Uwch-gynghorydd Rhywogaethau a Warchodir
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Bangor a Caerdydd
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygu/Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 203912, 203913
Y rôl
A ydych chi’n angerddol dros amddiffyn bywyd gwyllt mwyaf eiconig Cymru? Rydym yn chwilio am ecolegydd profiadol i ymgymryd â rôl uwch yn ein Tîm Rhywogaethau a Warchodir, rhan o Wasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Fel Uwch-gynghorydd Rhywogaethau a Warchodir, byddwch yn arwain ar y gwaith o ddarparu cyngor technegol arbenigol ar amrywiaeth eang o rywogaethau sydd wedi’u gwarchod yn gyfreithiol, gan gynnwys ystlumod, dyfrgwn, madfallod dŵr cribog, pathewod, gwiwerod coch a beleod.
Bydd gan eich gwaith ddylanwad uniongyrchol ar benderfyniadau cynllunio a thrwyddedu ledled Cymru, gan gyfrannu at ymdrechion cenedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Byddwch hefyd yn mentora aelodau eraill y tîm, yn rhannu eich arbenigedd, ac yn cydweithio â chydweithwyr ar draws CNC a thu hwnt.
Mae eich prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
- Darparu cyngor arbenigol ar ecoleg a chadwraeth rhywogaethau a warchodir, a chyflwyno mesurau lliniaru ar eu cyfer, gan ganolbwyntio ar ffawna daearol sydd wedi’u gwarchod yn gyfreithiol.
- Arwain ar waith achos yn ymwneud â chynllunio datblygu cymhleth ac asesiadau o drwyddedau.
- Cefnogi a mentora cydweithwyr ar draws Tîm Rhywogaethau a Warchodir CNC.
- Ymgysylltu â thimau mewnol a chwsmeriaid allanol i roi cyngor clir ac ymarferol sy’n cydbwyso cadwraeth a datblygu cynaliadwy.
- Cyfrannu at ddatblygu canllawiau, offer ac arferion gorau.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol trefnus a hyblyg sy’n meddu ar wybodaeth ecolegol ddofn, sgiliau cyfathrebu cryf a dull cydweithredol. Os ydych chi wedi’ch cymell gan y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt ar raddfa genedlaethol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jane Garner ar jane.garner@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Goruchwylio a darparu sicrwydd technegol i gyfraniadau timau i gynlluniau datblygu lleol a strategaethau a chynlluniau is-ranbarthol eraill, gan sicrhau bod cyngor yn gadarn, ar sail tystiolaeth, ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amser gofynnol.
- Rhoi cyngor i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu waith achos cymhleth risg uchel / ymgynghoriadau trwyddedau rhywogaethau, gan sicrhau bod cyngor yn gadarn, ar sail tystiolaeth, ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amser gofynnol.
- Cyfrannu barn broffesiynol a chymorth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â gwaith achos strategol a chymhleth / ymgynghoriadau trwyddedau rhywogaethau a reolir gan aelodau eraill y tîm.
- Cyfrannu at y gwaith o baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor datblygu CNC, neu benderfyniadau ar drwyddedau, gan gynnwys mynychu apeliadau ac ymchwiliadau.
- Darparu cyngor i gefnogi’r gwaith o reoli safleoedd dynodedig lle mae rhywogaethau a warchodir yn bresennol.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisi/proses a chanllawiau CNC a chynghori ar eu gweithredu’n effeithiol yn y tîm er mwyn sicrhau bod dull cyson ac effeithiol yn cael ei gynnal.
- Datblygu a chynnal perthnasau effeithiol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda a darpariaeth effeithiol o wasanaeth cynghori sy’n addas i’r diben.
- Mentora a hyfforddi aelodau eraill o’r tîm a’r gwasanaeth cynllunio ehangach ar bolisïau, gweithdrefnau, arferion a thechnegau, gan eu harfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen i gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol, cyson ac effeithlon.
- Rhoi cyngor ar gyfer gwaith cynllunio mewn perthynas â lleoedd amlswyddogaethol megis Datganiadau Ardal a chynlluniau a rhaglenni gwydnwch bioamrywiaeth.
- Cyfrannu at ddatblygu cynllun gwaith y tîm.
- Sicrhau datblygiad technegol aelodau’r tîm.
- Darparu gallu tyst arbenigol technegol i apeliadau ac ymchwiliadau ar faterion yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir y mae gan y tîm gyfrifoldeb drostynt.
- Darparu cymorth i’r heddlu ar ffurf cyngor technegol wrth iddynt ymchwilio i droseddau yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir a chyfrannu at weithgareddau cydymffurfio ehangach yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir lle y bo’n briodol.
- Cyfrannu at y gwaith o nodi/comisiynu rhaglenni tystiolaeth/gwyliadwriaeth a monitro.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflenwi rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro.
- Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad rhagorol o ecoleg a chadwraeth, a dulliau lliniaru sy’n addas ar gyfer yr amrywiaeth o rywogaethau y mae’r tîm yn gyfrifol drostynt.
- Dealltwriaeth ragorol o fframweithiau deddfwriaethol a rheoleiddiol sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir, a’u gwarchodaeth a’u gwella.
- Profiad helaeth o ystyried rhywogaethau a warchodir mewn datblygiadau a chynlluniau cymhleth.
- Y gallu i gyfathrebu a negodi’n effeithiol â rhanddeiliaid ar bob lefel reoli.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, a’r gallu i gynrychioli agweddau technegol a strategol o’r gwaith yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir i’r rheini nad ydynt yn arbenigwyr, o fewn CNC ac yn allanol, mewn ffordd gryno ac effeithiol.
- Sgiliau hyfforddi a mentora.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Level A1 - Entry level (able to use and understand simple, basic phrases and greetings, no conversational Welsh)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.