Cadw golwg ar welliannau i amgylchedd dŵr Cymru
Mae prosiect partneriaeth Clear Waters yn helpu pobl i ddeall yn well sut mae buddsoddiad cwmnïau dŵr yn cefnogi ein hamgylchedd naturiol. Yma, mae Ruth Johnston, sy'n arwain tîm Cynllunio Dŵr Integredig CNC, yn nodi sut mae cynnydd ar fwy na 3,000 o gamau gweithredu amgylcheddol yng Nghymru yn cael ei olrhain - a beth sy'n digwydd nesaf.
“Yn ystod yr Adolygiad Pris blaenorol yn 2024 (PR24), nododd cydweithwyr a oedd yn gweithio ar y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol filoedd o welliannau i’w cyflawni dros y blynyddoedd nesaf gan y cwmnïau dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru.
“Mae’r camau gweithredu hyn yn ymwneud â phwysau hirdymor ar ein hafonydd, ein harfordiroedd a’n cynefinoedd ac yn adlewyrchu disgwyliadau cynyddol gan gymunedau sydd eisiau gweld dyfroedd glanach ac iachach.
“Maen nhw’n cynnwys gosod systemau Monitro Hyd Digwyddiadau (EDMs) mewn gorlifoedd brys a gorsafoedd pwmpio rhwydwaith, mynd i’r afael â ffynonellau llygredd, a rhoi mesurau ar waith i leihau niwed i bysgod a bywyd gwyllt mewn afonydd lle mae ei angen fwyaf – gan gyflawni gwelliannau gwirioneddol a pharhaol i ansawdd dŵr ac iechyd ecosystemau.
“Mae pum cwmni dŵr yn gweithredu yng Nghymru neu’n derbyn dŵr o Gymru, a’n rôl ni yw goruchwylio cyflawniad y rhwymedigaethau amgylcheddol y cytunwyd arnynt drwy PR24 yn ystod cyfnod 8 y Cynllun Rheoli Asedau (AMP8) gan nodi’r hyn sydd angen ei gyflawni i amddiffyn yr amgylchedd a chefnogi cymunedau.
“Mae Ofwat wedi cytuno ar £1.7 biliwn o gyllid i gwmnïau dŵr gyflawni gwelliannau amgylcheddol - un o’r buddsoddiadau mwyaf a wnaed erioed i amddiffyn a gwella’r amgylchedd dŵr yng Nghymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi gwaith hanfodol sy'n amrywio o uwchraddio seilwaith i gamau gweithredu wedi'u targedu mewn dalgylchoedd sensitif, gan helpu i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi cronni dros ddegawdau.
“Byddwn yn sicrhau bod y gwaith hwn yn aros ar y trywydd iawn ac yn cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd drwy osod amserlenni clir ar gyfer camau gweithredu a monitro cynnydd yn agos. Mae cwmnïau dŵr yn darparu diweddariadau rheolaidd ar gyflawniad, gan ganiatáu inni ddeall cynnydd, cefnogi momentwm parhaus ac ymyrryd yn gynnar lle mae heriau'n codi.
“Rydym hefyd yn gwirio cyflawniad, sy’n ein helpu i nodi risgiau’n gynnar ac yn cefnogi gwelliant cynaliadwy dros amser.
“Tra bod cyflawniad ar y gweill drwy AMP8, rydym yn dechrau gweithio i lywio’r Adolygiad Pris nesaf, PR29, a fydd yn cwmpasu’r cyfnod o 2030 i 2035 (AMP9). Bydd y gwaith sy'n cael ei gyflawni’n awr, a'r gwersi rydyn ni'n eu dysgu ar hyd y ffordd, yn helpu i lunio blaenoriaethau'r dyfodol wrth i gynlluniau ddatblygu.
“Mae amddiffyn ac adfer dyfroedd Cymru yn dasg hirdymor, ond trwy sicrhau buddsoddiad, gweithio gyda chwmnïau dŵr a monitro cynnydd yn agos, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi gwelliannau ystyrlon yn awr ac i’r dyfodol.”