Grant adfer mawndir
Er mwyn gwrthdroi colled cynefinoedd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru, rydym yn cynnig grantiau cyfalaf rhwng £10,000 a £250,000 ar gyfer adfer mawndiroedd. Gyda’i gilydd mae gwerth £700,000 ar gael drwy’r rhaglen grant.
Bydd y grant adfer mawndir yn galluogi unigolion a sefydliadau i gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd rhwng mis Ebrill 2026 a mis Mawrth 2027.
Blaenoriaethau i brosiectau
Bydd angen i bob prosiect fynd i’r afael ag un neu fwy o flaenoriaethau’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:
- Erydiad mawndiroedd
- Draeniad mawndiroedd
- Rheoli gorgorsydd yn gynaliadwy
- Rheoli mawndiroedd yr iseldir yn gynaliadwy
- Adfer mawndiroedd wedi’u coedwigo
- Adferiad graddol ein mawndiroedd sy’n allyrru’r mwyaf o garbon
Rhaid i’r mawndir fod yng Nghymru hefyd. Yn achos unrhyw gynigion trawsffiniol, dim ond yr elfen Gymreig y byddwn yn ei hystyried.
Bydd prosiectau a ariennir drwy grant yn y pen draw yn cyfrannu at gyflawni ein targed ar gyfer y dyfodol o 1800 hectar o waith adfer yng Nghymru bob blwyddyn.
Pwy all wneud cais
- Unigolion
- Sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Elusennau cofrestredig
- Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a sefydliadau ymchwil
- Sefydliadau’r trydydd sector
- Sefydliadau’r sector preifat
Profiad o adfer mawndiroedd
Rhaid i’r prif ymgeisydd ddarparu un o’r canlynol:
- Tystiolaeth o fod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn ystod y degawd diwethaf
- Cadarnhad o gefnogaeth dechnegol gan bartner sydd â phrofiad ymarferol o adfer mawndiroedd, ac a all ddarparu cefnogaeth dechnegol briodol am gost y gefnogaeth yn unig
- Cadarnhad o gefnogaeth dechnegol gan gontractwr sydd â thystiolaeth o brofiad o gyflawni gwaith adfer mawndiroedd ymarferol, ac a all ddarparu cefnogaeth dechnegol briodol
Os darperir cymorth technegol drwy gyfrwng partneriaeth, rhaid sefydlu cytundeb partneriaeth ffurfiol cyn i unrhyw waith ddechrau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob parti’n deall ac yn cydymffurfio â thelerau’r dyfarniad grant.
Os yw’r partner technegol wedi’i gontractio a bod y costau cysylltiedig yn fwy na £5,000, rhaid cynnal proses dendro gystadleuol ar gyfer y gofyniad yn unol â’n rheolau caffael grantiau. Mae hyn er mwyn sicrhau gwerth am arian. Mae angen tri dyfynbris ysgrifenedig a chyfiawnhad dros eich dewis.
Ym mhob achos, waeth beth fo’r gost, rhaid i chi gadarnhau a darparu tystiolaeth bod gan y partner neu’r contractwr a ddewiswyd brofiad perthnasol o adfer mawndiroedd. Rhaid iddyn nhw hefyd allu darparu’r gefnogaeth dechnegol sydd ei hangen.
Faint allwch chi wneud cais amdano
Gallwch wneud cais am rhwng £10,000 a £250,000.
Gallwch ofyn am hyd at 100% o gostau eich prosiect.
Byddwn yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi.
Sicrhewch eich bod yn nodi’r targed ar gyfer nifer yr hectarau sydd i’w hadfer fel rhan o’ch cais (yn yr adran ‘disgrifiad o’r prosiect’ yn y ffurflen gais).
Byddwn yn rhoi ystyriaeth ffafriol i gyllid cyfatebol. Gall cyllid cyfatebol gynnwys:
- cyfraniad arian parod
- unrhyw gyllid allanol arall a gewch chi ar gyfer y prosiect
- amser gwirfoddolwyr
- amser staff
Pryd gallwch wneud cais
Byddwn yn derbyn ceisiadau o 15 Hydref 2025.
Rhaid i chi wneud cais erbyn 23:59 ar 14 Ionawr 2026.
Sut i wneud cais
Bydd angen cyfeirnod arnoch i ddechrau eich cais am grant.
Ein nod yw rhoi penderfyniad i chi ar eich cais erbyn 31 Mawrth 2026.
Rhaid i ymgeiswyr wario a hawlio 100% o werth y grant erbyn 31 Mawrth 2027. Ni chaniateir trosglwyddo unrhyw arian na wariwyd i’r flwyddyn ariannol ddilynol.
Y dyddiad olaf ar gyfer hawlio fydd 31 Mawrth 2027.
Dysgwch sut i baratoi a chyflwyno eich cais ar-lein.
Ar beth gewch chi wario grant
- Costau swyddi prosiect uniongyrchol, offer, contractwyr ac ymgynghorwyr, a ffioedd proffesiynol untro sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chostau prosiect.
- Costau staff yn ymwneud â chyflawni gwaith adfer cyfalaf. Mae’r rhain yn ymwneud â staff sy’n cael eu cyflogi gan yr ymgeisydd sy’n gweithio’n uniongyrchol ar y prosiect grant.
- Gellir hawlio costau staff partner hefyd fel costau staff prosiect uniongyrchol, ar yr amod eu bod yn adlewyrchu costau gwirioneddol, nad yw’r partner yn gwneud elw, ac nad yw wedi’i gontractio fel darparwr gwasanaeth masnachol. (Os yw’r partner yn darparu gwasanaethau ar sail gwneud elw neu’n codi TAW, bydd yn cael ei ddosbarthu fel contractwr, a dylid cynnwys ei gostau o dan ffioedd contractwr neu ymgynghori.)
- Costau rhwydweithio i gysylltu â rhanddeiliaid perthnasol (e.e. llogi lleoliad neu deithio).
- Taliadau ail-wlychu cydadferol (nodwch fod yn rhaid gwneud y taliadau hyn o fewn cyfnod y grant).
- Gorbenion – rydym yn defnyddio cyfradd unffurf o 15% o gostau staff prosiect uniongyrchol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau, ond byddwn hefyd yn derbyn Adennill Costau Llawn cyhyd ag y dangosir hynny gyda thystiolaeth lawn. Mae gorbenion yn cynnwys costau anuniongyrchol na ellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgaredd prosiect penodol ond sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad cyffredinol y sefydliad ac i gyflawni’r prosiect. Gallai’r rhain gynnwys y canlynol:
- cyflogau staff gweinyddol
- cyflogau staff rheoli
- rhent swyddfa a chyfleustodau
- seilwaith a chymorth TG
- cyflenwadau swyddfa cyffredinol
- yswiriant a gwasanaethau cyfreithiol
Gweithgareddau y gallwch eu cynnwys yn eich cais
- Gweithgareddau adfer sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o themâu blaenoriaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
- Gwelliannau mynediad er mwyn galluogi peiriannau i gyrraedd y safle, hyd at uchafswm gwerth o 15% o gyfanswm cost y prosiect
- Gwaith arolygu a mapio’r safle er mwyn dylunio ymyriadau (yn hytrach na monitro cyffredinol ac arolygon o gynefinoedd)
- Ymgysylltu â rheolwyr neu berchnogion tir
- Cwmpasu a chael caniatâd neu gydsyniad
- Gwaith dylunio technegol
- Costio dyluniad y gwaith adfer
- Datblygu manyleb sy’n barod i fynd i dendr
Ar beth chewch chi ddim gwario grant
- Costau refeniw (costau nad ydynt yn gysylltiedig â chyflenwi cyfalaf)
- Adfer cyfalaf nad yw’n cyflawni blaenoriaethau adfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
- Arolwg neu waith monitro heb ei gysylltu â gwaith adfer cyfalaf arfaethedig
- Clirio coed/prysgwydd lle nad oes unrhyw gamau rheoli cynaliadwy eraill, fel newidiadau i’r hydroleg neu i bori, yn cael eu rhoi ar waith hefyd
- Prynu offer fel coleri GPS/ffensys/seilwaith pori heb hyder y caiff ei ddefnyddio, e.e. drwy gytundeb pori
- Paneli gwybodaeth am y safle i ymwelwyr
- Llwybrau pren
- Ariannu gweithgareddau craidd eich sefydliad
- Gwaith rheoli neu gynnal a chadw parhaus
- Gwaith y tu allan i Gymru
- Ariannu gweithgareddau masnachol neu weithgareddau er elw
- Costau cynnal a chadw ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Cynlluniau lle mae’r gwaith wedi’i gwblhau neu ar y gweill
- Astudiaeth bersonol neu ddilyn cymwysterau academaidd neu broffesiynol unigol
- Gwaith sydd o fewn cylch gwaith statudol CNC
- I ariannu rhaglenni grant
- TAW (dylai’r costau eithrio unrhyw Dreth ar Werth y gellir ei adennill)
- Gweithgareddau y mae gennych neu y bydd gennych ddyletswydd i’w cyflawni drwy amodau cynllunio
Ni ellir defnyddio’r cyllid tuag at unrhyw brosiectau lliniaru na digolledu am ddifrod i fawndiroedd mewn mannau eraill.
Ni ellir derbyn y cyllid hwn ar y cyd ag unrhyw gynlluniau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r un canlyniadau, er enghraifft Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cynefin Cymru Glastir. Cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy i wirio a oes cyllid dwbl.
Beth fydd angen i dderbynwyr grantiau ei ddarparu wrth wneud cais
Ar gyfer prosiectau dichonoldeb (ar sail arolwg), byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr am grant nodi:
- lleoliad eu prosiect ar fap Mawndiroedd Cymru a/neu fod yn hyderus bod yr ardal arfaethedig ar fawn
- yr hectarau targed disgwyliedig ar gyfer y gwaith adfer.
Ar gyfer prosiectau cyflawni, dylai derbynwyr grant allu mesur a darparu:
- yr hectarau targed disgwyliedig ar gyfer y gwaith adfer
- cofnod GIS o ddata dyfnder mawn a lleoliadau’r ymyriadau arfaethedig, os ydynt ar gael
Bydd angen darparu cofnod GIS hefyd ar gyfer pob ymyriad yn ystod y gwaith o gyflawni eich grant.
Mathau eraill o ganiatâd neu gydsyniad
Os oes angen trwyddedau, cydsyniadau neu unrhyw fath arall o ganiatâd arnoch, bydd angen i chi gwblhau hyn yn ogystal â’r cais hwn am gyllid.
Rhaid i chi nodi unrhyw drwyddedau, cydsyniadau neu fathau eraill o ganiatâd sydd eu hangen ar eich ffurflen gais am grant. Chi fydd yn gyfrifol am gael pob cydsyniad perthnasol, cyn dechrau’r gwaith.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys amser ar gyfer hyn yn eich cynllun prosiect grant. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio ymlaen llaw pa gydsyniadau y mae eu hangen, ynghyd â’u hamseroedd prosesu, sy’n gallu cymryd sawl mis weithiau.
Os byddwch yn llwyddo i gael grant, nid yw’r dyfarniad yn gyfystyr ag unrhyw ganiatâd na chydsyniad arall y mae’n rhaid i chi ei gael er mwyn cyflawni’r gwaith, gan gynnwys y rhai sydd eu hangen gan CNC ei hun.
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA): cyfrifoldebau perchnogion a deiliaid
Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015
Cyn gwneud cais, gwiriwch a oes angen i’ch prosiect ddilyn Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 (Saesneg yn unig). Cyfrifoldeb derbynnydd y grant fydd sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.
Sut rydym yn sgorio ceisiadau
Dysgwch sut rydym yn sgorio ceisiadau am grant adfer mawndir cystadleuol.
Opsiynau eraill am gyllid
Os oes gennych ddiddordeb mewn adfer mawndir ond nad yw’r grant hwn yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â ni yn npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk