Rhowch hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy gysylltu â byd natur
Wyddech chi y gallwch chi a’ch teulu roi hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy fwynhau a threulio amser mewn llecynnau gwyrdd a glas lleol?
Sut mae natur yn chwarae rôl yn ein hiechyd a’n lles?
Gall pawb wneud y gorau o’r amgylchedd naturiol i wella’n hiechyd a’n lles drwy ddeall sut gall effeithio arnon ni, ein teulu a’n ffrindiau.
Ond beth mae iechyd a lles yn ei olygu?
- Mae iechyd yn cyfeirio at ein lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol presennol ble mae afiechyd a salwch yn absennol, felly cyflwr da yn gorfforol ac yn feddyliol, heb salwch na phoen.
- Mae lles cadarnhaol yn ymwneud â’n llesiant ar adeg benodol, teimlo’n gyfforddus, yn fodlon, yn ddiogel ac yn hapus.
Cymerwch gip ar ein fideo sy’n helpu i esbonio sut mae’r amgylchedd naturiol yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.
Pwysigrwydd cysylltu â natur i roi hwb i’n hiechyd a’n lles
Mae yna dystiolaeth gynyddol sy’n dangos bod nifer o fuddion o fod yn yr awyr agored, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae ein posteri’n helpu i egluro sut gall natur roi hwb i’n hiechyd a’n lles:
- 5 ffordd o roi hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy gysylltu â natur (PDF)
- Cewch fuddion lles trwy fod yn yr amgylchedd naturiol (PDF)
- Gellir cynyddu gweithgarwch corfforol plant trwy fod yn yr amgylchedd naturiol (PDF)
- Gall dysgu yn yr awyr agored wella cyrhaeddiad academaidd plant (PDF)
- Manteision chwarae ym myd natur (PDF)
Sut gallwn gysylltu â byd natur i roi hwb i’n hiechyd a’n lles
Gall bod yn yr awyr agored a’r amgylchedd naturiol gynnwys llawer o bethau fel:
- garddio neu dyfu
- mynd i barciau a gerddi cymunedol (llefydd gwyrdd) a bod yn actif ynddyn nhw
- amgylcheddau ble mae llynnoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol i’w gweld (llefydd glas)
- ymwneud â bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gwaith cadwraeth.
Mae’r pethau a wnawn er budd adnoddau naturiol o fudd i ni hefyd.
Mae ein tudalen ar Chwarae a hwyl i’r teulu ym myd natur! yn cynnig nifer o syniadau ynghylch sut i ddechrau dod â rhywfaint o fuddion byd natur i’ch bywyd, beth bynnag fo’ch sefyllfa bersonol.
Mae gwerthfawrogiad cynyddol o’r buddion i’n hiechyd a’n lles a gawn gan fyd natur ac o gysylltu â byd natur. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod cysylltu â byd natur yn fwy pwysig i’n hiechyd a’n lles na dim ond ymweld â llefydd naturiol.
Gofalu am ein Planed
Planed iach yw’r ffordd orau o roi hwb i’n hiechyd a’n lles. Fe ddylen ni gyd wneud mwy i gynnwys byd natur yn ein bywydau bob dydd i’w helpu i ffynnu.
Mae Cysylltiad â byd natur yn berthynas mae gan bob un ohonom gyfle i’w meithrin, o dreulio amser yn yr amgylchedd naturiol i gychwyn a chadw at ymddygiadau cadarnhaol gydol oes o blaid natur a’r amgylchedd a fydd yn cymell pob un ohonom i ofalu am ein byd.
5 cam ar gyfer iechyd a lles
Mae tystiolaeth yn dangos bod 5 cam y gallwch eu cymryd i helpu i wella’ch iechyd a’ch lles. Y rhain yw:
- rhoi
- dysgu
- bod yn egnïol
- sylwi
- chysylltu
Rhoi
Cymerwch ran mewn gwarchod a meithrin byd natur yn eich ardal leol. Fe allech:
- hel sbwriel o amgylch eich mannau gwyrdd neu las lleol
- arbed dŵr – dyma’n hadnodd naturiol mwyaf gwerthfawr
- dechrau tyfu – tyfwch rywbeth o had, ceisiwch greu blwch plannu, neu plannwch rywfaint o botiau
- plannwch goeden – mae coed yn tynnu carbon o’r atmosffer yn araf bach
- rhowch groeso i fyd natur – gwnewch fwydwyr adar, gwestai trychfilod a chartrefi anifeiliaid
Dysgu
Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer yn ein helpu i ddeall ein bod yn rhan o natur a bod angen i ni ei gwarchod a gofalu amdani. Mae dysgu yn bwydo ein meddyliau, felly ceisiwch ddysgu rhywbeth newydd a rhyfeddol am fyd natur bob dydd.
Bod yn egnïol
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod ymarfer corff yn yr awyr agored yn well i ni nag ymarfer corff mewn llefydd eraill, gan ein gwneud yn hapusach. Ewch am dro neu ar eich beic o stepen eich drws i’ch llefydd naturiol lleol er mwyn cysylltu mewn ffordd egnïol â byd natur a mwynhau’r manteision aruthrol i’ch lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys:
- gwella’ch iechyd corfforol
- hybu iechyd meddwl cadarnhaol
- lleihau symptomau straen
- cynyddu lefelau fitamin D
- gwella’ch hwyliau a theimlo’n well
Sylwi
Mae bod yn fwy ymwybodol o’r byd o’n cwmpas yn ein helpu i werthfawrogi nawr. Mae sylwi ar fyd natur a’i harddwch yn gwneud i ni deimlo’n bositif. Ceisiwch sylwi ar 3 pheth da ym myd natur bob dydd a phrofi sut gall hyn roi hwb i’ch hapusrwydd.
Cysylltu
Mae pobl sy’n yn dueddol o fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus. Gall cysylltu â byd natur eich helpu i sicrhau bod rhywfaint o’ch ymddygiadau o ddydd i ddydd yn rhai amgylchedd gyfeillgar a chadarnhaol o ran eich lles corfforol a meddyliol.
Gallwch ddod o hyd i le i gysylltu â byd natur yn un o’r coetiroedd a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd dan ein gofal ar hyd a lled Cymru.
Sut ydyn ni’n ceisio lledaenu’r teimlad da?
Mae ein hiechyd a’n lles yn dibynnu ar sut rydyn ni’n gofalu am yr amgylchedd naturiol.
Mae adnoddau naturiol yn hanfodol i’n hiechyd a’n lles. Mae cyflwr yr amgylchedd naturiol a sut rydyn ni’n ymwneud ag e yn effeithio’n fawr ar ein hiechyd.
Yn CNC, drwy ystyried iechyd a lles yn ein gwaith, gallwn ofalu am yr amgylchedd er lles pobl ac er lles natur.