Mae gan Ganolbarth Cymru dirwedd amrywiol a hanesyddol, sy'n golygu fod gan yr ardal hon ei hunaniaeth unigryw ei hun. Mae'n cynnwys cyfran helaeth o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y De, ucheldir y Berwyn yn y Gogledd gyda mynyddoedd Cambria yn ffurfio meingefn drwy’r canol. Mae'r bryniau yn arwain i lawr at arfordir garw Bae Ceredigion, sy’n rhedeg am 50 milltir yn y Gorllewin a’i ffermdir tonnog sy’n ymestyn draw i’r Gororau yn y Dwyrain.

Mae Canolbarth Cymru yn ymestyn dros draean o dir Cymru gyda phoblogaeth fechan yn byw mewn trefi bychain a chymunedau amaethyddol gwledig, o fewn awdurdodau lleol Ceredigion a Phowys. Mae gan yr ardal wahanol dirweddau gan gynnwys ucheldir Mynyddoedd Cambria ac arfordir Bae Ceredigion.

Mae colli bioamrywiaeth yn rhywbeth y mae angen i ni ei wyrdroi ar unwaith. Mae’r thema hon yn edrych ar yr hyn sydd ei angen ar raddfa leol yng Nghanolbarth Cymru i wella gwydnwch ac ansawdd ein hecosystemau. O fewn y thema hon, byddwn yn archwilio sut y dylem reoli cynefinoedd yn well er mwyn mynd i’r afael â chydbwysedd bioamrywiaeth drwy wella’r ffordd maent yn cysylltu. Bydd hyn yn ein helpu i ddechrau mynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru.

Mae tirlun, cymeriad a diwylliant Canolbarth Cymru wedi’u diffinio gan ffermio ac amaethyddiaeth, sydd wedi llunio’r ffordd o fyw yma ers canrifoedd, ac mae’n parhau i wneud

Amgylchedd naturiol Canolbarth Cymru yw un o asedau gorau’r ardal. Mae ei gymeriad gwledig yn cynnwys ucheldir anghysbell, mynyddoedd, arfordir, cronfeydd dŵr ac ardaloedd y gororau, sy’n ei wneud yn lleoliad delfrydol i ailgysylltu pobl â’r awyr agored.

Canolbarth Cymru yw prif gynhyrchydd pren Cymru. Mae coedwigoedd a choetiroedd yn cynnig buddiannau ychwanegol hefyd ar gyfer bioamrywiaeth, cadwraeth, hamdden a llesiant.

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o faterion diffiniol ein cyfnod. Rydym am sicrhau bod popeth rydym yn ei gyflawni drwy ein datganiad ardal yn ystyried argyfwng yr hinsawdd, gan fod yn rhan o'n hymateb iddo.