Bae Cemlyn: Hafan hanfodol yr haf i rai o’n hadar môr prinnaf

Bob gwanwyn, wrth i’r dyddiau ymestyn ac wrth i’r môr ddechrau cynhesu, mae miloedd o adar môr yn gorffen eu taith ryfeddol ar Ynys Môn.

Wedi hedfan am y gogledd o arfordiroedd gorllewinol Affrica, maen nhw’n croesi cefnforoedd a chyfandiroedd i ddychwelyd i’r lleoedd lle cawsant eu geni. I lawer o fôr-wenoliaid pigddu, daw’r daith honno i ben ym Mae Cemlyn – lagŵn graean tawel sy’n chwarae rhan enfawr yn eu goroesiad. Mae niferoedd llai o fôr-wenoliaid y gogledd hefyd yn cyrraedd yma bob blwyddyn, gan gwblhau un o’r teithiau mudo hiraf ym myd natur, o’u tiroedd gaeafu yn yr Antarctig i fagu ym Mae Cemlyn.

Mae Bae Cemlyn, a reolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, yn un o’r safleoedd pwysicaf ar gyfer adar môr yng Nghymru a’r DU. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyfrannu hyd at 50% o gostau rheoli blynyddol y safle, gan ariannu wardeiniaid tymhorol, gwaith rheoli cynefinoedd, rheoli ysglyfaethwyr, monitro ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae’r safle’n cynnal yr unig nythfa o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru a’r drydedd fwyaf yn y DU. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tua 1,500 o barau wedi dychwelyd i nythu yma – tua 20% o gyfanswm poblogaeth y DU a thua 3% o boblogaeth y byd. Am un safle, mae hynny’n gwneud Cemlyn yn eithriadol o bwysig.

Mae môr-wenoliaid pigddu yn adar trawiadol. Yn wyn gan fwyaf, gyda chap du, pig ddu â’i blaen yn felyn a chynffon fforchog, pan fydd yn hedfan does dim modd ei chamgymryd am yr un aderyn arall. Maent hefyd yn wydn ac yn byw yn hir, gyda rhai adar yn byw hyd at eu hugeiniau hwyr. Yn flynyddol, maent yn teithio miloedd o gilometrau rhwng safleoedd bridio yn y DU a’u tiroedd gaeafu yng Ngorllewin Affrica.

Mae môr-wenoliaid y gogledd yn llai o ran eu niferoedd yng Nghemlyn, ond maent llawn mor rhyfeddol. Maent yn mynd ar daith flynyddol anhygoel rhwng rhanbarthau’r pegynau, gan deithio o ddyfroedd yr Antarctig i safleoedd magu’r Arctig ac, i’r rhai sy’n nythu yn y DU, i safleoedd fel Bae Cemlyn. Mae’r daith gron epig hon, y daith fudo hiraf y gwyddys amdani i unrhyw aderyn, yn tanlinellu pwysigrwydd byd-eang cynefinoedd magu diogel, wedi’u rheoli’n dda ar hyd eu llwybr.

Mae’r daith yn beryglus. Gall stormydd, prinder bwyd ac ysglyfaethwyr i gyd fod yn gostus. Dyna pam mae safleoedd magu diogel, sy’n cael eu rheoli’n dda, fel Bae Cemlyn, yn hanfodol. Yn y DU, mae llawer o gytrefi pwysig o fôr-wenoliaid ond yn goroesi am eu bod wedi’u gwarchod o fewn gwarchodfeydd natur.

Dywedodd Chris Wynne, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru:

“Mae’r gefnogaeth gan CNC yn hanfodol i ddiogelu’r gytref ryngwladol bwysig hon o adar môr. Mae’n ein galluogi i warchod dros 2,000 o nythod y fôr-wennol bigddu – un o’r cytrefi mwyaf yn y DU. Yn dilyn y llwyddiant cyntaf gyda magu’r fôr-wennol wridog yma mewn tri degawd yn 2025, rydym yn obeithiol y byddant yn dychwelyd eto yn 2026.”

Nid yw Cemlyn yn bwysig ar ei ben ei hun. Mae môr-wenoliaid yn adar môr symudol iawn sy’n dibynnu ar rwydwaith cysylltiedig o safleoedd nythu diogel. Yn ogystal ag Ynysoedd y Moelrhoniaid (y Skerries) ac Ynys Feurig, mae Cemlyn yn rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Môr-wenoliaid Ynys Môn.

Mae rheoli safle fel Cemlyn yn gofyn ymdrech barhaus. Ers pandemig Covid, mae nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu, a ddaw â heriau newydd fel cŵn oddi ar dennyn yn tarfu ar ardaloedd nythu. Mae wardeiniaid yn chwarae rhan hanfodol yn amddiffyn adar yn ystod y tymor magu.

Mae’r gytref wedi wynebu trafferthion. Yn 2023, cafwyd achos o ffliw adar yng Nghemlyn, a bu ein swyddogion yn cefnogi’r gwaith o waredu adar marw yn ddiogel. Diolch i waith rheoli gofalus, mae’r gytref wedi gwella ers hynny ac wedi dychwelyd i niferoedd cryf.

Bob blwyddyn, mae’r adar hyn yn cwblhau rhai o deithiau mwyaf anhygoel natur i gyrraedd Bae Cemlyn. Mae gwarchod y lle arbennig hwn yn sicrhau bod ganddyn nhw rywle diogel i lanio – nid yn unig eleni, ond am genedlaethau o fôr-wenoliaid i ddod.

 

Llun: Môr-wennol y gogledd.

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru