Adroddiad blynyddol 2023-24

Sir David Henshaw

Rhagair y cadeirydd

Bydd y degawd hwn yn dyngedfennol yn yr ymdrech fyd-eang i atal dirywiad byd natur ac atal effaith newid yn yr hinsawdd. Wedi’i lansio ddechrau haf 2023, mae ein cynllun corfforaethol, Byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd, yn nodi’n glir ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n hamcanion llesiant er mwyn mynd â ni at y garreg filltir honno yn 2030. Mae’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur wedi’u cydblethu; gan fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd gallwn ddod o hyd i atebion ar y cyd sy'n datrys y ddau. Ledled Cymru, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn gweithredu yn un o’r cyd-destunau economaidd anoddaf er cof. Mae angen i ni ddod ynghyd i ddefnyddio ein pŵer cyfunol a chydweithio ar draws y disgyblaethau a’r sectorau i ddatblygu dulliau arloesol gan wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau prin.

Mae fy ffocws personol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod ar ansawdd dŵr, a gallaf weld yr ystod o fanteision sy’n deillio o ffordd fwy cydweithredol o weithio. Diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC), rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda swyddogion, Ofwat a’r cwmnïau dŵr cyn y penderfyniadau hollbwysig ar fuddsoddiad cwmnïau dŵr hyd at 2030. Bydd yr Adolygiad Prisiau Cyfnodol 24 hwn yn pennu cyflymder a graddfa’r gwelliant gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy o ran gwella’u hasedau i leihau llygredd a chynnal sicrwydd y cyflenwad dŵr.

Ym mis Mawrth, cynheliais y bedwaredd uwchgynhadledd llygredd afonydd ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Julie James. Yn dilyn y cynnydd da a wnaed ynghylch adolygu trwyddedau ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff ar raddfa fwy, canolbwyntiodd yr uwchgynhadledd ar waith ehangach i wella ansawdd dŵr, gan gynnwys Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi, gwaith Pedair Afon LIFE a’r gwaith ymarferol a wnaed gan Afonydd Cymru ac eraill.

Eleni, ymunodd nifer o wynebau newydd â’n Bwrdd wrth i ni groesawu pum aelod newydd. Mae gweld newid ar y raddfa hon ar lefel bwrdd fel arfer yn dipyn o her, ond mae ein haelodau newydd wedi mynd ati’n ddidrafferth ac yn gwneud cynnydd mawr. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i’n haelod bwrdd sy’n gadael, yr Athro Peter Rigby, a ddaeth i ddiwedd ei ail dymor gyda ni eleni. Gwerthfawrogwyd ei gyfraniadau unigryw ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth y mae wedi ei rhoi i ni dros y blynyddoedd.

Yn olaf, rwyf am estyn fy ngwerthfawrogiad i’n holl weithwyr am eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn ystod cyfnod mor anodd. Rwy’n eu canmol am eu hymrwymiad parhaus a’u hangerdd dros sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau wrth fyw ein gwerthoedd.

 

Syr David Henshaw, Cadeirydd - 16 Hydref 2024

Archwilydd Cyffredinol Cymru: Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid y’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidadau y gellid bod wedi’u gwneud i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn gyntaf.

Adroddiad ar berfformiad

Adroddiad ar berfformiad 2023/24

Adroddiad atebolrwydd

Adroddiad atebolrwydd 2023/24

Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon

Datganiadau ariannol a nodiadau i’r cyfrifon ar gyfer 2023/24 (PDF)

Dadlwythwch gopi o'n hadroddiad blynyddol a chyfrifon 2023/24

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023/24 (PDF)

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf