Rhyfeddod gwlyptiroedd: Natur yn helpu i leihau llygredd
Dŵr – dyma un o’n hanghenion mwyaf sylfaenol, sy’n hanfodol i oroesiad pob creadur byw.
Ond yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac o dan ofynion y gymdeithas fodern, mae'r pwysau ar ein hadnodd mwyaf gwerthfawr yn dod yn fwyfwy amlwg.
Wrth i lefelau llygredd diwydiannol ostwng, mae ansawdd dŵr yn ein hafonydd wedi gwella. Ond dim ond 40% sy'n cyrraedd statws ansawdd da neu ragorol.
Ni fu erioed gefnogaeth mor gryf i’n hafonydd, a ledled Cymru mae busnesau, diwydiannau a chymunedau i gyd yn cyd-dynnu i chwilio am atebion i leihau ffynonellau llygredd ymhellach.
Ac er y bydd buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith a thechnoleg yn sicr yn sbardun pwysig ar gyfer newid, mae busnesau hefyd yn edrych ar atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i gyflawni'r dyfroedd glân yr ydym eu heisiau.
Gwlyptiroedd – mwy na dim ond rhywbeth hardd
Mae gwlyptiroedd i gael gwared ar lygredd, yn enwedig maetholion, o ddŵr gwastraff wedi’u treialu mor bell yn ôl â’r 1950au. Mae tystiolaeth yn dangos y gallant fod yn effeithiol wrth leihau lefelau ffosfforws, nitradau ac amonia – y gall pob un ohonynt niweidio iechyd afon.
Gan gynnig dewis amgen mwy cynaliadwy i seilwaith traddodiadol, mae cwmnïau dŵr a diwydiannau eraill bellach eisiau treialu gwlyptiroedd fel rhan o’u systemau trin.
Rydym yn cyfeirio at yr ecosystemau peirianyddol hyn fel ‘gwlyptiroedd adeiledig.’ Mae systemau planhigion, microbau a swbstrad y gwlyptir yn trin dŵr gwastraff yn naturiol, gan gael gwared ar lygryddion a chaniatáu i ddŵr glanach gael ei ddychwelyd i afon, nant neu aber.
Gall gwlyptir adeiledig sy'n darparu triniaeth dŵr gwastraff hefyd ddarparu buddion eraill i'r amgylchedd a'n cymunedau.
Gallant greu cynefin y mae mawr ei angen ar gyfer bioamrywiaeth, gweithredu fel sinc carbon a rheoli llif y dŵr wyneb.
Gellir adeiladu gwlyptiroedd adeiledig ar gyfer bioamrywiaeth, rheoli llif neu driniaeth. Yn ogystal â'r pwrpas y'u cynlluniwyd ar ei gyfer, byddant yn cynnig y buddion eraill os cânt eu llunio'n gywir.
Yn dibynnu ar eu lleoliad a'u pwrpas, gallant hefyd ddarparu mannau tawel a heddychlon i bobl ddod yn agos at natur.
Yr ateb cywir, yn y lle cywir
Wrth symud ymlaen, bydd defnyddio help natur i ddelio â llygredd yn newid pwysig wrth ddelio â’r broblem, ond nid yn ateb perffaith.
Ategwyd hyn gan y Prif Weinidog yn yr Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd gyntaf a gynhaliwyd y llynedd, a ddaeth ag arweinwyr o bob sector ynghyd i addo gweithredu i leihau llygredd afonydd.
Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, rydym ar hyn o bryd yn ystyried pa ganiatâd a rheolaethau y bydd angen eu rhoi ar waith i warchod yr amgylchedd, wrth i fwy o fusnesau a diwydiannau chwilio am atebion cynaliadwy i drin dŵr gwastraff.
Rydym yn ystyried sut i reoleiddio systemau o'r fath i sicrhau eu bod yn gweithredu'n effeithiol i drin dŵr gwastraff a chyflawni buddion amgylcheddol clir heb unrhyw lefel uwch o risg na dulliau trin traddodiadol.
Wrth gwrs, ni fydd pob lleoliad ac elifiant yn addas ar gyfer gwlyptir adeiledig. Mae angen ystyried y math o lygrydd a'r holl opsiynau trin sydd ar gael, cyn dod i'r casgliad bod gwlyptir adeiledig i'w drin yn ateb dichonadwy. Bydd angen iddo ddarparu'r lefelau cywir o reolaethau amgylcheddol a chael unrhyw ganiatâd sydd ei angen i atal niwed i'r amgylchedd neu iechyd dynol.
Bydd angen sicrwydd bod gwlyptiroedd adeiledig yn cael eu cynnal a’u rheoli’n effeithiol gan y rhai sy’n gyfrifol, i sicrhau nad ydynt yn lleddfu un broblem, dim ond i achosi problem arall.
Mae arbenigwyr y diwydiant yn paratoi i ailgynnull ar gyfer ail Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd, lle bydd cynnydd yn erbyn camau gweithredu yn cael ei fapio ac arfer gorau’n cael ei rannu. Bydd atebion sy’n seiliedig ar natur yn dod i’r amlwg unwaith eto wrth i arweinwyr ddod ynghyd i weithio tuag at uchelgais a rennir i adfer ein hafonydd ar gyfer bywyd gwyllt, ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae CNC yn mynd i’r afael â llygredd afonydd drwy Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.