystemau. Ymysg y datrysiadau hynny a nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol mae:

Cynnal, gwella ac adfer gorlifdiroedd a systemau hydrolegol i leihau’r risg o lifogydd ac i wella ansawdd dŵr a’r cyflenwad ohono

Mae nifer o gyrsiau dŵr yng nghanol de Cymru wedi'u haddasu'n fawr o ganlyniad i orffennol diwydiannol yr ardal, gyda chymunedau wedi'u hadeiladu at ymylon afonydd. O ganlyniad, mae prosesau naturiol yr afonydd hynny wedi'u haddasu gan arwain at gynefinoedd mewnffrwd ac ansawdd dŵr gwael, yn ogystal â risg cynyddol bod cymunedau yn profi llifogydd. Yma, byddai llwyddiant yn golygu gwella gwydnwch ecosystemau dŵr croyw, gan wella ei allu i addasu i newid yn yr hinsawdd, rheoli llifoedd eithafol, gwella cysylltedd yr ecosystem afonol, a darparu buddion dilynol i bobl a bywyd gwyllt.

Adfer ein hucheldir a’i reoli o safbwynt diogelu buddion bioamrywiaeth, carbon, dŵr, perygl llifogydd, ynni a hamdden

Fel y soniwyd yn barod, mae cynefinoedd ein hucheldiroedd wedi diraddio. Mae mawn yn gorchuddio 2,800 hectar ar draws canol de Cymru, a cheir hyd i 80% ohono yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag, mae cyflwr y mawn yn waeth na'r cyfartaledd cenedlaethol, gyda gorchudd tir sydd wedi'i addasu yn meddiannu 70% o'r mawn dwfn ar hyn o bryd. Byddai llwyddiant yma yn golygu adfer a gwella'r cynefinoedd ucheldir hyn er mwyn manteisio ar y cyfleoedd y maent yn gallu eu darparu ar gyfer dŵr glân, bywyd gwyllt, diogelu rhag peryglon megis llifogydd a bywyd gwyllt, mynediad a hamdden.

Argae mawn

Cynyddu’r seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac o’u hamgylch

Mae pwysau ar ein hen seilwaith yn bryder allweddol yng nghanol de Cymru, gydag ymdreiddiad dŵr wyneb i mewn i'n systemau carthion cyfunedig yn achosi gorlwytho gan arwain at lygredd. Yma, byddai llwyddiant yn golygu integreiddio datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, megis systemau draenio cynaliadwy, i mewn i seilwaith gwyrdd trefol er mwyn lliniaru'r pwysau ar ardaloedd trefol, ac addasu cymunedau ar gyfer perygl uwch o lifogydd.

Lleihau'r perygl o lifogydd

Gall llifogydd ddigwydd pan fydd afonydd ac isafonydd yn gorlifo, neu o ganlyniad i ddŵr wyneb. Er mwyn lleihau perygl llifogydd yng nghanol de Cymru, rydym yn gwybod na fydd adfer dalgylchoedd yn unig yn ddigon i helpu ein cymunedau i addasu ar gyfer effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Byddai llwyddiant yn golygu bod ymyriadau adfer dalgylchoedd yn gweithio ochr yn ochr ag amddiffynfeydd llifogydd ffisegol, lleihau brigau mewn llif a, lle bo'n bosibl, yr angen am amddiffynfeydd rhag llifogydd ffisegol ychwanegol a drutach sy’n fwy o faint, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y perygl uwch o lifogydd.


Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Rydym wedi ymgysylltu'n eang ar draws y sector amgylcheddol gyda chyrff megis Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, awdurdodau lleol a chyrff anllywodraethol, yn ogystal â chynrychiolwyr rheoli tir, gan ddatblygu dealltwriaeth a rennir o wydnwch ecosystemau dŵr croyw. Rydym hefyd wedi ymgysylltu'n fewnol â staff Cyfoeth Naturiol Cymru ar draws swyddogaethau amrywiol (perygl llifogydd, rheoli amgylcheddol a rheoli tir) er mwyn mireinio ein dealltwriaeth o'r pwysau a'r peryglon sy'n wynebu ein hamgylcheddau dŵr. Trwy'r Datganiad Ardal, rydym yn ceisio datblygu ffyrdd newydd o weithio yn fewnol ac yn allanol ar draws swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan addasu dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer rheoli dalgylchoedd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod llawer o waith i'w wneud o hyd o ran archwilio cyfleoedd gyda phartneriaid allanol, rhai sy'n hyrwyddo dull ehangach o reoli dalgylchoedd yn ogystal â gwella ein llesiant cyffredinol.

Beth yw'r camau nesaf?


Bydd ein gwaith ymgysylltu parhaus o ran ein Datganiad Ardal yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei alw'n ‘Dalgylchoedd â chyfleoedd’. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid allanol i nodi tasgau y gallwn gydweithio arnynt ar gyfer rheoli dalgylchoedd amgylchynol, a sut y gallai hynny gyflawni buddion ehangach o ran llesiant.

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig dalgylch Taf/Elái fel ein ‘Dalgylch â chyfleoedd’ cychwynnol yng nghanol de Cymru, gyda ‘Pobl’ yn brif drywydd. Yn cwmpasu poblogaeth o oddeutu 400,000 o bobl ac yn llifo drwy brifddinas Cymru, mae'r ‘Dalgylch â chyfleoedd’ hwn yn cynnig cyfle i ni i archwilio cysylltiad pobl â'r amgylchedd dŵr, yn ogystal â chynyddu’r buddion y mae ecosystem dŵr croyw gwydn yn eu darparu.

Rydym yn rhagweld y bydd rhan annatod o'r gwaith hwn yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu/trafodaethau ar draws ardal Taf/Elái i archwilio cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid strategol ar wella ac adfer y dalgylch, gan wneud ein cymunedau yn fwy gwydn.

Mae'n rhaid adeiladu ar fentrau cyffrous er mwyn nodi cyfloed i weithio ar y cyd, rhai sy'n ceisio cyflawni blaenoriaethau'r Polisi Adnoddau Naturiol ar gyfer datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, gan fynd ar drywydd camau gweithredu megis:

  • Archwilio ffyrdd o adfer prosesau naturiol i wneud ein hamgylcheddau dŵr croyw yn fwy gwydn ar gyfer pobl a bywyd gwyllt, er enghraifft wrth gysylltu ag awdurdodau rheoli llifogydd arweiniol ynghylch datrysiadau sy'n seiliedig ar natur sy'n ategu ar amddiffynfeydd llifogydd presennol

  • Bydd defnyddio ffyrdd newydd o weithio, trwy ‘Dalgylch â chyfleoedd’, yn galluogi partneriaid strategol i ddatblygu dull integredig ar gyfer adfer dalgylchoedd ac afonydd sy'n defnyddio adnoddau adeiledig a naturiol i gyflawni buddion llesiant

  • Rheoli a gwella gwydnwch cynefinoedd ucheldiroedd er mwyn manteisio ar gyfleoedd y maent yn gallu eu darparu ar gyfer dŵr glân, bywyd gwyllt, diogelwch rhag peryglon megis llifogydd a bywyd gwyllt, mynediad a hamdden

  • Creu gwerth a rennir o'r amgylchedd dŵr, hyrwyddo ei rôl llesiant ac adfer drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi'i alinio i gynlluniau lleol/rhanbarthol presennol megis Parc Rhanbarthol y Cymoedd

  • Archwilio rôl datrysiadau sy'n seiliedig ar natur gyda rhanddeiliaid allweddol megis Dŵr Cymru ac awdurdodau lleol o ran rheoli effaith dŵr wyneb ar ansawdd dŵr a pherygl llifogydd, lleihau costau trin dŵr, y pwysau ar hen seilwaith a datblygu sylfaen dystiolaeth leol i lywio asesiadau seilwaith gwyrdd a mecanweithiau cyflenwi eraill

  • Datblygu dealltwriaeth o berygl llifogydd a gweithio gyda chymunedau a busnesau lleol i'w helpu i addasu'n well i newid yn yr hinsawdd


Sut mae'r hyn rydym wedi'i gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae ecosystemau iach a gwydn yn rhoi buddion hanfodol a chynhenid i ni ar gyfer ein bywydau a'n llesiant. Drwy ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o statws dŵr croyw ac amgylcheddau ucheldir yng nghanol de Cymru, yn ogystal â chonsensws ynglŷn â sut i reoli pwysau sy'n effeithio ar yr amgylcheddau hyn orau, gallwn ddechrau adeiladu gwydnwch o fewn ecosystemau, gan gynyddu’r gwasanaethau y gallant eu darparu drwy gyflenwi'r Polisi Adnoddau Naturiol.

Bydd rheoli ecosystemau yn gynaliadwy - wedi'i gefnogi gan fecanweithiau cyflenwi allweddol megis cynlluniau datblygu lleol, cynllun Ffermio Cynaliadwy a'n Tir Llywodraeth Cymru, a phartneriaethau sydd wedi'u hanelu at gyflawni cyfleoedd ar dir sy'n eiddo'r cyhoedd - yn ein helpu i ddiwallu anghenion lleol buddion gwasanaeth yr ecosystem. Fel y datganwyd yn barod, mae'r rhain yn cynnwys diogelwch gwell rhag peryglon megis llifogydd a thanau gwyllt, mesurau lliniaru ac addasu gwell o ran yr hinsawdd, yn ogystal â gwell ansawdd dŵr a'r cyflenwad ohono. Gall hyn, yn ei dro, gefnogi cyfleoedd ehangach ar gyfer hamdden a llesiant.

Mae gofynion deddfwriaethol newydd yn cefnogi dull ‘rheoli dalgylch’ mwy integredig er mwyn nodi gweithrediadau cydgysylltiedig er mwyn rheoli ansawdd dŵr a rheoleiddio llifoedd isel ac uchel. Fodd bynnag, un o heriau mabwysiadu dull sy'n gwbl integredig yw'r angen i newid o raglenni gwaith gweithredol, mwy traddodiadol, lle cymerir camau gweithredu i fynd i'r afael ag un mater, i fesurau sy'n gwireddu buddion rheoli dalgylch yn gyffredinol.

Trwy waith ymgysylltu Datganiad Ardal pellach, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn integreiddio ffyrdd newydd o weithio (yn fewnol ac yn allanol gyda phartneriaid strategol) i gyflawni gwaith adfer dalgylch ar raddfa tirwedd ystyrlon. Byddwn hefyd yn hyrwyddo datrysiadau sy'n seiliedig ar natur er mwyn mynd i'r afael â nifer o effeithiau amgylcheddol hirdymor megis ansawdd dŵr gwael, perygl llifogydd uchel a cholli cynefinoedd.

Ein nod hirdymor yw gweld bod cymunedau lleol yn darganfod lefel newydd o ymgysylltu gyda'r tirweddau godidog ar stepen eu drws, gan werthfawrogi pwysigrwydd y cynefinoedd hyn a'r gwasanaethau ecosystemau maent yn eu darparu ar gyfer ein llesiant.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng nghanol de Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. Gyda hynny mewn golwg, rydym am annog pobl i gysylltu â natur. Mae proses y Datganiad Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu’r camau nesaf. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ebostio ni ar southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?



Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?


Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf