Sut cawn ein rheoli
Gwybodaeth am sut y cawn ein rheoli, aelodau ein Bwrdd, cyfarfodydd...
Mae effaith amlwg yr argyfwng natur a hinsawdd ar ein cymunedau bellach yn glir i bawb. O lifogydd dinistriol, tanau gwyllt, a sychder, i'r bygythiad bod rhywogaethau poblogaidd fel y gylfinir yn mynd i ddiflannu, mae digon o dystiolaeth i sicrhau bod pawb yn deall bod y rhain yn argyfyngau yn ystyr go iawn y gair, a bod angen cymryd camau gweithredu trawsnewidiol ar frys nawr.
Gydag ansicrwydd y sefyllfa economaidd a geowleidyddol bresennol yn gefndir i hyn, hawdd fyddai teimlo bod maint y dasg o dan sylw yn llethol. Ac eto, wrth i’r argyfyngau cysylltiedig hyn godi mewn pwysigrwydd ar agendâu gwleidyddol yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru, rydym wedi gweld mwy o lywodraethau, busnesau ac aelodau o'r cyhoedd yn ymuno â'r alwad frys i weithredu i atal dirywiad byd natur a lliniaru effaith y newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.
I'r perwyl hwn mae ein cynllun corfforaethol newydd yn nodi ein gweledigaeth hyd at 2030, gan egluro’r hyn sydd bwysicaf, a'n harwain trwy'r anawsterau anochel a fydd yn codi yn y blynyddoedd i ddod. Bydd angen i ni ddangos arweiniad gwirioneddol wrth i ni ysbrydoli ein gilydd, ein partneriaid, a phobl Cymru i gydweithio a gweithredu ar y cyd. Rwyf wedi mwynhau’r trafodaethau yr wyf wedi’u cael gyda’n staff ar wahanol ymweliadau ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn, a hoffwn dalu teyrnged iddynt am eu holl waith caled o ddydd i ddydd, ac am yr ymdrech a’r egni y maent wedi’u dangos wrth ddatblygu ein glasbrint ar gyfer y ffordd y byddwn yn gweithio yn y dyfodol.
Ar ôl gwrando ar ein cydweithwyr ac ar bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, mae’r cynllun yn edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn i’w ragflaenydd. Rydym wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i fabwysiadu dull mwy strategol ac integredig, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn gweithio ar draws ein timau, fel y gallwn, drwy gydweithio, arwain yr ymateb i’r argyfyngau byd-eang o ran byd natur, yr hinsawdd a llygredd yma yng Nghymru.
I mi, un o’r prif feysydd lle mae’n rhaid i ni ysgogi gwelliannau wrth weithio ar y cyd, yw dŵr. Fel rhan o'n hymroddiad i wella ansawdd dŵr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy wedi sefydlu Tasglu Ansawdd Dŵr Afon Gwell i werthuso’r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd stormydd yng Nghymru, ac i nodi cynlluniau manwl i ysgogi newid a gwelliant cyflym. Ond cam bach yw hwn ar hyd y daith i sicrhau bod ein hafonydd yn ffynnu am genedlaethau i ddod, a bydd yn rhaid cymryd nifer fawr o gamau gweithredu er mwyn gwarchod cynefinoedd ledled Cymru o ystyried yr heriau sydd i ddod.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu nifer o newidiadau i’n bwrdd wrth i aelodau ddod i ddiwedd tymor eu gwasanaeth gyda ni. Yn anffodus, rydym wedi ffarwelio â Karen Balmer a Zoe Henderson, y ddwy yn aelodau rhagorol sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’n gwaith. Yn fwy diweddar, mae pedwar aelod newydd wedi cael eu penodi, gyda Dr Peter Fox yn ymuno fel Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd, yr Athro Rhys Jones yn Gadeirydd Fforwm Rheoli Tir Cymru, Helen Pittaway yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Kathleen Palmer yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae Mark McKenna a'r Athro Calvin Jones yn aros ymlaen fel aelodau bwrdd llawn yn dilyn eu rolau interim.
Gyda'r cynllun corfforaethol wedi'i ddatblygu ac unigolion wedi'u penodi i bob swydd ar y bwrdd, rydym bellach yn awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni. Rwy’n hyderus bod gennym y fframweithiau ar waith i wneud hyn a’i wneud yn dda.
- Syr David Henshaw, Cadeirydd - 18 Hydref 2023
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio'r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid y Archwilydd Cyffredinol.
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau y gellid bod wedi'u gwneud i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn gyfan.
Adroddiad ar berfformiad 2022/23
Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon ar gyfer 2022/23 (PDF)