Peiriannydd Perfformiad Asedau - Perygl o Lifogydd
Dyddiad cau: 27/07/2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Perygl Llifogydd a Dŵr, Gweithredau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 13/08/2025
Rhif swydd: 200266
Y rôl
A ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth go iawn wrth warchod cymunedau rhag effeithiau llifogydd?
Rydym am benodi Peiriannydd Perygl o Lifogydd brwdfrydig ac ymarferol i ymuno â’n tîm Perfformiad Asedau, sy’n cwmpasu gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd Powys. Wedi'i leoli yn un o'n swyddfeydd ym Mangor, Bwcle neu'r Trallwng, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o beirianwyr a thechnegwyr medrus sy’n cynllunio, yn rheoli ac yn cynnal asedau perygl o lifogydd hanfodol—popeth o argloddiau a muriau llifogydd i gatiau llanw a gorsafoedd pwmpio.
Gan ddefnyddio eich arbenigedd technegol a llygad craff am ddata a systemau gwybodaeth ddaearyddol, byddwch yn helpu i ddatblygu rhaglenni buddsoddi wedi’u targedu i sicrhau bod ein hasedau’n parhau i fod yn wydn yn erbyn perygl presennol o lifogydd a rhai’r dyfodol. Allan yn y maes, byddwch yn arolygu ac yn monitro perfformiad asedau, gan lunio adroddiadau arolygu sy’n llunio ein cynlluniau cynnal a chadw a gwella.
Os ydych chi’n dod o gefndir peirianyddol neu adeiladu ac eisiau bod yn rhan o dîm blaengar sy’n gwneud effaith wirioneddol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Williams at James.P.Williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Helpu i ddatblygu a rheoli rhaglen waith sy’n cyfrannu at gyflawni targedau’r gyfarwyddiaeth.
- Helpu i sicrhau bod penderfyniadau lleol yn gyson, yn seiliedig ar risgiau, ac yn unol â dull cytunedig y Llywodraeth.
- Helpu i gynnal y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd Cenedlaethol, AMX a data perygl llifogydd cysylltiedig.
- Casglu data wrth ffynonellau yn ôl y gofyn i helpu i ddadansoddi’r angen i reoli asedau perygl llifogydd.
- Cefnogi’r Timau Gweithrediadau i allu cyflenwi’r rhaglen Cynnal a Chadw Asedau trwy ddarparu’r wybodaeth berthnasol.
- Helpu i baratoi rhag-astudiaethau dichonoldeb sy’n deillio o gynlluniau rheoli perygl llifogydd a chynlluniau rheoli traethlin.
- Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
- Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.Mae addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol neu beirianyddol yn ddymunol, neu’r gallu i arddangos profiad perthnasol cyfatebol.
- Gwybodaeth am weithgareddau rheoli perygl llifogydd a dealltwriaeth o ddulliau ehangach o reoli asedau afonydd a’r arfordir.
- Gwybodaeth sylfaenol am TGCh. Gwybodaeth am systemau gwybodaeth ddaearyddol a CAD (e.e. ARCGIS, AutoCAD).
- Byddai rhywfaint o wybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, yn fantais.
- Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.