Arweinydd Tîm Arolygu a Monitro

Dyddiad cau: 26 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rhaglen Gweithredu Mawndir Genedlaethol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos syn dechrau 2 Mehefin 2025

Rhif swydd: 203799

Y rôl 

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol ac ymroddedig i arwain Tîm Arolygu a Monitro Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) Cymru gyfan. Yn y rôl hollbwysig hon, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a chyflawni gweithgareddau monitro ac asesu mawndiroedd ledled Cymru, gan ddarparu data hanfodol ac allbynnau adrodd a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant y Cynllun Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ehangach.

Fel Arweinydd y Tîm, byddwch yn cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gydlynu'r ymdrechion arolygu a monitro ar gyfer mawndiroedd, gan sicrhau bod data o ansawdd uchel, sy'n wyddonol gadarn, yn cael ei gasglu a’i fod yn llywio prosesau gwneud penderfyniadau allweddol. Bydd eich gwaith yn tanategu ymdrechion cadwraeth strategol, yn cefnogi rheolaeth effeithiol ecosystemau mawndiroedd, ac yn cyfrannu at gyflawni nodau amgylcheddol Cymru, gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, atafaelu carbon, a gwella ansawdd dŵr.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Mannon Lewis Mannon.Lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Mae’n bosibl y bydd angen gwiriadau fetio gan ddibynnu ar y rôl. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a datblygu staff i sicrhau bod y tîm yn cyfrannu at gyflawni Cynllun Gwasanaeth CNC a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP), yn ogystal â blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol ac adrannol ehangach. 
  • Arwain datblygiad technegol parhaus methodolegau monitro NPAP mewn cysylltiad â chydweithwyr perthnasol yn CNC.
  • Cefnogi datblygiad safonau cyffredin ac arfer gorau o ran arolygu a monitro trwy gysylltu â rolau cyfatebol yn rhaglenni gwledydd eraill y DU a mentrau adfer mawndiroedd cenedlaethol.
  • Bod yn atebol am lesiant, datblygiad a pherfformiad tîm mawr sy’n ddaearyddol wasgaredig a chadw at bolisïau a gweithdrefnau CNC. Yn cynnwys trosolwg o Iechyd a Diogelwch mewn amgylcheddau risg uchel.
  • Llywio datblygiad Cynllun Gwasanaeth CNC ac NPAP mewn perthynas â gofynion monitro, asesu ac adrodd, yn ogystal â chynlluniau a strategaethau perthnasol eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth dechnegol mewn monitro, technegau asesu ac adrodd mewn perthynas ag ecosystemau mawndiroedd (gan gynnwys datblygiadau technolegol ym meysydd synhwyro o bell), er mwyn darparu trosolwg o waith y tîm, a darparu cyngor technegol (cyflwyniadau ysgrifenedig a llafar) gan gynnwys materion proffil uchel a dadleuol, gan weithio gyda'r uwch gynghorydd arbenigol ar fawndiroedd.
  • Gweithio ar y cyd ar draws Gwasanaeth NPAP a chydag adrannau a chyfarwyddiaethau ehangach. 
  • Rheoli cyllideb sylweddol a phrosiectau lluosog.
  • Sicrhau bod holl aelodau’r tîm yn cynnal sgiliau ac arbenigeddau priodol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad da o fonitro ac asesu daearol.
  2. Profiad o reoli tîm mawr sy’n ddaearyddol wasgaredig.
  3. Sgiliau annog, mentora a datblygu staff.
  4. Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cryf.
  5. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, gan esbonio materion a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu, yn enwedig gyda rhanddeiliaid allweddol, ac ar lefel uwch.
  6. Profiad o reoli cyllidebau.
  7. Sgiliau rheoli prosiectau.
  8. Cymhwyster cydnabyddedig, gradd neu brofiad cyfatebol.
  9. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â rheoli a rheoleiddio dŵr a’r amgylchedd, dyfroedd arfordirol a mewndirol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf