Allwch chi glywed y gylfinir? Helpwch ni i ddod o hyd i ble maen nhw'n dal i fagu

Yn y blog hwn, mae'r ffermwr a phrif swyddog cadwraeth y gylfinir yn CNC, Bethan Beech, yn rhannu'r cam hawdd y gall ffermwyr eu cymryd i gefnogi'r gylfinir yng nghefn gwlad Cymru.

Ers cenedlaethau, mae ffermwyr wedi croesawu dychweliad y gylfinir i'w tir - arwydd sicr bod y gaeaf ar ben a'r gwanwyn ar ei ffordd. Dw i’n lwcus bod gylfinirod wedi bod yn magu ar ein fferm deuluol yn Sir Ddinbych ers 2017, a dw i bob amser yn gwrando am eu galwad ar ôl gaeaf hir.

Mae'r adar eiconig hyn yn rhan o rythm sawl rhan o gefn gwlad Cymru, ond mae eu niferoedd wedi gostwng yn fawr. Mewn rhai ardaloedd, mae'r gylfinir wedi diflannu'n gyfan gwbl.

Er mwyn helpu i amddiffyn y gylfinirod sy'n weddill a chefnogi eu hadferiad, rydym ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu arolwg mawr ym mis Mawrth ac Ebrill 2026. Os yw eich tir o fewn ardal flaenoriaeth, byddwch yn derbyn e-bost yn yr wythnosau nesaf yn gofyn am ganiatâd i gynnal arolwg.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ond drwy ganiatáu mynediad, byddwch yn ein helpu i greu darlun cliriach o ble mae gylfinirod yn dal i fagu - sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod eu galwad yn dal i gyfarch y gwanwyn am genedlaethau i ddod.


Beth yw pwrpas yr arolwg?

Bydd Arolwg Adar Hirgoes sy’n Bridio Cymru yn canolbwyntio ar y gylfinir, ond bydd hefyd yn cofnodi cornchwiglod, gïachod, cwtiaid aur, pibyddion y mawn a phibyddion coesgoch sy'n magu. Bydd syrfewyr yn ymweld â sgwariau 1km dethol - a ddewiswyd oherwydd eu tebygolrwydd uchel o gynnal gylfinirod sy'n magu - rhwng mis Mawrth ac Ebrill 2026, gan dreulio hyd at awr ym mhob un. Os na chanfyddir gylfinirod, cynhelir ail ymweliad ym mis Ebrill.

Bydd syrfewyr yn defnyddio mannau gwylio lle bo modd, yn osgoi tarfu ar dir neu dda byw, a dim ond adar hirgoes fyddant yn eu cofnodi.


Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Fel ffermwr fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw i bobl drin tir gyda pharch. Mae cyfranogi yn wirfoddol, a bydd eich penderfyniad bob amser yn cael ei barchu.

Ni fydd yr arolwg hwn yn creu rheolau neu ddynodiadau newydd - mae'n helpu i wneud asesiadau presennol yn fwy cywir, er enghraifft wrth asesu cynigion plannu coed neu ganolbwyntio rheolaeth ar gylfinirod.

Bydd y map cenedlaethol a fydd yn deillio o'r arolwg yn dangos ardaloedd eang, nid ffermydd unigol nac nythod adar. Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllunio cadwraeth yn unig — nid mynediad cyhoeddus na thwristiaeth.

Bydd dim mwy na dau syrfëwr yn ymweld am hyd at awr ar unrhyw un adeg, a byddant yn gofalu i osgoi tarfu ar yr adar neu da byw. Mae eich cefnogaeth yn helpu sicrhau bod yr adar eiconig hyn yn parhau i fod yn rhan o'n cefn gwlad am genedlaethau i ddod.


Pam mae eich cymorth yn bwysig

Mae'r arolwg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o ymdrech ehangach i gefnogi ffermwyr Cymru i amddiffyn y bywyd gwyllt sy'n gwneud ein cefn gwlad yn unigryw - gan gydnabod y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae fel ceidwaid y tir.

Bydd yr arolwg yn:

  • Sicrhau bod gweithgareddau plannu coed yn dilyn dull “y goeden gywir, y lle cywir”, heb amharu ar gynefin y gylfinir
  • Cefnogi rheoli cynefinoedd yn y dyfodol drwy gynlluniau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ein nod yw arolygu hyd at 1,200 o sgwariau, a allai gynnwys 3,000–4,000 o ddaliadau ledled Cymru.


Beth allwch chi ei wneud

Os yw eich tir yn cael ei nodi fel ardal flaenoriaeth, byddwch yn derbyn e-bost gan CNC yn ystod yr wythnosau nesaf yn gofyn am ganiatâd i gynnal yr arolwg. Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ateb yr e-bost hwn cyn gynted ag y gallwch. Mae angen caniatâd cynnar i roi amser i ni gynllunio'r arolwg Cymru gyfan hwn.

Drwy roi eich caniatâd, gallwch chwarae rhan hanfodol i sicrhau y gall galwad y gylfinir barhau i atseinio ar draws cefn gwlad Cymru am flynyddoedd i ddod.

Dysgwch fwy am warchod y gylfinir yng Nghymru.

Llun gylfinir gan: Gary Jones/ Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru