Dysgwyr Sir Fynwy yn cysylltu â'u cynefin
Gydag ystod o dirluniau sy'n amrywio dros bellter byr, mae cefn gwlad hardd Sir Fynwy yn cynnig cyfle i ddysgwyr fyfyrio ar hanes, diwylliant a threftadaeth y sir wrth archwilio’r cysyniad o gynefin. Mae’r term 'cynefin' yn fwy na lleoliad daearyddol yn unig a gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio ein perthynas â'r amgylchedd naturiol a sut mae'r cysylltiad hwnnw'n siapio ein hunaniaeth, ein lles, a'n synnwyr o berthyn. Mae disgyblion Ysgol Gynradd Tryleg, Sir Fynwy wedi bod yn archwilio ac yn dysgu am eu lle ar blaned y ddaear yn ddiweddar.
"Ein pwnc Tymor y Gwanwyn drwy’r ysgol oedd cynefin", esboniodd Kate Peacock, y pennaeth dros dro. "I ddechrau buom yn edrych ar y byd yn gyffredinol, yna cyfyngu pethau i wlad, pentref, tref ac yna'r gymuned leol." Mae Tryleg sef Tref (Tre) Llechi (Llech) yn bentref bychan yn Nyffryn Gwy. Yn y canol oesoedd, roedd yn un o'r trefi mwyaf yng Nghymru.
"Mae’r pentref wedi'i amgylchynu gan fryniau tonnog, coetiroedd a chaeau bugeiliol ac mae yma nifer o henebion a oedd yn golygu bod digon o gyfleoedd i’n dysgwyr fynd allan i archwilio a darganfod mwy am Dryleg a'r ardal leol. Gan ddefnyddio'r amgylchedd naturiol fel awen ac wedi’u hysbrydoli gan waith celf yr artist Rhiannon Roberts, aeth disgyblion dosbarth derbyn a Blwyddyn 1 ati i greu eu gwaith celf eu hunain, gan dynnu lluniau a pheintio'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw a’r hyn sy'n arbennig am eu cynefin."
Aeth "Blynyddoedd 2 a 3 ar daith gerdded leol heibio safleoedd hanesyddol 'Tump Turret ', safle castell mwnt a beili bychan sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y Normaniaid, ac Eglwys Sant Nicholas, canolbwynt y pentref. Ymchwiliodd y dysgwyr i nodweddion corfforol y dirwedd a thrafod dylanwad dyn. Buont yn edrych ar y nodweddion strwythurol ac yn trafod pam gawson nhw eu hadeiladu cyn rhoi cynnig ar ail-greu rhai o dirnodau Cymru a Thryleg gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. Wrth baratoi ar gyfer ein gweithgarwch tirnodau awyr agored, dangoswyd lluniau o dirnodau Cymreig i’r disgyblion a gofynnwyd iddynt beth oedden nhw. Penderfynwyd cymysgu grwpiau blwyddyn a galluoedd disgyblion fel y gellid defnyddio amrywiaeth o sgiliau. Datblygodd y gweithgaredd sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ogystal â sgiliau adeiladu tîm."
"Gyda llygad craff am fanylion, mae disgyblion Blwyddyn 4 wedi treulio amser yn cofnodi eu cynefin ac yn tynnu lluniau o amgylchedd naturiol Tryleg. Gan wneud defnydd da o’u sgiliau cyfathrebu a digidol, mae darpar Asiantau Tai ym mlwyddyn 5 wedi rhannu'r hyn sy'n arbennig am Dryleg drwy greu fideos i ddenu pobl sydd eisiau prynu tai i symud i'r ardal. Mae’r thema 'Cynefin' wedi gweithio'n dda i ni, gan gwmpasu'r 4 diben. Roedd yn bodloni meini prawf Cwricwlwm Cymru a'r Cwricwlwm Cymreig ac roedd yn ymgorffori ac yn gwella sgiliau yn yr ystafell ddosbarth dan do a’r ystafell ddosbarth awyr agored."
"Rydyn ni’n croesawu dysgu yn yr awyr agored yn Nhryleg", meddai Kate "gan ei fod yn datblygu sgiliau cymdeithasol, hyder ac yn gwella dysgu. Rydyn ni'n ymweld â safle Ysgol Goedwig y Ddôl Wlyb gerllaw. Mae hyn yn cynnwys taith gerdded 10 - 15 munud i gyrraedd y safle sy'n ardderchog i iechyd a lles y dysgwyr. Unwaith y byddant yn y goedwig mae'r disgyblion yn dysgu am fyd natur a'i bwysigrwydd ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi fel celf, llythrennedd, mathemateg, gwyddoniaeth a cherddoriaeth. Rydyn ni’n gweld ochr wahanol a chadarnhaol i ymgysylltiad disgyblion yn ystod ein sesiynau dysgu awyr agored."