Cynghorydd Arbenigol Rhybuddio a Hysbysu
Dyddiad cau: 20/07/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Perygl Llifogydd a Dŵr, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 04/08/2025
Rhif swydd: 200288
Y rôl
A ydych chi’n angerddol am helpu pobl a chymunedau i baratoi ar gyfer y risgiau cynyddol o lifogydd a newid hinsawdd? Ymunwch â’n tîm Rhybuddio a Hysbysu fel Cynghorydd Arbenigol, lle byddwch yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddarparu a gwella gwasanaethau rhybuddion am lifogydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Fel arweinydd technegol y tîm, byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol, gan helpu i lunio ein gwasanaeth rhybuddion am lifogydd. Byddwch yn cyfrannu at gynllunio, cwmpasu a rheoli prosiectau sy’n gwella sut rydym yn rhybuddio ac yn hysbysu’r cyhoedd – o ddatblygu systemau ac offer newydd i fireinio ein gweithdrefnau yn seiliedig ar y data a’r dechnoleg ddiweddaraf.
Byddwch yn cynrychioli’r tîm mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol, yn cyfrannu at fentrau cenedlaethol, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gydlynu â phartneriaid fel y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol. Byddwch hefyd yn cefnogi’r tîm trwy fentora cydweithwyr, arwain gweithdrefnau swyddogion ar ddyletswydd, a chyfrannu at strategaeth a chynllunio hirdymor.
Yn ystod digwyddiadau llifogydd, byddwch yn camu i rôl Swyddog Dyletswydd Rhybuddion am Lifogydd, gan gymryd cyfrifoldeb am gyhoeddi rhybuddion a gweithio’n agos gydag ymatebwyr. Mae hon yn rôl wrth gefn 24/7 ar rota, fel arfer un wythnos ym mhob chwech i wyth wythnos.
Mae’r rôl hon yn cynnig amrywiaeth a diben: un diwrnod gallech fod yn ysgrifennu papur technegol ar gyfer datblygu polisi cenedlaethol, y diwrnod nesaf gallech fod yn arwain ymateb yn ystod digwyddiad llifogydd neu’n cydweithio â chymunedau i wella gwydnwch.
Os ydych chi’n chwilio am rôl lle gallwch chi gyfuno arweinyddiaeth dechnegol, effaith yn y byd go iawn, a gweithio hyblyg, dyma’ch cyfle chi i helpu i lunio ymateb Cymru i hinsawdd sy’n newid.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rhys Hughes at Rhys.o.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw).
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud.
- Rhoi cyngor arbenigol cywir ac amserol i’r tîm neu i dimau ar faterion sy’n ymwneud â’r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd er mwyn cyflawni’r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd.
- Darparu cyngor technegol i sicrhau bod amcanion y gwasanaeth rhybuddion am lifogydd yn cael eu cyflawni ar gyfer yr ardal er mwyn lleihau’r risg o lifogydd ac atal colli bywydau.
- Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau y ceir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Dadansoddi a dehongli data, paratoi adroddiadau technegol ag argymhellion o ran penderfyniadau, ac adrodd ar fodloni safonau’r gwasanaeth.
- Cysylltu â’n partneriaid yn Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, gweithio gyda nhw a rhoi cymorth iddyn nhw.
- Cynllunio, cwmpasu a noddi neu reoli prosiectau i gyfrannu at dargedau lleihau perygl llifogydd.
- Cyfrannu at gyflawni proses a pholisi’r gwasanaeth rhybuddion am lifogydd er mwyn cyflawni atebion ymarferol ar gyfer yr ardal.
- Defnyddio gwybodaeth arbenigol i ddatblygu a rheoli rhaglen waith sy’n cyfrannu at gyflawni gwaith y gyfarwyddiaeth a’r amcanion cenedlaethol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Addysg hyd at radd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd neu beirianneg sifil).
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
- Aelod graddedig o gorff proffesiynol priodol (e.e. Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd neu Sefydliad y Peirianwyr Sifil – ICE) ac yn gweithio tuag at fod yn siartredig yn y dyfodol agos.
- Profiad gweithredol sylweddol o ddigwyddiadau llifogydd a gafwyd dros nifer o flynyddoedd.
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth ragorol o ystod eang o faterion sy’n gysylltiedig â llifogydd, e.e. rheoli data, prosesau digwyddiadau llifogydd, gan gynnwys rhybuddio, hysbysu ac ymateb gan y cyhoedd a phartneriaid proffesiynol.
- Dyletswyddau a chyfrifoldebau allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru a sut mae’r gwasanaeth rhybuddio a hysbysu yn cynorthwyo’r rhain.
- Rhybuddio a hysbysu cwsmeriaid a phartneriaid allweddol.
- Profiad o reoli rhaglenni / prosiectau, gan gynnwys datblygu, comisiynu a rheoli prosiectau. Profiad o gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid.
- Gallu a hyder amlwg i ddarparu atebion arloesol ac effeithiol a nodi a herio dulliau / atebion amhriodol i broblemau.
- Rhaid cael trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.