Mwynhewch yr awyr agored yn gyfrifol yr hanner tymor hwn ym mis Hydref

Gall hanner tymor ym mis Hydref fod yn adeg wych o'r flwyddyn i ymweld â choetiroedd, parciau ac arfordiroedd - mae'r dail yn troi'n euraidd, mae'r awyr yn ffres, ac mae machlud cynnar yn goleuo'r awyr.

Ond wrth i fwy ohonom fynd i’r awyr agored i wneud y gorau o'r gwyliau, mae'n werth cymryd eiliad i feddwl am sut y gallwn fwynhau'r mannau hyn wrth eu cadw'n brydferth, yn ddiogel ac yn iach i bawb, gan gynnwys y planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw ynddynt.

Dyma sut i fanteisio i’r eithaf ar eich anturiaethau hanner tymor wrth ddilyn y Cod Cefn Gwlad a gofalu am y lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw.

Mwynhewch y dail, ond ewch â'ch sbwriel adref

Mae’r dail yn creu carped hardd ar draws coetiroedd a pharciau yr adeg hon o'r flwyddyn. Dyma un o bleserau symlaf yr hydref. Helpwch i gadw'r mannau hyn yn brydferth i bawb trwy ddod â bag a mynd â'ch sbwriel adref gyda chi.

Cofiwch Fentro’n Gall wrth i'r nosweithiau hirhau

Mae'r nosweithiau'n ymestyn yn gyflym nawr. Os ydych chi'n mynd allan am dro yn yr hydref, cofiwch Fentro’n Gall i sicrhau nad ydych chi'n cael eich dal allan yn y tywyllwch: cynlluniwch eich llwybr yn dda, dewch â map, a gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru'n llawn cyn i chi gychwyn.

Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn i chi adael ond peidiwch â bod ofn troi'n ôl os bydd yr amodau'n gwaethygu tra byddwch allan. Os ydych chi'n mynd i'r arfordir neu'r afonydd llanwol, edrychwch ar amseroedd llanw hefyd fel nad ydych chi'n cael eich ynysu ar adeg y llanw.

Meddwl am y mwd

Mae glaw'r hydref yn arwain at fwd, llaid a llaca ar y llwybrau. Oeddech chi'n gwybod y gall clefydau coed gael eu cludo ar fwd a malurion planhigion heb i chi byth wybod hynny? Gall defnyddio offer mwdlyd ledaenu clefydau dinistriol fel Phytophthora ramorum i goetiroedd eraill, ymosod ar goed llarwydd a dinistrio coedwigoedd.

Mae'r ateb yn syml: gadewch y goedwig yn y goedwig. Ar ôl pob ymweliad, brwsiwch fwd a malurion planhigion i ffwrdd cyn i chi adael, a glanhewch eich beic, esgidiau ac offer rhwng ymweliadau. Mae ychydig funudau o ofal yn amddiffyn ein coedwigoedd a'n llwybrau ar gyfer y tymor hir.

Cymerwch atgofion, gadewch olion pawen yn unig

Os byddwch chi allan gyda'r ci yr hanner tymor hwn, cofiwch lanhau ar ei ôl bob amser. Rhowch y baw mewn bag a'i roi yn y bin, neu ewch ag ef adref gyda chi. Mae dilyn y Cod Cerdded Cŵn yn helpu i gadw mannau a rennir yn ddymunol ac yn ddiogel i bawb, gan gynnwys ymwelwyr eraill, bywyd gwyllt a da byw.

Parciwch yn gyfrifol

Bydd mannau awyr agored poblogaidd yn brysur yr hanner tymor hwn. Defnyddiwch feysydd parcio swyddogol lle maent ar gael, ac osgowch rwystro mynediad i eraill, gan gynnwys trigolion lleol, ffermwyr a'r gwasanaethau brys.

Yn mynd i'r dŵr? Cofiwch Edrych, Golchi, Sychu

Fyddwch chi’n pysgota, hwylio neu badlo yr hanner tymor hwn? Cyn i chi hel eich pac, cofiwch Edrych, Golchi, Sychu. Drwy gadw'ch offer yn lân, byddwch chi’n atal lledaeniad planhigion, anifeiliaid a chlefydau goresgynnol a all rwystro dyfrffyrdd a lladd pysgod.

Edrychwch dros eich cyfarpar, eich cwch a’ch dillad ar ôl gadael y dŵr am fwd, anifeiliaid dyfrol neu ddeunydd planhigion. Tynnwch unrhyw beth y dewch o hyd iddo a'i adael ar y safle.

Golchwch bopeth yn drylwyr cyn gynted â phosibl, gan dalu sylw arbennig i fannau sy’n wlyb neu sy’n anodd eu cyrraedd. Defnyddiwch ddŵr poeth os oes modd.

Gadewch i bopeth sychu am gyhyd ag y gallwch cyn ei ddefnyddio yn rhywle arall. Gall rhai rhywogaethau goresgynnol oroesi am fwy na phythefnos mewn amodau llaith.

Cadwch yn ddiogel ger dŵr

P'un a ydych chi'n ymweld â'r arfordir, afon neu lyn yr hanner tymor hwn, dilynwch y Cod Diogelwch Dŵr ac unrhyw arwyddion ar y safle. Mae'n arbennig o bwysig cadw pellter diogel o ymyl y dŵr mewn tywydd gwlyb a gwyntog.

Cyn nofio, stopiwch a meddyliwch: a yw'n lle diogel i nofio, a oes ceryntau neu beryglon cudd, a pha mor ddwfn mae’r dŵr? Cymerwch risg sioc o ganlyniad i ddŵr oer o ddifrif.

Ewch gyda rhywun arall bob amser a chadwch blant ifanc o fewn cyrraedd braich. Rhowch bethau sy’n tynnu sylw o'r neilltu, gan fod goruchwyliaeth weithredol yn achub bywydau.

Os byddwch chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, ceisiwch arnofio nes eich bod chi'n teimlo'n dawel. Os ydych chi'n gweld rhywun arall mewn trafferth, ffoniwch 999 a thaflwch rywbeth sy'n arnofio iddynt. Peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr i’w hachub.

Parchu, diogelu, mwynhau

Mae'r holl awgrymiadau hyn yn ymwneud â gwneud dewisiadau bach, syml sy'n eich helpu i gael amser gwych wrth gadw ein coetiroedd, parciau a dyfrffyrdd yr un mor brydferth ar gyfer eich ymweliad nesaf a'r genhedlaeth nesaf.

Felly, yr hanner tymor hwn, mwynhewch y dail, y mwd, y dŵr a'r antur, a dilynwch y Cod Cefn Gwlad i barchu, diogelu a mwynhau'r awyr agored.

Dysgwch fwy am y Cod Cefn Gwlad

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru