Rheoli Coed a Rhwystrau mewn Afonydd: Dull Gweithredu CNC ar Sail Risg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o reoli perygl llifogydd ledled Cymru. Un maes lle ceir cwestiynau’n aml yw o ran sut rydym yn delio â choed, rhwystrau naturiol a malurion mewn afonydd. Gall y nodweddion hyn ddylanwadu ar y risg o lifogydd - ond gallant hefyd fod â manteision ecolegol. Felly, pryd mae CNC yn ymyrryd, pryd ydym ni’n disgwyl i eraill weithredu, a phryd y gellir caniatáu i natur ddilyn ei chwrs? Mae’r blog hwn gan dîm y Gwasanaethau Perygl Llifogydd Cenedlaethol yn esbonio ein dull gweithredu.
Dim ond un o’r awdurdodau yng Nghymru sydd â rheoli perygl llifogydd yn rhan o’i gylch gwaith yw CNC. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, awdurdodau priffyrdd, tirfeddianwyr preifat, a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldebau i gadw sianeli - a strwythurau o fewn sianeli y maent yn berchen arnynt neu’n eu rheoli - yn glir er mwyn helpu i reoli’r risg o lifogydd.
Dim ond ar gyfer prif afonydd statudol y mae gan CNC bwerau rheoli perygl llifogydd. Mae rolau a chyfrifoldebau wedi’u nodi yn y ddogfen ganlynol gan Lywodraeth Cymru: Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe Llifogydd, gan gynnwys eich cyfrifoldebau os ydych chi’n berchen ar gwrs dŵr. Gallwch wirio a ydych chi’n berchen ar, neu’n agos at, ‘brif afon’ yma.
Rhwystrau – pam eu bod bwysig
Gall coed sydd wedi cwympo, malurion pren, a rhwystrau eraill gyfyngu ar lif afonydd, gan gynyddu’r risg o lifogydd i gymunedau cyfagos. Mewn ardaloedd trefol - lle gall eiddo fod yn agos at gyrsiau dŵr a gall lle fod yn gyfyngedig - gall rhwystr ddod yn berygl yn gyflym. Er enghraifft, os yw coeden sydd wedi cwympo yn lleihau lled afon o fwy na 50% a bod mapiau llifogydd yn dangos risg i eiddo cyfagos, yna mae perygl llifogydd uwch o bosibl.
Ein pwerau cyfreithiol
O dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991, mae gan CNC bwerau caniataol i gynnal gwaith rheoli perygl llifogydd ar brif afonydd a’r arfordir. Mae’r pwerau hyn yn ôl disgresiwn, sy’n golygu y gallwn benderfynu pryd a ble i’w defnyddio, yn seiliedig ar risg. Mewn nifer fach iawn o leoliadau, efallai fod gennym ddyletswyddau fel tirfeddiannydd ond, fel arall, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i glirio unrhyw rwystrau o brif afonydd - felly rhaid i’n penderfyniad i wneud hynny gydbwyso lleihau’r risg o lifogydd ag ystyriaethau amgylcheddol a fforddiadwyedd cymharol. Rhaid inni hefyd ystyried cyfrifoldebau cyfreithiol pobl eraill.
Ymyrryd – pryd?
Bydd CNC fel arfer yn ystyried cael gwared ar rwystrau o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Pan eu bod yn peri risg o lifogydd uniongyrchol i bobl a chymunedau.
- Pan eu bod mewn ardaloedd trefol neu ger seilwaith hanfodol rydyn ni’n ei gynnal, fel amddiffynfeydd rhag llifogydd.
- Pan eu bod yn bygwth asedau amddiffyn rhag llifogydd rydym wedi’u hadeiladu neu rydym yn eu cynnal. Gallwch wirio pwy sy’n gyfrifol am lawer o asedau rheoli perygl llifogydd drwy edrych ar eu lleoliad drwy’r ddolen hon.
Hyd yn oed os bodlonir y meini prawf uchod, dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny y gallwn weithredu – nid yw fel arfer yn ddiogel tynnu rhwystrau yn ystod llifogydd / pan fydd llif uchel. Gall ceisio gwneud hynny roi staff ac offer mewn perygl difrifol, a gall hefyd gael goblygiadau diogelwch ar gyfer unrhyw adeiledd yr effeithir arno gan rwystr neu sy’n ei greu.
Mewn argyfyngau, efallai y byddwn yn gweithredu hyd yn oed ar dir trydydd parti, gan hysbysu perchnogion wedi hynny. Efallai y byddwn hefyd yn ymateb yn ystod llifogydd fel rhan o’n gweithdrefnau rheoli digwyddiadau neu rôl oruchwylio gyffredinol ar gyfer rheoli perygl llifogydd, gan sicrhau bod sianeli’n parhau i fod yn glir lle gallai rhwystrau waethygu llifogydd.
Peidio ag ymyrryd
Nid yw pob rhwystr yn cynyddu’r perygl o lifogydd. Mewn lleoliadau gwledig, gall malurion prennaidd arafu llif dŵr, lleihau llifogydd i lawr yr afon, a chreu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt. Am y rheswm hwn, yn aml nid yw CNC yn cael gwared ar rwystrau naturiol pan nad ydynt yn cynyddu’r perygl o lifogydd i gymunedau/cartrefi. Mae’r dull hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yn gynaliadwy.
Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, rhaid inni ystyried ein dyraniad cyllid fel rhan o’n proses o wneud penderfyniadau. Rhaid inni weithredu o fewn ein cyllideb a’n hadnoddau ac, yn unol â hynny, rhaid inni wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar risg er mwyn cael y gwerth gorau o’n cyllid. Felly nid yw’n bosibl cael gwared ar bob rhwystr.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau a thirfeddianwyr eraill gynnal sianeli afonydd ar eu tir, gan gynnwys rhwystrau ar adeileddau y maent yn berchen arnynt neu’n eu rheoli, megis pontydd. Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut mae gan berchnogion a gweithredwyr asedau rôl i’w chwarae ac efallai mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall y rheolaeth leol o dir a dŵr a’r perygl llifogydd sy’n wynebu eu cymuned.
Oni bai fod seilwaith hanfodol fel amddiffynfeydd rhag llifogydd dan fygythiad oherwydd erydu a achosir gan rwystrau, rydym fel rheol yn disgwyl i dirfeddianwyr gymryd camau priodol yn unol ag egwyddorion perchnogaeth glannau afonydd mewn cyfraith gyffredin.
Nid yw staff rheoli perygl llifogydd CNC yn cael gwared ar wastraff sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon nac anifeiliaid marw o gyrsiau dŵr fel mater o drefn - oni bai eu bod yn rhwystro mynediad ar gyfer gwaith perygl llifogydd neu’n peri perygl llifogydd neu lygredd uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys hen gerbydau segur. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r cyfrifoldeb yn nwylo tirfeddianwyr, awdurdodau lleol, cwmnïau yswiriant neu berchnogion preifat. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar ein tudalennau gwe.
Cydbwyso risg a natur
Mae ein penderfyniadau’n cael eu llywio gan dystiolaeth a gwybodaeth leol. Rydym yn defnyddio mapiau llifogydd, modelu, data asedau, a sgorio canlyniadau i asesu a oes angen ymyrryd. Lle bo modd, rydym yn gweithio gyda phrosesau naturiol – megis annog malurion pren mewn afonydd lle bo hynny’n briodol – er mwyn sicrhau gwydnwch rhag llifogydd a manteision ecolegol. Gallwch wylio’r fideo byr hwn i ddysgu mwy – Afonydd Iach – Pren marw.
Eisiau gwybod mwy? Cliciwch ar y dolenni isod am ganllawiau ar reoli perygl llifogydd a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon.
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Llywodraeth Cymru) – Rolau a Chyfrifoldebau (tudalen 17 ymlaen)
Perchnogaeth Glannau Afonydd:Cynnal Cyrsiau Dŵr (Llywodraeth Cymru)
Cyfrifoldebau am afonydd, ffrydiau, cwlfertau a chamlesi (CNC) (yn cynnwys map o’r prif afonydd)
Bod yn berchen ar gwrs dŵr (CNC)
Gweld strwythurau amddiffyn llifogydd yn agos i chi (Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol) (CNC)
Gweld a oes arnoch angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd (CNC)