Mae Gogledd-ddwyrain Cymru'n cynnwys tair sir ar wahân, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n cynnwys cymunedau dinesig mawr, diwydiant, sawl un o brif wythiennau trafnidiaeth y wlad a rhai golygfeydd godidog.

 

Er mwyn cael diweddariadau cyson cofrestrestrwch â chylchlythyr Datganiad Ardal y Gogledd Ddwyrain

Rydym yn byw mewn ardal, sef Gogledd-ddwyrain Cymru, lle'r ydym yn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd, a lle mae ein tirweddau adeiledig a naturiol, ein seilwaith ategol, ein heconomi a'n cymdeithas yn barod am y newid yn yr hinsawdd ac yn gallu addas iddo a’i wrthsefyll.

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae gennym ardaloedd trefol gwyrddach a mwy croesawgar sy'n darparu manteision lluosog ac sy'n cefnogi pobl i fyw'n fwy iach ac mewn ffordd fwy gweithgar. Mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn cyflwyno amrywiaeth eang o fanteision amgylcheddol ac ar gyfer iechyd a llesiant i'n cymunedau.

Caiff gogledd-ddwyrain Cymru ei hadnabod am safon uchel ei choetiroedd. Bydd creu coetir o'r newydd yn adlewyrchu cymeriad y dirwedd a diwylliant lleol, ac ar yr un pryd bydd yn darparu'r llu o fuddion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol sydd gan goetiroedd a choedwigoedd i'w cynnig.

Rydym yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n fywiog ac yn fioamrywiol lle'r ydym yn gwrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, a lle caiff rhywogaethau a chynefinoedd allweddol eu gwerthfawrogi a'u deall gan ei chymunedau.

Mae system bwyd amaethyddol a rheoli tir cynaliadwy a gwydn sy'n cefnogi bywoliaethau, gwarchod pridd a dŵr, cynnal a gwella bioamrywiaeth ar yr un pryd â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cyfrannu'n sylweddol i fudd y cyhoedd.