© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Ynglŷn â'r ardal hon


Mae De-orllewin Cymru yn gornel amrywiol o'r wlad, o’r ucheldiroedd garw i arfordir eang a phrydferth. Mae'n cynnwys Mynyddoedd y Preseli a chymoedd Cleddau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ffermdir tonnog Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, aberoedd ysgubol a rhostiroedd ucheldir, yn ogystal â choedwigoedd sy'n estyn tuag at Fynyddoedd y Cambria a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain) yn Abertawe yn cynnwys clogwyni creigiog, pentiroedd a baeau tywodlyd, tra bod yr arfordir gogleddol yn nodedig am ei forfeydd heli aberol llydan a golygfeydd eang. Mae cymoedd diwydiannol hanesyddol afon Tawe, afon Nedd ac afon Dulais yn nodwedd Castell-nedd Port Talbot.

Yn ogystal â'n darparu â thirwedd ryfeddol, mae'r amgylchedd naturiol yn helpu i'n cadw'n hapus ac yn iach ac yn cefnogi ein heconomi. Rydym am ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o reoli, diogelu a gwella'r asedau naturiol hyn fel y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i fwynhau'r buddion pwysig y maent yn eu darparu.

Mae'r Datganiad Ardal hwn yn cynrychioli adlewyrchiad o'r gwaith rydym wedi'i wneud yn Ne-orllewin Cymru. Mae hyn wedi bod yn ffordd wahanol o weithio – taith o integreiddio, casglu tystiolaeth, ymgysylltu'n lleol a chydweithredu. Y daith fu agwedd allweddol y gwaith hwn, gan weithio gyda phartneriaid, hen a newydd, i greu gweledigaeth a rennir ar gyfer sut y gellir rheoli ein hadnoddau naturiol i gyflenwi mwy ar gyfer ein cymunedau lleol, yr economi a'r amgylchedd.

Mae'r Datganiad Ardal yn nodi'r risgiau, cyfleoedd a blaenoriaethau allweddol sydd angen i ni gyd fynd i'r afael â nhw er mwyn adeiladu gwydnwch ein hecosystemau a chefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'n nodi camau gweithredu y byddwn ni a'n partneriaid yn eu datblygu er mwyn mynd i'r afael â’r materion rydym wedi'u nodi.

Rydym wedi seilio'r strwythur o amgylch pedair thema allweddol. Maent wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio tystiolaeth, cyfranogiad lleol ac ymgysylltu cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n berthnasol yn lleol o heriau a chyfleoedd y Polisi Adnoddau Naturiol. Wrth nodi cyfleoedd a'n camau gweithredu, rydym wedi defnyddio blaenoriaethau cyflenwi'r Polisi Adnoddau Naturiol.

Casglu'r dystiolaeth


Rydym wedi crynhoi ein tystiolaeth am yr adnoddau naturiol yn y De-orllewin i greu proffil o'r ardal hon. Mae Proffil Ardal y De-orllewin yn darparu crynodeb o dystiolaeth gadarn am yr amgylchedd, y buddion mae’n eu darparu, a'r problemau mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd.

Mae wedi ffurfio sylfaen ar gyfer ein sgyrsiau wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal.

Rydym wedi cynnwys cymaint o sectorau â phosibl er mwyn dal yr ystod ehangach o safbwyntiau ac arbenigedd. Bydd hyn yn adlewyrchu'r rhwydwaith presennol yn yr ardal, sydd wedi bod o gymorth mawr i ni lle mae'r rhwydweithiau hyn yn gadarn. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol fel undebau ffermio a chymdeithasau genweirio wedi'u cynnwys, yn ogystal â diwydiant mawr yn yr ardal. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod grwpiau nad ydym wedi gallu eu cyrraedd eto.

Rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid, fel cyrff anllywodraethol amgylcheddol, wedi cael trafferth o ran rhoi'r un amser i bob Datganiad Ardal oherwydd diffyg cyllid ac amser wedi'u neilltuo ar gyfer polisïau’r llywodraeth. Efallai na fydd eraill, fel pobl ifanc neu sectorau eraill, yn gweld perthnasedd ein gwaith eto. Ond gellir deall hyn oherwydd nid yw'r cynnyrch hwn yn absoliwt eto – mae'n grynodeb o'n sgyrsiau hyd yn hyn, ac yn gynnig ar gyfer eraill i barhau i weithio gyda ni i'n helpu i ganfod atebion.

Ymgysylltiad Datganiad Ardal – cyfranogwr mewn gweithdy yn lluniadu ar fap. Llun gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru


Rydym wedi paratoi’r Datganiad Ardal cyntaf hwn yn erbyn cefndir datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng yn yr hinsawdd a byd natur. Mae'r ddau fater hyn yn rhyng-gysylltiedig ac maent ynddynt eu hunain yn symptomau o reoli adnoddau naturiol yn anghynaliadwy; cymaint felly fod llawer o bobl yn disgrifio'r cyfnod hwn rydym yn byw ynddo fel yr “Anthroposen” – cyfnod pan weithgarwch dynol yw’r dylanwad llywodraethol ar yr hinsawdd a'n hamgylchedd. Mae'r ffactorau sydd ar waith yma yn gymhleth ac mae angen dull systemau cyfan. Fel y cyfryw, mae'r ddau fater yn ymddangos ar draws ein holl themâu, ond serch hynny teimlwyd eu bod hefyd yn haeddu bod yn themâu yn eu rhinwedd eu hunain.

Ein themâu yw:

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – De Orllewin Cymru (PDF)

  • ffermdir caeedig
  • y môr
  • mynyddoedd
  • gweundir
  • rhos
  • dŵr agored
  • gwlyptiroedd 
  • gorlifdiroedd
  • glaswelltir lled-naturiol
  • trefol
  • coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – De Orllewin Cymru (PDF)

Map yn dangos ardaloedd o Ddynodiadau Statudol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru:

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
  • Parc Cenedlaethol

Tir comin De Orllewin Cymru (PDF)

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – De Orllewin Cymru (PDF) 

  • mae’n dangos ardaloedd o goedwig ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr – cydymffurfiaeth o ran afonydd, cyrff dŵr a dyfroedd ymdrochi (y data diweddaraf sydd ar gael - Mawrth 2020) (PDF)

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru De Orllewin Cymru 2019

  • mae’n dangos yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yn y Gogledd Ddwyrain

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?



Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?


Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf