Yn Nhawelwch y Nos: Cyfrif Ystlumod ar gyfer Cadwraeth

Mae Catherine Blower yn Swyddog Cadwraeth brwdfrydig sy’n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel rhan o’i swydd, mae’n gyfrifol am sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n bwysig oherwydd eu poblogaethau o ystlumod pedol lleiaf. Yn y blog hwn, mae Catherine yn rhannu ei phrofiadau o’i gwaith yn arolygu’r creaduriaid nosol a hynod ddiddorol hyn.

Gair am Ystlumod Pedol Leiaf

Mae dau fath o ystlum pedol yn y DU; yr ystlum pedol mwyaf a’r ystlum pedol lleiaf. Rhain yw'r unig ystlumod sy'n hongian yn rhydd wyneb i waered. Gallwch eu gwahaniaethu yn ôl eu maint: mae’r ystlum pedol mwyaf tua maint gellygen fach, tra bo’r ystlum pedol lleiaf tua maint eirinen. Maen nhw’n adnabyddus am eu deildrwyn (sef y plygiadau nodedig ar flaen eu hwynebau) sy'n eu helpu i ddefnyddio ecoleoli sy'n hanfodol ar gyfer canfod eu ffordd a dod o hyd i ysglyfaeth. Mae ystlumod pedol lleiaf yn hela'n isel, ac yn dal ysglyfaeth wrth iddo hedfan a hefyd trwy gasglu pryfed oddi ar wyneb planhigion. Maen nhw’n bwyta pryfed llai fel gwybed yn bennaf, er eu bod yn gallu dal gwyfynod a phryfed teiliwr.

Yn wreiddiol roeddent yn byw mewn ogofâu, ond bellach mae ganddynt arferion clwydo tymhorol penodol. Yn yr haf, mae'n well ganddynt ddefnyddio adeiladau â gofodau mewn croglofftydd fel clwydfannau mamolaeth, tra bod eu clwydfannau yn y gaeaf fel arfer mewn ogofâu, siafftiau mwyngloddiau a selerau; amgylcheddau lle mae’r tymheredd yn oer a sefydlog, sy'n ddelfrydol ar gyfer gaeafgysgu.

Yng Ngogledd Powys, mae gennym lawer o glwydfannau mamolaeth a gaeafgysgu sy’n SoDdGAau ac yr ydym yn eu monitro'n flynyddol. Mae llawer o'r clwydfannau hyn yn ffurfio Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Safleoedd Ystlumod Tanat ac Efyrnwy, ond rydym hefyd yn monitro clwydfannau nad ydynt wedi cael eu dynodi lle mae'r poblogaethau wedi’u cysylltu â phoblogaeth yr ACA.

Cyffro Arolygon yr Haf: Cyfrif Ystlumod yn y Cyfnos

Mae arolygon yr haf yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi. Fel arfer rydym yn cyfrif ym mis Mehefin wrth i ni anelu at fonitro'r boblogaeth o oedolion. Mae’r fenyw yn rhoi genedigaeth i un ystlum ifanc sy'n gwbl annibynnol ar ôl chwe wythnos, felly byddai cyfrif yn ddiweddarach yn cael ei ystumio gan yr ystlumod ifanc ychwanegol. Fel arfer byddwn yn cyrraedd ein safleoedd arolygu tua 9pm ar nosweithiau sych, tawel, yn union wrth i'r dydd ddechrau oeri a'r golau wanhau.

Mae'r aer yn oer ar ein croen, a chawn wefr dawel wrth gyrraedd ein safle o amgylch allanfeydd y clwydi y gwyddom amdanynt. Rydym yn defnyddio synwyryddion ystlumod wedi'u tiwnio i amledd o tua 109kHz, sy'n helpu i ddarganfod y galwadau ecoleoli cyntaf wrth i'r ystlumod ddechrau ystwyrian o fewn y glwydfan. Bob tro mae na eiliad arbennig pan fydd yr ystlumod yn dechrau sbecian allan, i ganfod amodau’r golau cyn cilio’n ôl i mewn. Mae hwn yn amser cyffrous, wrth i’r disgwyliad gynyddu ac wrth i’r tîm ganolbwyntio fwyfwy ar yr allanfeydd.

Unwaith y bydd yr ystlum cyntaf yn ymddangos o'r glwydfan ac yn hedfan i ffwrdd, mae'r sgwrsio yn tewi ac mae'r gwaith cyfrif go iawn yn dechrau! Gan ddefnyddio clicwyr llaw, rydym yn gwylio wrth i'r glwydfan gyfan wagio yn yr hyn sy'n ymddangos yn drefnus; un ar y tro i ddechrau, ac yna mewn parau, trioedd ac weithiau mwy. Gall cyfrif pob ystlum wrth iddo ddod allan fod yn waith eithaf heriol i ddweud y gwir, a dyna pam mae arnom angen tîm o dri fel arfer er mwyn inni allu cymryd cyfartaledd ar y diwedd.

Mae'n olygfa syfrdanol, yn enwedig pan fydd acrobateg yr ystlumod yn yr awyr yn cyd-fynd â'u galwadau unigryw ar y synhwyrydd ystlumod. Dim ond am tua 30 munud y mae'r cyfnod dwys hwn yn para cyn i'r noson ddod yn llonydd a thawel unwaith eto. Mae'n ddiweddglo byr ond gwefreiddiol i'n paratoadau a'n disgwyliadau.

Yr Wylnos Dawel: Arolygon Ystlumod Gaeaf

Mae arolygon y gaeaf yn wahanol iawn ond yr un mor bwysig.

Mae'r rhain yn cael eu cynnal yn ystod y dydd yng nghlwydfannau gaeafgysgu tywyll a thawel yr ystlumod pedol lleiaf. Gallwn fod yn chwilio am ystlumod sy’n gaeafgysgu yn hongian wyneb i waered oddi ar raciau gwin mewn seleri, neu'n glynu wrth waliau geirw a nenfydau mwyngloddiau segur.

Mae'r arolygon hyn yn brofiadau gwefreiddiol ac anturus, ac yn rhoi cyfle prin i ni archwilio lleoedd sy'n aml yn waharddedig i bobl eraill. Wrth i ni symud yn ofalus trwy'r mannau tawel hyn, mae'r awyr oer, llaith a'r awyrgylch tawel yn gwneud y profiad bron yn arallfydol.

Peidiwch â chael eich twyllo i feddwl ei bod yn haws cyfrif ystlumod pan fyddant yn gaeafgysgu, gallant glystyru gyda'i gilydd mewn niferoedd dirifedi, gan ei gwneud hi'n anodd cyfrif pob unigolyn. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn cyfrif yr un ystlumod ddwywaith! Mae'n rhaid i ni weithio'n weddol gyflym yn y clwydfannau gaeafgysgu, er mwyn peidio ag aros yn rhy hir a deffro'r ystlumod o'u gaeafgysgu.

Gwerth Arolygon Ystlumod

Mae arolygon ystlumod yn hanfodol er mwyn deall tueddiadau poblogaeth ac arwain ymdrechion cadwraeth. Er bod nifer yr ystlumod pedol lleiaf yng Nghymru wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith monitro parhaus yn dal i fod yn hollbwysig. Mae'r ystlumod hyn wedi'u cyfyngu'n bennaf i orllewin Prydain ac maen nhw’n arbennig o sensitif i gynyrfiadau, yn enwedig yn eu mannau clwydo yn yr haf a'r gaeaf.

Mae llawer o glwydfannau ystlumod mewn adeiladau, sy'n golygu fod angen i ni fod mewn cysylltiad cyson â pherchnogion eiddo i sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael gofal sensitif. Mae data ein harolwg yn eich cyfarwyddo ynghylch cyflwr y clwydfannau, gwelliannau i gynefinoedd ac ymyriadau eraill i gefnogi poblogaethau ystlumod pedol lleiaf.

Mae monitro hefyd yn ein helpu i ganfod dirywiad sydyn a deall effaith hinsawdd newidiol ar y rhywogaeth arbennig hon. Mae’r data yr ydym yn gasglu yn cael ei fwydo i Raglen Fonitro Genedlaethol yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, gan helpu i lunio darlun cynhwysfawr o boblogaethau ystlumod pedol lleiaf ledled y wlad.

 

Gair am yr Awdur

Mae Catherine Blower yn Swyddog Cadwraeth sy'n gweithio ar draws cyfres o safleoedd gwarchodedig yn Nhîm Amgylchedd Gogledd Powys. Gyda’i hangerdd di-ben-draw dros fywyd gwyllt a’i hymrwymiad i warchod bioamrywiaeth, mae Catherine yn flaenllaw wrth drefnu gwaith monitro blynyddol clwydfannau allweddol ystlumod pedol lleiaf ei hardal.  Mae ei gwaith ehangach ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr preifat i wella cyflwr cynefinoedd gwahanol, gan gynnwys glaswelltiroedd, coetiroedd ac ucheldiroedd.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru