Rhoi hwb i dwyni Ardudwy yr haf a’r hydref hwn
Wrth i ymwelwyr â’r arfordir fwynhau atgofion braf o haf ar lan y môr ac wrth i amrywiaeth o flodau gwyllt gogoneddus ddod i ddiwedd eu cyfnod blodeuo am y flwyddyn, mae sylw prosiect Twyni Byw wedi troi at waith cadwraeth pwysig sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Morfa Harlech a Morfa Dyffryn.
Mae Swyddog Prosiect Twyni Byw, Jake Burton, yn rhannu’r cynlluniau ar gyfer y ddau safle allweddol o dwyni tywod ar hyd arfordir Ardudwy yr haf a’r hydref hwn.
Ym Morfa Harlech, bydd gwaith yn mynd rhagddo i reoli rhywogaethau goresgynnol fel barf yr hen ŵr yr haf hwn. Mae rhywogaethau goresgynnol yn un o’r pum prif ffactor sy’n gyrru colled bioamrywiaeth ar draws y byd, ac rydym yn gweithio i reoli’r rhywogaeth oresgynnol hon yn yr ardal hon er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth naturiol y cynefin.
Mewn un man, yn bellach yn ôl yn system y twyni ger Coedwig Harlech, byddwn yn crafu ac yn ailbroffilio tua 2ha i helpu i adfer cynefin llaith llaciau’r twyni ac ardaloedd helaeth o dywod noeth. Bydd y gwaith hwn yn adfer amgylchiadau hanfodol i blanhigion arloesol, gan adfywio mannau i blanhigion prin dyfu ac i amffibiaid a gwenyn unig dyllu.
Wrth i’r dail gwympo a’r dyddiau fynd yn fyrrach, mae’r hydref yn gyfnod perffaith i ni dynnu’r coed conwydd sy’n weddill yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant, sy’n rhan o system twyni Morfa Harlech. Dydy coed conwydd ddim yn frodorol yn ein twyni tywod, ac fe’u plannwyd yn y gorffennol am eu pren ac er mwyn sefydlogi’r twyni a oedd ar un tro yn symudol. Bydd eu tynnu yn helpu glaswelltir y twyni â chyfoeth o flodau i ffynnu unwaith yn rhagor.
Draw yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, byddwn yn dal ati gyda’r gwaith rheoli prysgoed ar draws 7 hectar. Er bod prysgoed yn gynefin gwerthfawr, mae angen ei reoli i gadw’r twyn mewn cyflwr da er lles bywyd gwyllt. Bydd torri’r prysgoed yn ôl yn sicrhau nad yw’n mygu cynefin agored y twyni, a bydd yn helpu infertebratau a phlanhigion arbenigol i ffynnu.
Caiff holl waith Twyni Byw ei wneud gyda’r uchelgais o wella tirwedd twyni arbennig Morfa Harlech a Morfa Dyffryn, sy’n un o’r mathau mwyaf cyfoethog o gynefin ac sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn Ewrop. Cadwch olwg ar ein ffrydiau ar y cyfryngau cymdeithasol ble byddwn yn dal ati i roi diweddariadau rheolaidd am ein gwaith. Gallwch ddod o hyd i ni yn @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw.