Ehangu ein tystiolaeth ar lygredd maethynnau yn yr amgylchedd dŵr
Mae nitrogen a ffosfforws i'w cael yn y byd naturiol ac maent yn faethynnau pwysig ar gyfer twf planhigion ac anifeiliaid
Gall gweithgareddau a datblygiad dynol gynyddu'r nifer o faethynnau sy'n mynd i mewn i'n hafonydd, llynnoedd a dyfroedd arfordirol. Gall hyn arwain at dyfiant gormodol o algâu a phlanhigion eraill, sydd yn ei dro yn niweidio ecoleg naturiol a nodweddion cynefinoedd dŵr. Gelwir yr effeithiau negyddol hyn yn aml yn ewtroffigedd.
Deall ffynonellau maethynnau o ddefnydd tir gwledig
Mae nitrogen a ffosfforws yn faethynnau hanfodol ar gyfer cynhyrchu cnydau a da byw iach. Ers blynyddoedd lawer, mae ffermwyr wedi rheoli'r defnydd o faethynnau ar eu ffermydd er mwyn cynyddu cynhyrchiant bwyd. Er enghraifft, drwy gasglu a gwasgaru tail ar gnydau neu drwy ddefnyddio gwrtaith artiffisial (anorganig). Fodd bynnag, mae rhywfaint o faethynnau yn cael eu colli bob amser i'r amgylchedd drwy gynhyrchu bwyd – naill ai i'r aer, pridd neu ddŵr.
Ym mis Ebrill 2021, daeth rheoliadau newydd yn weithredol yng Nghymru i leihau effaith arferion amaethyddol ar ein hamgylchedd a’n dyfroedd.
Mae’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) yn gosod rheolau newydd y mae’n rhaid i ffermwyr gydymffurfio â nhw. Mae'r rheolau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r rhain yn cynnwys taenu gwrtaith nitrogen, a’r gofyniad i ffermwyr ymgymryd â chynllunio rheoli maethynnau a chadw cofnodion.
Yn dilyn cyflwyno’r rheoliadau newydd, gofynnodd Llywodraeth Cymru inni gynnal adolygiad o grynodiadau maethynnau yn nyfroedd Cymru.
Yn flaenorol, cynhaliwyd yr asesiad hwn gan CNC fel rhan o’r broses Parth Perygl Nitradau.
Mae'n ategu sylfaen dystiolaeth CNC ar gyfer ansawdd dŵr, sy'n cynnwys ein Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a'n hadroddiadau cydymffurfio ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.
Adolygiad Maethynnau Cymru
Roeddem am i ganlyniadau’r Adolygiad Maethynnau Cymru cyntaf fod yn gymaradwy ag asesiadau blaenorol o ddyfroedd yr effeithir arnynt gan faethynnau o ffynonellau amaethyddol. Felly, mae ein hasesiad yn dilyn yr un fethodoleg i raddau helaeth ag a ddefnyddiwyd mewn adolygiadau Parth Perygl Nitradau blaenorol.
Fodd bynnag, rydym wedi ychwanegu crynodiadau ffosfforws i'n Hadolygiad Maethynnau, er mwyn adeiladu ar ein tystiolaeth bresennol o lygredd ffosfforws. Rydym hefyd wedi diweddaru’r set ddata defnydd tir i gynyddu’r mathau o ddefnydd tir a chynnwys defnydd tir amaethyddol a threfol.
Afonydd a dyfroedd daear
Er mwyn cynnal asesiad Cymru gyfan o grynodiadau maethynnau o ffynonellau defnydd tir, cafwyd data o’n ffynonellau monitro ansawdd dŵr ein hunain. Yn ogystal â hyn, ychwanegwyd data defnydd tir o ffynonellau allanol, gan gynnwys y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Gwasanaeth Monitro Tir Copernicus, model Farmscoper ADAS, a model cydran Lerner (2000).
Defnyddiwyd dadansoddiad ansawdd dŵr i fapio crynodiadau nitradau a ffosffadau cyfredol (2019) a’r dyfodol (2031). Cyfunwyd hyn wedyn â modelu trwytholchi maethynnau o wahanol ddefnyddiau tir i ddarparu cyfres o setiau data gofodol er mwyn cynhyrchu mapiau risg maethynnau ar gyfer Cymru. Am bob cell grid 1 cilometr ledled Cymru, mae'r mapiau risg hyn yn rhoi sgôr, sy'n seiliedig ar y dystiolaeth, bod ansawdd dŵr wedi mynd y tu hwnt i'r meini prawf ansawdd dŵr ar gyfer nitradau a ffosffadau neu'n debygol o fynd y tu hwnt iddynt. Mae ardaloedd â sgorau uwch yn nodi risg bosibl i ddŵr wyneb o nitradau a/neu ffosffadau.
Yn anffodus, amharwyd ar ein gwaith monitro yn ddifrifol yn ystod 2020 a 2021 oherwydd pandemig COVID-19, felly dewiswyd 2019 fel y set ddata gyflawn ddiweddaraf.
Yn ogystal â mapiau ansawdd dŵr a risg, mae haenau GIS, sy'n dangos crynodiadau trwytholch a ragfynegir, a mapiau dosrannu ffynonellau, sy'n dangos ffynonellau nitrogen a ffosfforws ar y tir a'u cyfraniad cymharol at lwyth maethynnau pob corff dŵr unigol, ar gael.
Llynnoedd
I asesu ewtroffigedd mewn llynnoedd, cyfunwyd data ansawdd dŵr â symptomau ecolegol o ddifrod.
Cyfrifwyd cyfanswm cymedrig nitrogen a chyfanswm cymedrig ffosfforws ar gyfer pwyntiau monitro llynnoedd rhwng 2014 a 2019.
Mae offeryn CNC, a elwir yn bwysau tystiolaeth, yn defnyddio canlyniadau elfennau craidd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr i fesur y tebygolrwydd o ewtroffigedd.
Defnyddiwyd data defnydd tir i fodelu faint o nitrogen a ffosfforws a lwythir i lynnoedd o bosibl, trwy eu dalgylch cyfrannol, o wahanol ddefnyddiau tir, gan gynnwys ffynonellau trefol gwasgaredig.
Yn yr un modd â’r asesiadau dŵr wyneb a dŵr daear, gellir gweld y modelu llwytho fel haenau GIS ar sgwâr grid 5 metr ledled Cymru.
Dangosfwrdd Adolygu Maethynnau
Mae allbynnau'r adolygiad (casglu, prosesu ac asesu data) yn cynnwys cyfres o setiau data gofodol yn bennaf. Bwriad y setiau data hyn yw cynnig llinell sylfaen genedlaethol o ansawdd dŵr maethynnau a ffynonellau llygredd ar y tir posibl, a thystiolaeth i lywio ymdrechion lleihau maethynnau yn y dyfodol.
Mae'r dangosfwrdd hwn yn cynnig mynediad at y setiau data gofodol unigol hyn. Mae hyn yn golygu y gellir archwilio'r canlyniadau manwl ar raddfa genedlaethol, dalgylch ac is-ddalgylch.
Cynhyrchwyd adroddiadau cryno ar gyfer pob math o ddŵr ac mae gwybodaeth fanwl ar adroddiadau methodoleg llawn y dull ar gael ar gais.
Gallwch weld ein Dangosfwrdd Adolygu Maethynnau trwy ein porth GIS.
Defnyddio'r model cywir at y diben cywir
Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar lygredd o reoli tir o dan y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol). Felly, nid yw'n ystyried cyfraniadau at lygredd dŵr gan gwmnïau dŵr neu o ffynonellau eraill.
Mae cwmnïau dŵr wedi defnyddio math gwahanol o fodel i ddeall eu cyfraniad at ffosfforws, a elwir yn fodelu SAGIS. Gwnaed hyn yn ddiweddar i edrych ar ddalgylchoedd unigol ein hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae ar gael ar wefan Dŵr Cymru.
Mae hwn yn defnyddio mewnbynnau wedi'u monitro o asedau'r cwmni dŵr ac yn eu helpu i asesu a phenderfynu ar unrhyw welliannau y gall fod eu hangen i weithfeydd trin dŵr gwastraff neu asedau eraill.
Ar gyfer yr adolygiad hwn, roeddem am i ddata fod yn gymaradwy ag asesiadau blaenorol o lygredd maethynnau o ffynonellau amaethyddol. Felly, defnyddiwyd methodoleg debyg i adolygiadau Parth Perygl Nitradau blaenorol.
Mae’r model a ddefnyddiwyd ar gyfer yr Adolygiad Maethynnau yn canolbwyntio’n bennaf ar edrych ar y risg o lygredd maethynnol gwasgaredig ar y tir ar draws Cymru gyfan. Mae'n defnyddio data ansawdd dŵr, data ansawdd dŵr wedi'u hallosod a modelau trwytholchi maethynnau yn seiliedig ar ddefnydd tir.
Yn anffodus, nid oes model ‘un maint i bopeth’ ar hyn o bryd. Mae rhai modelau yn fwy addas ar gyfer edrych ar y darlun ehangach, tra bod eraill yn gweddu i asesiadau ar raddfa dalgylch neu is-ddalgylch.
Yn y dyfodol, lle mae data a thechnoleg ar gael i ni, byddwn yn ceisio modelu ac asesu’r holl fewnbynnau i’r amgylchedd er mwyn mynd i’r afael yn well â’r ffactorau sy’n effeithio ar ein dyfroedd.
Targedu ymdrechion y dyfodol i leihau llygredd maethynnau
Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, rydym yn chwarae ein rhan lawn wrth weithio i atal llygredd ar draws y diwydiannau rydym yn eu rheoleiddio.
Mae Adolygiad Maethynnau Cymru yn darparu tystiolaeth bwysig i helpu ein timau i'n helpu i dargedu ein hymdrechion a'n hymyriadau. Mae dros 100 o haenau o fewn y dangosfwrdd GIS, a fydd yn galluogi ein swyddogion i nodi mannau problemus o ran maethynnau a meysydd sy'n peri pryder, ac yna ymchwilio'n ddyfnach i'r ffactorau sy'n cyfrannu yn y dalgylch.
Bydd yn cefnogi ein tîm Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol newydd, sy’n bwriadu archwilio 800 o ffermydd ledled Cymru eleni, gan dargedu gweithgareddau amaethyddol risg uchel.
Mae'r heriau sy'n wynebu ein dyfroedd yn gymhleth. Mae newid yn yr hinsawdd, poblogaeth gynyddol a mwy o ddatblygiad trefol a gwledig yn rhoi pwysau cynyddol ar ein dyfroedd.
Os ydym am weld gwelliannau diriaethol mewn ansawdd dŵr i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol, rhaid i bob sector chwarae ei ran i leihau effaith eu gweithgareddau a lleihau ffynonellau llygredd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sefydlwyd fforymau cydweithredol i fynd i’r afael â’r mater, gan gynnwys byrddau rheoli maethynnau ac uwchgynadleddau ffosffad a arweinir gan Lywodraeth Cymru i gyflymu camau gweithredu brys i ddiogelu ein hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig.