Paratoi ar gyfer stormydd yr hydref a’r gaeaf, ac ymateb iddynt

Mae Cymru yn sicr wedi gweld hydref a gaeaf arbennig o wlyb a gwyntog. Ers Storm Agnes ym mis Medi – y storm gyntaf a enwyd yn nhymor 2023/24 – mae’r Deyrnas Unedig bellach wedi teimlo effaith deg storm a enwyd hyd yma.

Mae mwy o sylw’n cael ei roi i amlder a ffyrnigrwydd tywydd o’r fath yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, ac mae hyn yn sbarduno trafodaethau pwysig ynglŷn â sut rydym yn paratoi ar gyfer tywydd o’r fath a sut mae’n rhaid i ni addasu i’r hyn a ddaw yn y dyfodol.

Dyma Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn myfyrio ar y digwyddiadau tywydd hyn, a sut mae ein timau’n gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i baratoi ar gyfer tywydd eithafol amlach, ymateb iddo, ac adfer ar ei ôl.

O’n timau rhybuddio a hysbysu i’n timau gweithredol ar lawr gwlad, mae paratoi ar gyfer, ac ymateb i, ddigwyddiadau tywydd eithafol yr hydref a’r gaeaf wedi golygu cyfnod eithriadol o brysur i CNC.

Storm Jocelyn, a darodd y Deyrnas Unedig ym mis Ionawr, oedd y ddegfed storm a enwyd i’n cyrraedd y tymor hwn. Dyma’r cynharaf erioed i’r wlad gyrraedd y llythyren J yn system enwi trefn-yr-wyddor y Swyddfa Dywydd ers iddi gael ei chyflwyno yn 2015-16, pan enwyd cyfanswm o 11 storm. Gan nad yw’r tymor presennol hwn i fod i ddod i ben tan ddiwedd mis Awst, mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai record 2015-16 ar gyfer stormydd a enwyd gael ei dorri yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

Y stormydd a’u heffeithiau

Mae llawer o’r stormydd rydym wedi’u hwynebu yr hydref a’r gaeaf hwn wedi cyrraedd yn gyflym, gan ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm sydd wedi llenwi’r tir ac ychwanegu at afonydd sydd eisoes wedi chwyddo.

Arweiniodd stormydd Babet a Ciarán, a effeithiodd ar gymunedau ledled Cymru ym mis Hydref a Thachwedd yn y drefn honno, at gyhoeddi cyfanswm o 185 o negeseuon llifogydd, 60 o rybuddion llifogydd, a dau rybudd llifogydd difrifol.

Adroddodd tua 160 eiddo ar draws Conwy, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys lifogydd yn ystod Storm Babet a sawl un arall yn ystod Storm Ciarán yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam. Yn ogystal, roedd rhybudd tywydd melyn am law trwm rhwng y stormydd - arweiniodd hynny at lifogydd mewn 26 eiddo arall yn Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn meddwl am y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhain, ac unrhyw ddigwyddiadau llifogydd eraill dros y misoedd diwethaf.

Parhaodd y cyfnod ansefydlog i mewn i fis Rhagfyr wrth Storm Fergus ddilyn ar gwt Storm Elin.

Cyrhaeddodd Gerrit a Henk dros gyfnod y Nadolig, gan ddod â chyfanswm y negeseuon llifogydd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr i 145 a rhybuddion llifogydd i 23. Roedd yn fwy o Nadolig gwlyb na Nadolig gwyn, mae hynny’n sicr!

Ar droad y flwyddyn newydd, arweiniodd gwyntoedd niweidiol a glaw trwm Storm Henk at lifogydd mewn rhai o’n cymunedau ac aflonyddwch difrifol i lawer o bobl. Cyhoeddwyd 40 o negeseuon llifogydd, 30 rhybudd llifogydd ac un rhybudd llifogydd difrifol wrth i afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod dorri ei hail record o ran lefel y dŵr mewn tri mis. Yr arwyddion cychwynnol oedd bod tua 40 eiddo wedi dioddef llifogydd o ganlyniad i stormydd Gerrit a Henk.

Rhoi’r paratoadau yn eu lle

Yn y cyfnod cyn unrhyw law sylweddol, rydym yn ymgysylltu â’n cydweithwyr yn y Swyddfa Dywydd a’r Ganolfan Darogan Llifogydd drwy gynhyrchu’r Datganiad Canllawiau Llifogydd ar gyfer sefydliadau partner a rhannu fersiwn o hwn drwy’r rhagolwg perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru ar ein gwefan. Rydym hefyd yn mynychu sesiynau briffio ac yn rhannu gwybodaeth am effeithiau posibl gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i sicrhau bod mesurau cyflym a phriodol yn cael eu rhoi ar waith yn ôl yr angen.

Mae’r cydweithio hwn gyda’r Swyddfa Dywydd a’r Ganolfan Darogan Llifogydd yn amhrisiadwy – yn enwedig pan fo hynt ac effeithiau’r stormydd mor anrhagweladwy â rhai o’r stormydd rydym wedi’u hwynebu dros y misoedd diwethaf.

Cyn, yn ystod ac ar ôl y glaw, bydd ein timau hefyd yn gweithio rownd y cloc i gynnal archwiliadau a chynnal a chadw ein rhwydwaith o amddiffynfeydd i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn a’u bod yn gallu gwneud eu gwaith. Rydym hefyd yn sicrhau bod ein gwarchodfeydd natur a’n milltiroedd o lwybrau cerdded a beicio mynydd yn ddiogel i’r cyhoedd.

Er bod sawl afon wedi cyrraedd lefelau pryderus o uchel – gan weithiau dorri record – yn ystod y stormydd, gwnaeth ein rhwydwaith o amddiffynfeydd – sydd o fudd i 73,000 o eiddo ledled Cymru – a’n cydweithwyr ymroddedig eu gwaith gan helpu i leihau’r risg i filoedd o bobl.

Mae ein rhagolygon hefyd yn dibynnu ar wybodaeth o’n rhwydwaith o fesuryddion afonydd a glaw - ein timau hydrometreg a thelemetreg sy’n gofalu am y rhain. Mae eu harbenigedd hefyd yn llywio sut rydym yn cyfathrebu risgiau posibl i’r cyhoedd. Mae ein cydweithwyr wedi ymddangos yn rheolaidd ar y cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, gan rybuddio a hysbysu gwrandawyr a gwylwyr am y risgiau esblygol, a’r hyn y byddai angen iddynt ei wneud i sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu hanwyliaid. Rydym hefyd yn ymgysylltu â’r rhai sydd mewn perygl o lifogydd yn uniongyrchol ledled Cymru drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rhwydwaith o wirfoddolwyr llifogydd cymunedol, sy’n helpu eu cymunedau i baratoi’n well a chymryd camau effeithiol yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Elfen allweddol o’n gwaith rheoli perygl llifogydd yw ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd am ddim, sy’n darparu gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr. Os disgwylir llifogydd, mae’n rhoi rhybudd ymlaen llaw i’r rhai sydd wedi cofrestru (drwy e-bost, neges destun neu alwad llais) gan roi’r amser iddynt allu cymryd camau i leihau’r effaith arnynt eu hunain a’u heiddo.

Gall unrhyw un wirio a ydynt mewn perygl o lifogydd trwy’r gwiriwr cod post ar ein gwefan. Os yw’r ardal honno wedi’i chwmpasu gan ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd afonydd ac arfordirol, yna gallwch gofrestru i gael rhybuddion trwy ein gwefan neu drwy ffonio’r Llinell Llifogydd 0345 988 1188, Type Talk: 0345 602 6340.

Mae pob dalgylch ac arfordir yng Nghymru yn dod o dan y gwasanaeth negeseuon llifogydd ac mae ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd yn cwmpasu tua 60% o’r eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o brif afonydd neu’r môr yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r gwasanaeth hwn ac yn annog pawb i wirio eu perygl llifogydd yn ôl cod post a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd os ydynt mewn perygl.

Lleihau ac addasu i berygl llifogydd yn y dyfodol

Er ein bod wedi gweld eiddo dan ddŵr mewn rhai mannau a’r effeithiau dinistriol y mae hyn wedi’u cael, mae Cymru hyd yma wedi osgoi’r effeithiau difrifol ac eang a welwyd yn yr Alban a Lloegr. Serch hynny, cael a chael y bu hi ar adegau, a phe bai mwy o law i Gymru yn sgil un o’r stormydd, byddai wedi bod yn llawer gwaeth gan fod y dalgylchoedd wedi bod yn ddirlawn heb unman arall i lawiad pellach fynd ond rhedeg yn gyflym oddi ar y tir ac i mewn i gyrsiau dŵr ac afonydd.

Mae’r cyfnod hir o dywydd gwlyb wedi golygu bod afonydd yn arbennig o ymatebol. Pe bai un digwyddiad o law wedi bod yn fwy sylweddol, gallem fod wedi gweld y llifogydd dinistriol a gafwyd ym mis Chwefror 2020, pan fu mwy na 3,000 o eiddo dan ddŵr ledled Cymru. Diolch byth, nid yw hyn wedi dod yn wir eto.

Fodd bynnag, mae’n gwneud inni feddwl am yr angen i barhau â’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut mae Cymru’n paratoi ei hun ar gyfer llifogydd amlach a mwy eithafol yn wyneb hinsawdd sy’n newid.

Mae’n ddiymwad y byddwn yn gweld mwy o ddigwyddiadau tywydd garw a llifogydd yn y dyfodol. Mae glawiad yn mynd yn ddwysach, a gallwn ddisgwyl llifogydd mwy difrifol drwy gydol y flwyddyn, nid yn yr hydref neu’r gaeaf yn unig. Mae angen ystyried yn gyson sut rydym yn addasu ar y cyd i’r digwyddiadau heriol hyn er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rheoli’r bygythiad a gyflwynir.

Buddsoddiad yn y dyfodol

Gwyddom nad yw’n bosibl atal neu rwystro llifogydd yn llwyr, ond rydym yn cymryd camau i feithrin cydnerthedd i ddigwyddiadau tywydd o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £75 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, sef y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma. Rydym hefyd yn gweithio’n unfryd gyda’n partneriaid i gyflwyno rhaglen waith er budd cymunedau ledled Cymru.

Er hynny, mae glawiad trymach ac amlach yn debygol o arwain at fwy o effeithiau yn sgil llifogydd. Mae angen i ni fod yn barod, gan wneud yn siŵr bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a’n cyngor yn cael eu hategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn gyda sicrwydd ansawdd.

Mae ein hadroddiad diweddaraf yn edrych ar lefel y buddsoddiad sydd ei hangen mewn amddiffynfeydd i reoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol, o afonydd a’r môr – a hynny yn erbyn cefndir o hinsawdd sy’n newid dros y ganrif nesaf.

Mae’r adroddiad yn tanlinellu na ellir dim ond canolbwyntio ar gynnal a buddsoddi mewn amddiffynfeydd gan geisio cadw i fyny â’r newid yn yr hinsawdd - er bod gan hyn ran fawr i’w chwarae i leihau’r risg i gymunedau yng Nghymru. Bydd hefyd angen i Gymru fod yn uchelgeisiol ac edrych ar amrywiaeth o ffyrdd o weithio’n gyfannol i reoli’r risg gynyddol.

Nid oes gwadu bod newid hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydym yn gweld y dystiolaeth o’n cwmpas ym mhobman.

Gyda rhai wythnosau ar ôl o’r gaeaf, mae’n debygol y gwelwn storm arall a byddwn yn annog pobl i wirio’r wybodaeth sydd gennym am lifogydd ar ein gwefan yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd. Mae’r wybodaeth yn cynnwys cyngor a chamau gweithredu ar yr hyn y gall unigolion a chymunedau ei wneud i helpu eu hunain i leihau effeithiau llifogydd.

 

Mae gennym hefyd gyfres o ddeg podlediad sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am sut mae CNC yn rheoli perygl llifogydd yng Nghymru, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys addasu arfordirol, rhagweld llifogydd, a rheoli amddiffynfeydd.

 

Ni fyddwn yn gallu atal llifogydd yn llwyr, ond rydym ni yn CNC yn gweithio’n galed i gymryd camau i leihau’r effaith. Mae gan gymunedau ac unigolion rôl allweddol eu hunain hefyd, ac rydym yn eich annog i ddarganfod mwy trwy ein gwefan neu ein podlediadau.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru