Cynghorydd Arweiniol Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367-£50,877 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Cynghori ar Ddatblygu a Chynllunio, Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd: 203898, 203899
Y rôl
A ydych chi’n barod i arwain y gwaith ar gynigion datblygu mwyaf cymhleth ac uchel eu proffil yng Nghymru? Rydym yn chwilio am weithiwr cynllunio proffesiynol profiadol i ymgymryd â rôl strategol sy’n dylanwadu ar benderfyniadau seilwaith mawr ledled y genedl.
Fel Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Cynllunio Datblygu (Seilwaith Cenedlaethol), chi fydd y prif reolwr achos ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth ymateb i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol. Trwy gynrychioli CNC mewn archwiliadau ac ymchwiliadau cyhoeddus, byddwch yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a llafar awdurdodol ar amrywiaeth eang o faterion amgylcheddol a rheoleiddiol.
Bydd eich cyngor yn cwmpasu pynciau megis y perygl o lifogydd, ansawdd dŵr, rhywogaethau a warchodir, tir halogedig, safleoedd dynodedig a thirwedd. Byddwch yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr technegol ar draws CNC i ddatblygu ymatebion cadarn, ar sail tystiolaeth, sy’n llywio canlyniadau cynaliadwy i Gymru.
Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth gwasanaeth a gwella cysondeb yn y ffordd rydym yn darparu cyngor. O ddatblygu canllawiau ac offer i fentora cydweithwyr, byddwch yn helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn wydn ac yn gryf yn dechnegol, a’i fod yn parhau i gyd-fynd â deddfwriaeth a pholisi cyfredol.
Mae eich prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Arwain cyngor CNC ar y ceisiadau cynllunio mwyaf cymhleth ac arwyddocaol ar y lefel genedlaethol.
- Cynrychioli CNC mewn archwiliadau statudol ac ymchwiliadau cyhoeddus.
- Cydlynu cyfraniadau traws-swyddogaethol ar faterion technegol ac amgylcheddol.
- Cefnogi’r broses o ddatblygu canllawiau strategol, offer a phrosesau mewnol.
- Mentora a hyfforddi cydweithwyr i feithrin gwydnwch a galluogrwydd y gwasanaeth.
- Ffurfio a meithrin cydberthnasau cryf â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio a chyrff statudol.
Mae hwn yn gyfle prin i arwain yr ymateb cynllunio amgylcheddol i seilwaith mawr a fydd yn llunio dyfodol Cymru. Os ydych chi’n cael eich ysgogi gan gael effaith a chan bolisi a chynaliadwyedd – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gemma Beynon ar Gemma.Beynon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn gyfrifol am gynhyrchu a chyflwyno cyngor dylanwadol ar ran CNC i’r cynigion seilwaith cenedlaethol mwyaf arwyddocaol.
- Dadansoddi data a gwybodaeth gymhleth iawn er mwyn datblygu ymateb CNC.
- Arwain a rheoli cyfraniadau technegol amrywiaeth eang o arbenigwyr mewnol o bob rhan o’r busnes er mwyn cefnogi dulliau cyflenwi cyngor. Datrys gwrthdaro mewnol mewn perthynas â chyngor.
- Rheoli rhaglenni darparu cyngor, gan nodi a rheoli risgiau.
- Cynhyrchu a chyflwyno cyngor ysgrifenedig ffurfiol sy’n dryloyw, cymesur a rhesymol, ac wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer archwiliadau cyhoeddus ac ymchwiliadau, gan sicrhau bod amserlenni statudol yn cael eu bodloni.
- Bod yn brif gynrychiolydd CNC, a darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar mewn gwrandawiadau archwilio ac ymchwiliad cyhoeddus.
- Arwain a rheoli’n effeithiol faterion o ddiddordeb mawr i wleidyddion a/neu i’r cyhoedd, gyda phob parti sydd â diddordeb, gan gynnwys y llywodraeth a rhanddeiliaid cenedlaethol.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn adennill ei gostau am y gwaith a wnaed, a bod costau’n cael eu hysgwyddo’n rhesymol ac yn dryloyw.
- Bod yn brif gyswllt ar gyfer ymholiadau cynllunio cymhleth gan gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag unigolion allweddol o fewn CNC, ac asiantaethau a rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau bod dylanwad CNC ar gyngor cynllunio yn cael ei gynyddu i’r eithaf.
- Cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gan dîm y Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu yr offer a sgiliau angenrheidiol i sicrhau dull teg a chyson o wneud penderfyniadau yn unol â’n cylch gwaith cyfreithiol.
- Cefnogi’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu cenedlaethol er mwyn sicrhau ffyrdd cyson o weithio, gan arwain ar fentrau penodol, a sicrhau bod gennym yr offer a phrosesau cywir ar waith, a bod bylchau mewn sgiliau a chanllawiau yn cael eu datrys.
- Mentora a hyfforddi aelodau’r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gan y tîm ddigon o wydnwch technegol a deddfwriaethol i allu cynghori ar yr ystod lawn o ofynion cynllunio datblygu a’u hasesu.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth ymarferol uwch o’r system gynllunio a thechnegau asesu amgylcheddol.
- Profiad sylweddol o reoli’r gwaith o asesu cynigion ar gyfer seilwaith datblygu cymhleth iawn ac sy’n sensitif yn wleidyddol, gan gynnwys rhyngweithio â’r llywodraeth, sefydliadau a’r sector datblygu.
- Profiad sylweddol o roi tystiolaeth mewn fforwm cyhoeddus.
- Dealltwriaeth uwch ac arbenigol o ddeddfwriaeth benodol, a pholisi Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU sy’n gysylltiedig â rôl CNC yn y broses gynllunio.
- Sgiliau hyfforddi a mentora amlwg.
- Dull cryf sy’n canolbwyntio ar y cwsmer o ran cyflawni, a sgiliau negodi a dylanwadu rhagorol.
- Ymrwymiad amlwg i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cynllunio sy’n datblygu a newidiadau i ddeddfwriaeth trwy bod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy ddulliau priodol eraill.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.