Hynt adfer afonydd
Bydd prosiect Pedair Afon LIFE yn cyflawni gwaith adfer afonydd mewn nifer o leoliadau ar afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg er mwyn adfer strwythur a gweithrediad cynefinoedd.
Yn y blog hwn, bydd Leila Thornton, Uwch-swyddog Adfer Afonydd prosiect Pedair Afon LIFE, yn siarad am pam y mae angen i ni ddeall prosesau naturiol ein hafonydd cyn dechrau unrhyw waith adfer.
Mae afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion megis eog yr Iwerydd, y llysywen bendoll, y wangen a’r herlyn, y dwrgi, a chrafanc y dŵr.
Mae ein hafonydd yn dod dan straen cynyddol – mae poblogaethau sy’n tyfu, newid hinsawdd a llygredd parhaus ein dyfroedd yn golygu nad yw ein hafonydd yn agos at y cyflwr yr ydym am iddynt fod.
Mae pob un o’r pedair afon mewn cyflwr anffafriol ar hyn o bryd, felly nod prosiect Pedair Afon LIFE yw adfer cynefin naturiol yr afonydd i’r cyflwr sydd wedi’i golli.
Hanes adfer afonydd
Mae gweithgareddau dynol wedi effeithio ar afonydd a’u gorlifdiroedd ers milenia, ond pan gyflwynwyd gwaith metel yn Oes yr Efydd o tua 2,000CC i 700CC, , dechreuwyd clirio darnau o dir ar gyfer ffermio a chynhyrchu adnoddau.
Newidiodd hyn yr amgylchedd gymaint nes achosi i afonydd newid eu ffurf yn llwyr. Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a barhaodd o 43 i OC 410, dechreuwyd draenio tir a sianelu a carthio afonydd i gynyddu cynhyrchiant ar orlifdiroedd - arfer sy’n parhau hyd heddiw.
Rhoddodd y Chwyldro Diwydiannol bwysau newydd ar amgylcheddau dŵr croyw, gan achosi ansawdd dŵr a gwaddodion i ddirywio’n ddifrifol a cholli cynefinoedd a bioamrywiaeth o ganlyniad.
Dechreuodd ymdrechion cyntaf i unioni’r newidiadau hyn yn y DU ac Ewrop ar ddechrau’r 1900au. I ddechrau, roedd hyn yn golygu newid artiffisial ar raddfa fach i wella cynefinoedd ond, dros amser, mae technegau wedi blaenoriaethu gweithio gyda phrosesau naturiol i adfer ffurfiau afonydd a’u prosesau ar raddfa dalgylch.
Gwnaeth Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd 1992 a Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000 y comisiwn adfer afonydd yn rhan sylfaenol o reoli afonydd yn y DU ac Ewrop drwy ei gwneud yn ofynnol i wledydd wella statws ecolegol eu hafonydd.
Beth mae adfer ein hafonydd yn ei olygu?
Yn ôl y Ganolfan Adfer Afonydd, ‘adfer afonydd’ yw’r broses o reoli afonydd i adfer prosesau naturiol ac adfer bioamrywiaeth, sy’n darparu buddion i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.
Yn eu cynhadledd ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd y Ganolfan Adfer Afonydd ‘Strategaeth Weithredu ar gyfer Adfer Afonydd’. Blaenoriaeth yn y strategaeth oedd ‘cydnabod bod cynefinoedd a phrosesau naturiol yr un mor bwysig ag ansawdd a lefelau dŵr ar gyfer afonydd iach’.
Mae tair egwyddor wrth wraidd system afonydd sy’n gweithio’n dda, ansawdd dŵr da, cynefinoedd da a phrosesau ffisegol sy’n gweithio. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn creu grwpiau bywyd gwyllt amrywiol.
Os caiff unrhyw un o’r tair egwyddor iechyd afonydd hyn ei niweidio (ansawdd dŵr, prosesau ffisegol, y cynefinoedd), yna bydd gwytnwch ac iechyd y system gyfan yn gwanhau.
Felly, drwy ganolbwyntio ar adfer prosesau ffisegol, a thrwy hynny, y cynefinoedd, nod ein prosiect yw gwella’r ecosystem gyffredinol a gwytnwch y system afonydd.
Beth yw adfer yn seiliedig ar brosesau?
Nod gwaith adfer yn seiliedig ar brosesau yw adfer y prosesau naturiol sy’n cynnal ecosystemau afonydd a gorlifdiroedd.
Mae camau adfer wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag achosion sylfaenol diraddio a gweithio gydag ynni naturiol yr afonydd, neu lif yr afonydd, a chyflenwad gwaddodion.
Gall defnyddio gwaith adfer afonydd yn seiliedig ar brosesau helpu i osgoi peryglon cyffredin megis creu mathau o gynefinoedd sydd y tu hwnt i botensial naturiol safle neu geisio creu cynefinoedd sefydlog mewn amgylchedd deinamig.
Mae’r egwyddorion a restrir isod yn dod o wefan y Ganolfan Adfer Afonydd ac yn fan cychwyn ar gyfer ein prosiect wrth wneud gwaith adfer:
- Dilyn natur – anniben sydd orau a gwella nodweddion naturiol
- Dibynnu ar brosesau naturiol
- Gadael i’r system benderfynu – caniatáu newid
- Nifer y strwythurau – mae nifer fwy o strwythurau llai yn well nag un strwythur mawr
- Defnyddio deunyddiau adeiladu lleol, naturiol
- Systemau hunangynhaliol yw’r ateb
Pam fo deall afonydd yn bwysig?
Mae pob afon yn ymddwyn yn wahanol, ac mae prosiectau adfer yn gofyn am ddulliau pwrpasol a thechnegau gwahanol, yn dibynnu ar anghenion amgylchedd yr afon benodol honno.
Er mwyn adfer afon yn effeithiol i fod yn system sy’n gweithredu’n fwy naturiol, mae angen i chi ddeall beth sy’n effeithio ar system afon a phenderfynu beth sydd ei angen ar eich afon i allu adfer ei ffurf naturiol ac iddi weithredu’n naturiol.
Ar gyfer ein prosiect, mae deall prosesau naturiol mewn dalgylch afon, a’i chysylltiadau â’r tir y mae’n llifo trwyddo, yn bwysig a bydd yn pennu a fydd y gwaith adfer afon yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
Dylai unrhyw dechnegau adfer anelu at wella, ail-greu neu efelychu’r prosesau naturiol hyn i gynhyrchu afon sy’n gweithredu’n fwy naturiol.
Ble mae dechrau?
Er mwyn nodi cyfleoedd adfer afonydd cynaliadwy, mae angen dealltwriaeth fanwl o forffoleg (sy’n golygu astudio siâp gwely afon a sut mae’n newid ei siâp a’i gyfeiriad dros amser) ac ecoleg ein hafonydd, eu gorlifdiroedd, a’r prosesau sy’n rheoli dynameg gwaddodion ar hyd yr afon a’i hisafonydd.
Mae gwaddod yn cyfeirio at bopeth o ronynnau clai unigol i glogfeini. Bydd afon sy’n gweithredu’n naturiol yn prosesu’r gwaddodion hyn ac yn eu didoli’n naturiol ar ei hyd gan ddefnyddio’r ynni sydd ar gael iddi ac yn creu ystod amrywiol o gynefinoedd. Lle mae anghydbwysedd – er enghraifft, lle mae gormodedd o waddod ‘mân’ (cleiau a silt) – gall cynefinoedd gwerthfawr gael eu colli dan orchudd.
Mae angen inni ddeall hefyd y pwysau sydd ar y prosesau naturiol hynny. Er enghraifft, a yw’r afon wedi’i charthu neu ei sythu, a oes unrhyw rwystrau o waith dyn fel coredau neu argaeau wedi’u hadeiladu ar yr afon, a oes pren neu glogfeini wedi eu tynnu yn y gorffennol, a yw’r glannau wedi’u hatgyfnerthu neu a oes argloddiau llifogydd wedi’u hadeiladu, ac a oes unrhyw beth yn cyfyngu ar gyflenwad gwaddodion?
Ar gyfer rhai o’n dalgylchoedd, mae llawer o’r materion hyn wedi’u hystyried yn fanwl mewn cynlluniau adfer afonydd strategol. Ar gyfer eraill, rydym yn casglu tystiolaeth gefndir o ffynonellau eraill megis cynlluniau rheoli craidd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd i helpu i ddatblygu’r ddealltwriaeth hon.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid, y Ganolfan Adfer Afonydd, i ddysgu ac astudio arferion gorau o brosiectau adfer afonydd eraill.
Rydym hefyd yn arolygu’r afonydd ac yn cerdded cymaint ag y gallwn ar eu hyd, ac rydym hefyd yn siarad â ffermwyr, pysgotwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill sy’n deall ei afon lleol i geisio gwerthfawrogi’r problemau sy’n wynebu’r afon.
Mae pob penderfyniad a wnawn yn seiliedig ar dystiolaeth, arbenigedd ein cydweithwyr, a’r bobl sy’n byw yn y cymunedau sy’n byw ar hyd ein hafonydd.
Ble nesaf?
Er bod adfer yn seiliedig ar brosesau yn cymryd cryn amser a dealltwriaeth, fel prosiect dyma yw’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yn y tymor hir.
Er mwyn dod o hyd i atebion parhaol ar gyfer yr amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl, mae’n rhaid i ni ymdrechu i wneud pethau’n wahanol i’r hyn a wnaed yn y gorffennol.
Rhaid inni gymryd yr amser i ddeall anghenion ein hamgylchedd naturiol ar raddfa dalgylch os ydym am adfer ein hafonydd i ecosystemau iach sy’n gweithredu’n naturiol fel yr oeddent gynt.
I gael gwybod mwy am gylch gwaith ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoleiddio ansawdd dŵr, cliciwch ar y ddolen hon.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu danysgrifio i’n cylchlythyr yma.