Arweinydd Tîm yr Amgylchedd

Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hwlffordd

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd, Sir Benfro / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 19/08/2026

Rhif swydd: 200747 (For office use only: GGL, ENV)

Y rôl

Mae Arweinydd Tîm yr Amgylchedd yn Sir Benfro yn rôl hanfodol wrth gyflawni budd a gwelliant amgylcheddol ar lawr gwlad yn ardal Sir Benfro.  Mae’n rôl brysur, yn goruchwylio tîm amrywiol swyddogion amgylcheddol, gan ddarparu arweinyddiaeth ar draws yr hyn a wnawn a sut a wnawn.  Mae hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau gwaith â blaenoriaeth leol yn seiliedig ar dargedau cenedlaethol ar gyfer cyflawni, gosod diwylliant y tîm yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r sefydliad, a sicrhau perfformiad uchel ar draws y tîm ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant.  Mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad personol aelodau’r tîm, gan sicrhau bod ganddynt yr offer, y sgiliau a’r cymhelliant cywir i gyflawni eu rôl, a datblygu ar gyfer y dyfodol.  Bydd yr Arweinydd Tîm hefyd yn gweithio ledled Cymru gydag arweinwyr timau amgylchedd eraill, a grwpiau technegol ar faterion ledled Cymru fel rhan o’n dull o ddarparu gwasanaethau.  

Mae gan Arweinydd Tîm yr Amgylchedd yn Sir Benfro gyfrifoldeb rheoli llinell am ddeg swyddog, gan gynnwys uwch-swyddogion a swyddogion amgylcheddol, swyddogion prosiect a chymorth technegol.  Mae’r tîm yn cyflawni ystod eang o waith ar draws gwaith prosiect, gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi, ac ymateb i ddigwyddiadau ar draws ansawdd dŵr, adnoddau dŵr, cadwraeth, bioamrywiaeth a physgodfeydd.  Mae’r timau’n gweithio’n agos gyda thimau eraill yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac awdurdodau cyhoeddus o fewn y lle a thu hwnt. Mae’r timau hyn yn gwneud gwahaniaeth pendant yn eu lle a’u cymuned.

Mae’r tîm yn eistedd o fewn strwythur Gweithrediadau’r De-orllewin, ochr yn ochr â thri thîm amgylchedd arall, timau rheoleiddio gwastraff a diwydiant, a thimau dadansoddi ac asesu amgylcheddol, gan adrodd i Reolwr Gweithrediadau’r De-orllewin.  Bydd deiliad y swydd yn gweithio ledled Sir Benfro, a bydd angen iddo fod wedi’i leoli o fewn pellter teithio rhesymol i fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ac i fedru ymateb i ddigwyddiadau yn yr ardal.  
Os ydych chi eisiau rôl sy’n cynnig amrywiaeth a her, ac i fod yn rhan o sefydliad sydd â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth wraidd ei ddiben, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr ardal / lleoliad uchod, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas adeg eich penodi. Any regular face to face meetings or training will be planned in advance.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Caroline Drayton at Caroline.Drayton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Datblygu a gweithredu cynlluniau gwaith lleol i wireddu ein dyheadau rheoleiddiol, ac ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid perthnasol.
  • Bod yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddiol ar lefel lle, gan sicrhau y glynir at y Cod Rheoleiddwyr a’n hegwyddorion rheoleiddiol. 
  • Bod yn gyfrifol am awdurdodi penderfyniadau rheoleiddiol a gorfodi o fewn cylch gwaith y tîm, gan gynnwys cydsyniadau a chaniatadau safleoedd gwarchodedig. 
  • Sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant aelodau’r tîm drwy weithredu a monitro arferion gweithio diogel ac asesiadau risg. 
  • Rheoli gwariant y tîm o fewn y gyllideb. 
  • Byddai disgwyl iddo hefyd arwain tîm technegol rhithwir i gefnogi cyflawni mewn lle. 
  • Cyflawni rôl uwch o fewn gwasanaeth cadarn sy’n rheoli digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac sy’n dilyn prosesau’r sefydliad.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR 

1.    Profiad o fod yn rheolwr llinell. (Hanfodol)
2.    Sgiliau hyfforddi a mentora. (Hanfodol)
3.    Dealltwriaeth dda o’r amgylchedd lleol a phwysau sy’n berthnasol i gylch gwaith y tîm. 
4.    Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu. 
5.    Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf