Ymunwch â ni i gyflawni rhaglen amgylcheddol a seilwaith fwyaf uchelgeisiol Cymru hyd yma

Lluniwch y dyfodol. Amddiffynnwch y presennol.

Rydym yn recriwtio ar gyfer ystod eang o rolau arbenigol ym meysydd cynllunio datblygiadau, ecoleg forol a daearol, rheoleiddio a thrwyddedu, cyfreithiol, cyllid a mwy; gyda phob un yn cyfrannu at ddarparu seilwaith o bwys cenedlaethol a'n hymateb i argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae'r rolau hyn yn ganolog i'n gwaith ar y canlynol:

  • Cydsyniad seilwaith a chyngor rheoleiddio
  • Cynllunio a pholisi amgylcheddol
  • Cadwraeth forol a thirwedd
  • Ymbelydredd a rheoleiddio'r sector niwclear
  • Cyllid strategol a chyflawni rhaglenni
  • Gwasanaethau cyfreithiol

P'un a ydych chi'n brofiadol yn y sector cyhoeddus neu'n arbenigwr yn eich maes, os ydych chi'n chwilio am eich cyfle nesaf i gael effaith ar lefel genedlaethol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Beth sydd ar gael?

Mae gennym dros 30 o swyddi gwag newydd a chyffrous ar gael ar amrywiaeth o raddau a chyflogau, gan gynnwys:

  • Cynghorwyr Arbenigol a Rheoleiddwyr yn y meysydd morol, cynllunio, niwclear, trwyddedu a pholisi
  • Ecolegwyr a Chynghorwyr sy'n gweithio ar rywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig
  • Cyfreithwyr a Gweithwyr Proffesiynol Ariannol sy'n cefnogi datblygu a rheoleiddio seilwaith
  • Arweinwyr Gweithredol sy'n rheoli rhaglenni effaith uchel

Mae pob rôl yn cynnig gweithio hyblyg, cyfnodau absenoldeb hael, a'r cyfle i weithio mewn sefydliad sy'n cael ei yrru gan bwrpas ac sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at lesiant a chydnerthedd Cymru.

Pam ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru?

Yn CNC, mae eich gwaith yn bwysig. Rydym yn arwain y ffordd o ran cefnogi datblygu cynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r rolau hyn yn cael eu hariannu gan Raglen Cydsyniad Seilwaith Llywodraeth Cymru, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd cenedlaethol y gwaith hwn.

Byddwch yn ymuno â thîm sy'n gwerthfawrogi cydweithio, cynhwysiant ac arbenigedd, gyda'r offer a'r hyblygrwydd i wneud eich gwaith gorau.

Sut i wneud cais

Dogfennau y bydd angen i chi eu lanlwytho

  • yr hyn y byddwch yn ei gynnig i'r rôl mewn llai na 1500 o eiriau – defnyddiwch y dull STAR
  • CV diweddar neu ddogfen yn cynnwys eich hanes gwaith (dewisol)

Peidiwch â chynnwys eich enw yn y dogfennau y byddwch yn eu huwchlwytho fel y gallwn eu hadolygu'n ddienw ac yn ddiduedd.

Archwiliwch yr holl swyddi gwag a gwnewch gais ar-lein

Teitl y Swydd Lleoliad Cyflog Dyddiad Cau
Prif Ymgynghorydd Polisi Niwclear a Rheoleiddio Hyblyg £59,547-£65,004 15/06/2025
Cynghorydd Ynni a Datgarboneiddio Arweiniol Hyblyg £45,367-£50,877 15/06/2025
Cynghorydd Arweiniol Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol x 2 Hyblyg £45,367-£50,877 15/06/2025
Cynghorydd Isadeiledd Strategol a Pholisi Codi Tâl Hyblyg £45,367-£50,877 15/06/2025
Cynghorydd Rhaglen Seilwaith Arweiniol Hyblyg £45,367-£50,877 15/06/2025
Cynghorydd Trawsnewid y Gwasanaeth Cynllunio Hyblyg £45,367-£50,877 15/06/2025
Cynghorydd Incwm Rheoleiddiol Hyblyg £41,132-£44,988 15/06/2025
Uwch-gynghorydd Cydsyniad Seilwaith Hyblyg £41,132-£44,988 15/06/2025
Uwch-gynghorydd Cynllunio Hyblyg £41,132-£44,988 15/06/2025
Uwch-gynghorydd Rhywogaethau a Warchodir x 2 Bangor neu Caerdydd £41,132-£44,988 15/06/2025
Swyddog Cynghori Morol Hyblyg £36,246-£39,942 15/06/2025
Arweinydd Tîm Cyngor Cynllunio Datblygu Hyblyg £45,367-£50,877 18/06/2025
Cynghorydd Arweiniol Polisi Ynni a Morol Hyblyg £45,367-£50,877 18/06/2025
Cynghorydd Arweiniol Polisi Bioamrywiaeth Hyblyg £45,367-£50,877 22/06/2025
Swyddog Arbenigol Gosodiadau a Thrwyddedu RSR Hyblyg £45,367-£50,877 22/06/2025
Uwch Ecolegydd Morol Hyblyg £41,132-£44,988 22/06/2025
Uwch-gynghorydd Rheoleiddio Hyblyg £41,132-£44,988 22/06/2025
Uwch Arbenigwr Datgarboneiddio Diwydiannol Hyblyg yng Ngogledd Dwyrain Cymru £52,268-£57,726 22/06/2025
Uwch Arbenigwr Datgarboneiddio Diwydiannol Hyblyg yn Ne Orllewin Cymru £52,268-£57,726 22/06/2025
Uwch-gynghorydd Tirwedd Hyblyg £41,132-£44,988 29/06/2025

 

Eisiau gwneud gwahaniaeth? Dyma eich cyfle.

Byddwch yn rhan o rywbeth mwy. Helpwch i lunio dyfodol Cymru.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru