Gwybodaeth am ymgynghoriadau

Ymgynghoriadau

Mae ymgynghoriad yn un o’r ffyrdd sy’n rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ar ddatblygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym am glywed eich syniadau a’ch awgrymiadau i’n helpu ni i wella’r ffordd rydym ni’n gwneud penderfyniadau am amrywiol agweddau ar ein gwaith. Rydym yn croesawu adborth gan unrhyw un â barn a sylwadau ar ein hymgynghoriadau cyfredol.

Pam rydym ni’n ymgynghori

Mae ymgynghori’n ein helpu ni i ddeall sut y gallai ein gwaith effeithio arnoch chi wrth i ni gyflawni ein cylch gwaith, darparu gwasanaethau i chi a chynnal ein gweithgareddau. Mae cael eich barn a’ch syniadau neu awgrymiadau o gymorth i ni. Rydym yn ymgynghori gan fod eich cyfraniad yn ein helpu ni i wella ein syniadau a llywio’n gwaith. Mae’n ein helpu i weithio’n fwy effeithiol. Rydym hefyd yn ymgynghori ar rai mathau o geisiadau am drwydded.

Sut rydym ni’n ymgynghori

Rydym yn ymgynghori mewn gwahanol ffyrdd - papurau ysgrifenedig ffurfiol, cyfarfodydd cyhoeddus, grwpiau ffocws ac ymarferion holiadur. Pan fyddwn yn lansio ymgynghoriad newydd byddwn yn darparu’r dogfennau perthnasol i sefydliadau ac unigolion sydd â buddiant ym mhwnc yr ymgynghoriad. Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion pob ymgynghoriad ffurfiol ar ein gwefan fel y gall unrhyw un sydd â diddordeb weld y dogfennau.

Does dim amser penodedig yn cael ei bennu ar gyfer ymgynghoriadau, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n para tua 12 wythnos. Pan fyddwn yn gofyn am eich barn a’ch sylwadau ar geisiadau am drwydded bydd y cyfnod ymateb tua 4 wythnos fel arfer. Bydd gan bob ymgynghoriad ddyddiad dechrau a dyddiad gorffen pendant.

Beth sy’n digwydd ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben?

Byddwn yn darllen pob ymateb ac yn ystyried pob barn fel rhan o’r broses.Yna, byddwn yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion, neu’r ymatebion unigol eu hunain, ar ein gwefan ac yn cadw copïau yn ein cofnodion (cânt eu nodi fel rhai dienw os ydych chi’n gofyn i ni wneud hynny). Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion camau nesaf yr ymgynghoriad.

Cysylltwch â ni

Rydym am i’n proses ymgynghori wella’n gwaith a bod yn fwy hygyrch i chi. Os hoffech leisio barn ar ein dull ymgynghori cysylltwch â ni.

Ebost
Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Ffôn
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am - 5pm)

Diweddarwyd ddiwethaf