Pysgod anfrodorol ymledol i gael eu dileu o lyn poblogaidd yn Llanelli

Beth yw’r broblem?

  • Mae rhywogaeth o bysgod ymledol anfrodorol – y Llyfrothen Uwchsafn - wedi'i ganfod ym Mharc Dŵr y Sandy, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, safle llyn ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm
  • Dosberthir y Llyfrothen Uwchsafn fel 'Rhywogaeth Categori 5' sef - Rhywogaethau anfrodorol sydd â'r risg 'uchaf' o dan Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw 1980 (ILFA) ac fe'i hystyrir yn un o'r rhywogaethau pysgod anfrodorol mwyaf niweidiol ‘a allai’ ymledu i Orllewin Ewrop. Am y rheswm hwn, mae wedi'i gwahardd rhag cael ei gwerthu yn y DU.
  • Mae ei bresenoldeb o fewn y llyn nid yn unig yn bygwth y bywyd gwyllt lleol ond pe bai'n ymledu gallai gael effaith ddifrifol ar ein bywyd gwyllt a'n cynefinoedd brodorol yn genedlaethol.
  • Mae hwn yn un o ddim ond 34 o boblogaethau Llyfrothennod Uwchsafn hysbys yn y gwyllt yn y DU.

Beth yw Llyfrothennod Uwchsafn  ac o ble maen nhw’n dod?

Pysgodyn dŵr croyw bach sy'n perthyn i deulu'r cerpynnod (cyprinid) yw Llyfrothennod Uwchsafn. Daethant yn wreiddiol o Asia ac maent wedi lledaenu'n gyflym ledled Dwyrain a Gorllewin Ewrop. Maent yn arian mewn lliw, gydag ochrau porffor graddol. Mae ganddynt ên isaf nodweddiadol ar i fyny, a gall gwrywod aeddfed gael crwmp  amlwg y tu ôl i'w pen. Mae oedolion tua 8 i 10cm o hyd a byddant yn byw am  ryw bedair blynedd.

Pam fod Llyfrothennod Uwchsafn yn broblem?

Os ydyn nhw’n dianc, neu’n cael eu cyflwyno’n fwriadol i’r gwyllt, mae ganddyn nhw’r potensial i niweidio ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd brodorol.

Mae Llyfrothennod Uwchsafn yn ymledol  oherwydd:

  • Maent yn fach iawn ac yn hawdd eu trosglwyddo'n ddamweiniol gyda physgod brodorol.
  • Maent yn atgenhedlu'n gyflym, yn silio hyd at bedair gwaith y flwyddyn
  • Maent yn bwyta wyau a larfa pysgod brodorol
  • Mae'r gwryw yn gwarchod yr wyau rhag ysglyfaethwyr eraill
  • Maent yn cystadlu yn erbyn pysgod brodorol am fwyd a chynefin
  • Maent hefyd yn cario’r risg o glefydau newydd a pharasitiaid sy’n beryglus i’n rhywogaethau brodorol ni
  • Gallant oroesi mewn amodau ocsigen isel, gwael a allai fel arall fod yn anghroesawus i'n pysgod brodorol
  • Mewn niferoedd mawr, gallent hefyd ddod yn bla i bysgotwyr, gan effeithio ar weithgareddau hamdden

Sut maen nhw wedi cyrraedd y llyn a’r nant?

Nid yw'n hysbys ar hyn o bryd sut y daeth Llyfrothennod Uwchsafn i mewn i'r llyn am y tro cyntaf. Fodd bynnag, gellir olrhain y broses o gyflwyno Llyfrothennod Uwchsafn i lynnoedd eraill i symudiadau anghyfreithlon pysgod ac ailstocio.

Beth ydym ni’n ei wneud?

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth Asiantaeth yr Amgylchedd, yn bwriadu dileu poblogaeth y Llyfrothennod Uwchsafn o'r llyn. Ariennir y dilead hwn gan Lywodraeth Cymru a gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Pam ydym ni’n gwneud hyn?

Rhywogaeth o bysgod anfrodorol ymledol iawn yw'r Llyfrothennod Uwchsafn . Mae eu presenoldeb yn fygythiad ‘sylweddol’ i’r ecoleg a’r bywyd gwyllt yn ein hafonydd a’n llynnoedd ledled y wlad.

Asiantaeth yr Amgylchedd fel Asiantau DEFRA yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Pysgodfeydd Eog a Dŵr Croyw 1975 (SAFFA) a Deddf Mewnforio Pysgod Byw 1980 (ILFA) sy'n rheoleiddio symud a chadw pysgod yn y gwyllt.

Ochr yn ochr â'r Asiantaeth, mae'n ofynnol i ni gymryd camau priodol i sicrhau bod rhywogaethau anfrodorol goresgynnol fel Llyfrothennod Uwchsafn yn cael eu trwyddedu, eu cyfyngu, eu rheoli a lle bo'n briodol yn cael eu dileu.

Sut ydym ni’n mynd i ddileu’r Llyfrothennod Uwchsafn o’r llyn a’r nant?

Yn gyntaf, gan y bydd llawer o’r rhywogaethau pysgod iach mwy, megis carpiaid ac ysgreten, yn cael eu tynnu o’r llyn, eu hiechyd yn cael ei wirio, a’u trosglwyddo i bysgodfa Morolwg, pwll sy’n cael ei wella ar hyn o bryd ar gyfer y gymuned bysgota.

Ar ôl hynny, bydd pysgodladdwr sy'n cynnwys Rotenone yn cael ei roi yn y dŵr i ladd y boblogaeth Llyfrothennod Uwchsafn.

Beth yw ‘pysgodladdwr’?

Mae pysgodladdwr yn gemegyn fel plaladdwr neu chwynladdwr sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ladd pysgod.

Beth yw Rotenone?

MSylwedd organig sydd i’w gael yn naturiol yng ngwreiddiau planhigion trofannol yn y teulu ffa (Derris spp a Lonchocarpus spp) yw Rotenone. Fel pysgodladdwr mae Rotenone yn cael ei ddefnyddio naill ai fel powdr o wreiddiau planhigion o'r ddaear neu ei dynnu o'r gwreiddiau a'i greu fel hylif. Yn yr achos hwn byddwn yn defnyddio hylif.

Sut mae’n gweithio?

Pan gaiff ei roi mewn dŵr, caiff ei amsugno trwy dagellau pysgod. Mae Rotenone yn atal proses biocemegol ar y lefel gellog gan ei gwneud hi'n amhosibl i bysgod ddefnyddio'r ocsigen sy'n cael ei amsugno yn y gwaed.

A yw'n ddull trugarog?

Ydy - bydd y dos a ddefnyddir yn sicrhau bod y pysgod yn cael eu dileu’n gyflym heb fawr o straen.

A fydd yn lladd anifeiliaid eraill?

Mae Rotenone yn ddetholus i bysgd, a dyna pam y caiff ei ddefnyddio. Mae mamaliaid ac adar yn gallu gwrthsefyll y cemegyn yn dda iawn ac nid ydynt yn cael eu heffeithio. Ni fydd effaith ar anifeiliaid sy'n ei fwyta naill ai'n uniongyrchol neu drwy fwyta anifeiliaid sydd wedi'u hamlygu oherwydd bod gan bob anifail ensymau naturiol yn y system dreulio sy'n torri Rotenone i lawr.

Mae pryfed, amffibiaid a chramenogion hefyd yn llawer mwy ymwrthol na physgod. Er y byddant yn cael eu heffeithio, bydd y lefelau y byddwn yn eu defnyddio yn lleihau hyn a bydd eu hadferiad yn gyflym.

A oes unrhyw beryglon i iechyd pobl?

Mae astudiaethau helaeth yn nodi nad yw Rotenone yn  peryglu  iechyd pobl naill ai trwy gymeriant uniongyrchol neu anuniongyrchol trwy'r geg, croen neu drwy anadlu.

Fel rhagofal, bydd staff sydd wedi cael llawer o hyfforddiant yn cynnal y gwaith gyda'r holl offer amddiffynnol angenrheidiol ac asesiadau risg.

Beth fydd yn digwydd i’r Rotenone?

Mae Rotenone yn sylwedd organig sydd i’w gael yn naturiol. Mae'n torri i lawr pan fydd yn agored i olau, gwres ac ocsigen. Pan gaiff ei roi mewn dŵr bydd yn dadelfennu i garbon deuocsid a dŵr mewn ychydig wythnosau yn dibynnu ar yr amodau.

Sut fyddwch chi’n gwirio hyn?

Yn ystod ac ar ôl y gwaith byddwn yn cymryd samplau dŵr ac yn monitro’r lefelau Rotenone i sicrhau bod y driniaeth wedi bod yn effeithiol. Bydd pysgod sentinel hefyd yn cael eu defnyddio i wirio bod y driniaeth wedi'i niwtraleiddio a bod y nant yn addas i'w hailstocio.

Byddwn hefyd yn monitro statws y bywyd gwyllt arall yn y llyn, gan gynnwys infertebratau a physgod.

A fydd yn beryglus i'r cyhoedd?

Na, bydd y rotenone a photasiwm permanganad yn cael eu defnyddio mewn dosau eithriadol o isel, nad ydynt yn wenwynig i bobl. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risgiau yn ystod y gwaith byddwn yn cyfyngu mynediad cyhoeddus (gan gynnwys anifeiliaid anwes) i’r llyn a'r nant. Bydd arwyddion clir ar gyfer yr ardal, a bydd swyddogion ar gael i sicrhau ei bod yn cael ei chadw'n glir ac yn ddiogel. Dylai cerddwyr osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr hyd nes y cânt wybod ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Ydyn ni'n gweithio gyda'r perchnogion?

Ydyn – mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i gael gwared ar y Llyfrothen Uwchsafn o'r llyn. Mae CNC yn gweithio’n agos gyda pherchnogion y llynnoedd ac Asiantaethau rheoleiddio eraill gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, i sicrhau eu bod yn cael eu dileu’n llwyddiannus.

Maen nhw wedi bod yno ers amser maith, pam mai dim ond nawr rydych chi'n gwneud rhywbeth?

Mae’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r rhywogaeth ymledol hon mor fawr nes bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i CNC gyda chymorth Asiantaeth yr Amgylchedd i gyflawni rhaglen ddileu 5 mlynedd i gael gwared ar y Llyfrothen Uwchsafn o’r DU. O'r 34 safle hysbys, hyd yma mae'r Asiantaeth wedi dileu 12. Mae CNC wedi ymrwymo i arwain y gwaith dileu yng Nghymru.

Ai ni yw'r unig rai sy'n poeni am y Llyfrothen Uwchsafn?

Na - mae llawer o sefydliadau'r llywodraeth yn bryderus gan gynnwys DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd a CEFAS.

A yw defnyddio pysgodladdwr yn gyfreithlon?

Ydy, ond dim ond os yw wedi'i drwyddedu'n briodol.

Caniateir defnyddio Rotenone fel pysgodladdwr ar hyn o bryd o dan y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Bioladdol (98/8/EC) a'r Rheoliadau Cynhyrchion Bioladdol.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn trwyddedu defnyddio unrhyw gemegau gwenwynig yn yr amgylchedd dyfrol (gan gynnwys rotenone a photasiwm permanganad) o dan Adran 5(2) o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw (1975).

Nid ydych chi wedi gwneud hyn o'r blaen mewn safleoedd eraill, pam ydych chi'n ei wneud yn y llyn hwn nawr?

Ydy, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi defnyddio’r dull hwn o’r blaen i gael gwared ar boblogaethau eraill o bysgod ymledol, gan gynnwys y Llyfrothen Uwchsafn, belica, pencath, swilyn tagell-goch a’r pilcodyn pendew. Mae pob gweithrediad wedi bod yn llwyddiannus, ac mae'r safleoedd bellach wedi'u hadfer i'w cyflwr blaenorol fel pysgodfeydd cynhyrchiol.

Mae CNC a'r Asiantaeth yn trwyddedu ac yn rheoli safleoedd sy'n cynnwys rhywogaethau ILFA anfrodorol fesul safle. Mae lefel y rheolaeth yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys: y rhywogaeth, y math o safle, defnydd y safle, y perygl o ddianc, lefel y bygythiad i'r amgylchedd, y cynefinoedd/rhywogaethau amgylchynol ac ati. Yn seiliedig ar y ffactorau hyn, gall camau rheoli amrywio o sgrinio'r safle yn unig i ddileu pysgod yn gyfan gwbl. Mae cysylltiad cryf rhwng y camau sy’n cael eu cymryd hefyd a'r categori ILFA y mae'r pysgod wedi'u rhestru oddi tano, sy'n dangos eu perygl tebygol i'r amgylchedd.

Yn achos poblogaeth Llyfrothennod Uwchsafn yn y llyn hwn, cânt eu dosbarthu fel rhywogaeth ILFA ‘Categori 5’ (sydd â’r Risg Uchaf). Mae'r bygythiad y maent yn ei achosi i'r amgylchedd o bosibl yn uchel iawn ac felly ymdrinnir â nhw mewn ffordd wahanol i lawer o rywogaethau anfrodorol eraill o gategorïau risg is.

Allwch chi ddim defnyddio dull arall?

Na – Rydym wedi archwilio a phrofi’r holl opsiynau eraill ar gyfer rheoli’r Llyfrothen Uwchsafn gan gynnwys: dim gweithredu, allfeydd sgrinio, tynnu gwialen a lein, tynnu rhwydi / electrobysgota, tynnu wyau gan ddefnyddio matiau silio, rheolaeth fiolegol (cyflwyno rhywogaethau ysglyfaethus eraill), draenio i lawr a chalch. Bydd pob un o’r opsiynau hyn ond yn cyflawni ‘rheolaeth’ o’r boblogaeth ac nid ‘dileu’. O ganlyniad i’r  bygythiad a achosir gan y Llyfrothen Uwchsafn mae’n hanfodol cael eu dileu  100% – defnyddio pysgodladdwr yw’r ‘unig’ opsiwn ymarferol bosibl  i gyflawni hyn yn yr achos hwn.

Pryd y gellid ailstocio pysgod?

Mae'r rotenone yn torri i lawr yn gyflym iawn, ond mae hyn yn amrywio o safle i safle. Mewn gweithrediadau blaenorol mae pysgod wedi cael eu hailstocio a physgotwyr yn ôl ar y lan rhwng dau a thri mis ar ôl cwblhau'r driniaeth.

Pryd ydym ni'n ei wneud?

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros gyfnod o ddyddiau ym mis Ionawr 2023.

Pam ydym ni'n ei wneud yr adeg honno o'r flwyddyn?

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni o fewn yr amserlen uchod am y rhesymau a ganlyn:

  • Er mwyn sicrhau llwyddiant mae'n rhaid defnyddio'r pysgodladdwr yn gynnar yn y gaeaf neu ddechrau'r gwanwyn er mwyn caniatáu twf mwyaf posibl pysgod ifanc y llynedd ond cyn bridio (bydd hyn yn sicrhau bod y pysgod yn agored i'r pysgodladdwr).
  • Bydd yr amseru hwn yn darparu tymereddau dŵr addas i sicrhau y caiff pysgodladdwr ei ddefnyddio'n llwyddiannus a galluogi rheolaeth effeithiol o lefelau dŵr.
  • Er mwyn caniatáu i bysgod gael eu dychwelyd i'r dŵr cyn gynted â phosibl i leihau unrhyw effaith ar y busnes pysgodfa.

Beth arall ydym ni’n ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto?

  • Rheoleiddio pob pysgodyn sy'n cael ei gyflwyno a'i ddileu yn yr amgylchedd dŵr croyw trwy ganiatâd symud pysgod a thrwyddedau ILFA.
  • Addysgu pysgotwyr, clybiau, tirfeddianwyr a pherchnogion ffermydd pysgod am y risgiau a berir gan rywogaethau anfrodorol a phwysigrwydd rheoli eu gweithgareddau yn ofalus.
  • Ei gwneud yn glir bod gan brynwr gyfrifoldeb am unrhyw bysgod.
  • Gweithio gyda CEFAS a'r diwydiant ffermio pysgod i fonitro symudiadau pysgod.

Mae CEFAS yn rheoleiddio symudiad pysgod i ffermydd pysgod ac mae CNC a'r Asiantaeth yn rheoleiddio'r broses o gyflwyno a dileu pysgod yn yr amgylchedd dŵr croyw. Mae cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yn gofyn am drwyddedau pellach o dan ILFA a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (WCA).

Er bod CEFAS, CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymryd pob cam i sicrhau bod stocio’n cael ei wneud yn unol â’n canllawiau llym, rhaid i bob cyflenwr a phrynwr pysgod fod yn ymwybodol bod risgiau yn gysylltiedig â stocio pysgod, gan gynnwys y risg o glefydau, parasitiaid a chyflwyno rhywogaethau anfrodorol yn ddamweiniol. Mae’n gyfrifoldeb ac er budd gorau unrhyw gyflenwr neu brynwr pysgod i leihau'r risgiau hynny. Os na fydd cyflenwyr a phrynwyr yn lleihau risgiau, gallai eu fferm neu bysgodfa gyfan fod yn y fantol. Rydym yn trafod y materion hyn gyda phobl sydd eisiau stocio pysgod i'w dyfroedd ac wedi darparu taflenni i gwsmeriaid gyda'r wybodaeth hon.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda CEFAS i fonitro mewnforio pysgod byw o Ewrop i leihau'r risg y bydd rhywogaethau ILFA newydd yn cyrraedd y DU.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru