Defnyddio’r Dull STAR wrth wneud cais am swydd

Y dull STAR

  • sefyllfa - y sefyllfa y bu'n rhaid i chi ddelio â hi
  • tasg - y dasg a roddwyd i chi i’w chyflawni
  • gweithredu - y camau a gymerwyd gennych
  • canlyniad - beth ddigwyddodd o ganlyniad i'ch gweithred a'r hyn a ddysgodd y profiad hwn i chi

Sut i ddefnyddio STAR

Gallwch ddefnyddio'r dull STAR i strwythuro'r enghreifftiau yr ydych yn eu rhoi wrth ateb cwestiynau. Gallwch ei ddefnyddio i amlygu sgiliau a rhinweddau sydd gennych yr ydym yn chwilio amdanynt.

Wrth ddefnyddio STAR, cofiwch:

  • gallwch ddefnyddio enghreifftiau o’ch gwaith, o’ch cartref neu o waith gwirfoddol
  • cadwch yr enghreifftiau’n fyr a pherthnasol
  • byddwch yn barod i ateb cwestiynau dilynol am yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi

Enghraifft

Disgrifiwch amser pan wnaethoch arddangos sgiliau arweinyddiaeth:

Sefyllfa - yn fy swydd farchnata ddigidol flaenorol, roedd y cwmni eisiau cael mwy o bobl i gofrestru ar gyfer cylchlythyr nad oedd yn cael llawer o sylw.

Tasg - fy ngwaith i oedd dod o hyd i ffordd o gael mwy o bobl i gofrestru.

Gweithredu - Trefnais gyfarfod gydag aelodau pwysig eraill y tîm marchnata er mwyn meddwl am syniadau creadigol, ac arweiniais yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb yn y cylchlythyr ar ei newydd wedd.

Canlyniad - dros gyfnod o 3 mis, bu cynnydd o 25% yn y nifer a gofrestrodd ar gyfer y cylchlythyr a chafodd y dull a ddefnyddiais i ei ddefnyddio gan y tîm rheoli mewn adrannau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf