Cynghorydd Ynni a Datgarboneiddio Arweiniol
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877| Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tim Cynllunio, Tirwedd ac Ynni/Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203906
Y rôl
Ydych chi’n barod i ddylanwadu ar ddyfodol ynni a datgarboneiddio yng Nghymru? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol a blaengar i gymryd rhan flaenllaw yn y broses o lunio sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cefnogi’r broses o bontio i system ynni carbon isel.
Fel ein Cynghorydd Ynni a Datgarboneiddio Arweiniol, byddwch yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar bolisïau, strategaethau a chynlluniau ynni. Byddwch yn arwain ar y gwaith o ddatblygu a chyflawni rhaglen waith ynni CNC – gan droi uchelgeisiau cenedlaethol yn ganllawiau ymarferol sy’n wybodus am yr amgylchedd a chamau gweithredu strategol.
Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau mewnol ar draws rheoleiddio, polisi a gweithrediadau, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cydberthnasau cryf â’r llywodraeth, rheoleiddwyr a’r sector ynni ehangach. Bydd eich gwaith yn sicrhau bod datblygiad seilwaith ynni Cymru yn cefnogi datgarboneiddio wrth amddiffyn ein hadnoddau naturiol.
Mae eich prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Darparu cyngor strategol i’r llywodraeth a rhanddeiliaid ar bolisi ynni a datgarboneiddio.
- Arwain y gwaith o lunio a chyflawni rhaglenni, polisïau a chanllawiau CNC sy’n gysylltiedig ag ynni.
- Troi polisi ynni cenedlaethol yn offer gweithredol a chyfeiriad strategol ar gyfer CNC.
- Gweithio’n agos gydag uwch-swyddogion a’r diwydiant i ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud ag ynni.
- Cefnogi cydweithio traws-swyddogaethol o fewn CNC i alinio swyddogaethau rheoleiddio a chynghori.
Mae hwn yn gyfle gwych i lywio’r broses o bontio i ynni gwyrdd yng Nghymru, a chyfrannu at weithredu cenedlaethol ar newid yn yr hinsawdd. Os ydych chi’n cael eich ysgogi gan ymdrechion i gael effaith ar raddfa fawr, gan gydweithio, ac am gael cyfle i ddylanwadu ar bolisi – dyma’r rôl i chi.
Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau mewnol ar draws rheoleiddio, polisi a gweithrediadau, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cydberthnasau cryf â’r llywodraeth, rheoleiddwyr a’r sector ynni ehangach. Bydd eich gwaith yn sicrhau bod datblygiad seilwaith ynni Cymru yn cefnogi datgarboneiddio wrth amddiffyn ein hadnoddau naturiol.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Adrian James at Adrian.james@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynnal gwaith arwain a rheoli prosiect mewn perthynas â materion penodol a chymhleth lle mae angen datblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC, gan gynnwys cymorth ar waith achos sydd yn newydd, yn gynhennus neu er budd mawr i’r cyhoedd.
- Arwain y gwaith o ddatblygu canllawiau ar gyfer staff CNC, ac ar gyfer sectorau/partneriaid.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a’r DU fel y bo’n briodol ac, yn eu tro, adolygu a chynghori ar y polisi, cynlluniau a strategaethau sy’n cael eu cynhyrchu.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth dros faes polisi ynni a datgarboneiddio er mwyn sicrhau cyfanrwydd dulliau CNC wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth ganolog ac mewn perthynas â bwriad polisi’r Undeb Ewropeaidd.
- Paratoi achosion cryf i gefnogi newidiadau i bolisi a rôl CNC o ymyriadau amgen.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Comisiynu cynlluniau ymgysylltu a hyfforddiant er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno allbynnau fesul cam i staff CNC a phartneriaid/sectorau.
- Comisiynu gwaith monitro a gwerthuso ymyriadau er mwyn llywio asesiad o’r angen am newid mewn dull gweithredu gan CNC a/neu Lywodraeth Cymru.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl am y sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Llywio trosolwg a pherchnogaeth o’r gwaith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy’n gysylltiedig â ynni, datgarboneiddio a’r newid yn yr hinsawdd.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth fanwl am bolisi a deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud ag ynni, datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfarwydd â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a chael dealltwriaeth o sut y gellir integreiddio’r rhain i gynlluniau, strategaethau a fframweithiau cyflawni ehangach yng Nghymru.
- Dealltwriaeth gref o’r partneriaid a rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â’r sector ynni yng Nghymru, gyda’r gallu i lywio amgylcheddau rhanddeiliaid cymhleth.
- Profiad ac arbenigedd amlwg mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol: ynni adnewyddadwy, mwynau ynni (olew, nwy, a glo), olew a nwy anghonfensiynol, y grid cenedlaethol a chynhyrchu gwasgaredig, a datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd. Dylai hyn gynnwys ymwybyddiaeth o’r ffactorau cysylltiedig sy’n ysgogi cyflawni a’r rhwystrau cysylltiedig sy’n ei atal.
- Meddu ar brofiad amlwg o weithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau, gyda chymwysterau rheoli prosiectau a/neu hyfforddiant ffurfiol yn cael eu hystyried yn fantais.
- Aelodaeth o sefydliad proffesiynol perthnasol, neu’n gweithio’n fwriadol tuag at achrediad proffesiynol.
- Profiad o gynrychioli sefydliad mewn perthynas â materion proffil uchel a allai fod yn ddadleuol mewn fforymau cyhoeddus neu fforymau rhanddeiliaid, a bod yn hyderus wrth reoli trafodaethau heriol.
- Y gallu a’r parodrwydd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn cefnogi’r broses o ddatrys problemau ar draws y sefydliad, gan gyfrannu at amcanion ehangach y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth,Polisi a Thrwyddedu a chefnogi penaethiaid busnes yn ôl y gofyn.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.