Gorau chwarae, cyd chwarae ym Mryniau Clwyd

Ers dros 20 mlynedd, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm Tirwedd Genedlaethol Cyngor Sir Ddinbych.

Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i reoli rhai o'r safleoedd pwysicaf ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r bartneriaeth yn cynnig dull cydgysylltiedig o reoli tirddaliadau cyfagos, yn enwedig lle mae ein ffiniau'n cwrdd. Mae hyn yn helpu i sicrhau dull cyson tuag at fynediad cyhoeddus, cadwraeth, treftadaeth a rheoli ymwelwyr ar draws y dirwedd.

Mae'r cytundeb yn cwmpasu ein safleoedd Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yng Nghoed Moel Famau, Coed Llangwyfan a Choed Nercwys ym Mryniau Clwyd, yn ogystal â Choed Pen y Pigyn ger Corwen. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud y gorau o'n hadnoddau, gwybodaeth a'n harbenigedd ar y cyd er budd pobl a natur.

Cyflenwi ar gyfer natur

Un o gryfderau allweddol y bartneriaeth yw'r gwaith a wnawn i ddiogelu a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Gyda'n gilydd, rydym yn cyflenwi prosiectau adfer a gwella sy'n cefnogi rhywogaethau â blaenoriaeth gan gynnwys y Grugiar Ddu, y Fadfall Ddŵr Gribog a’r Troellwr Mawr. Mae'r Tîm Tirwedd Genedlaethol hefyd yn cydlynu ystod o raglenni monitro blynyddol ar draws ein safleoedd partneriaeth, gan ein helpu i ddeall yn well sut mae'r rhywogaethau hyn yn llwyddo a lle mae angen cymryd camau.

Rydym yn gweithio'n agos gyda phorwyr lleol i reoli cytundebau pori sy'n helpu i gynnal cynefinoedd iach. Mae hyn yn cynnwys gwartheg yn pori yng Nghoed Moel Famau a defaid yn pori yng Nghoed Nercwys.

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn ganolog i’r gwaith hwn. O atgyweirio waliau cerrig sych a chynnal llwybrau i fynd i'r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a chael gwared ar gonwydd hunan-had, mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cefnogi rhaglen Coedwigwyr Ifanc y Tîm Tirwedd Genedlaethol, gan helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a fydd yn gwarchod cefn gwlad.

Cefnogi ymwelwyr, cymunedau a thirweddau

Mae'r bartneriaeth yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i fwynhau'r lleoedd arbennig hyn yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Gyda'n gilydd, rydym yn cyflwyno ymgyrchoedd ymgysylltu ag ymwelwyr a diogelwch, gan ganolbwyntio ar gadw cŵn yn gyfrifol ac ymddygiad cadarnhaol yng nghefn gwlad. Mae Coedwigwyr Tirwedd Genedlaethol yn cynnig presenoldeb gwerthfawr ar benwythnosau ar draws safleoedd partneriaid, gan ymgysylltu ag ymwelwyr, ymateb i faterion a helpu i nodi anghenion cynnal a chadw cyn iddynt ddod yn broblemau mwy.

Mae'r Coedwigwyr hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar lawr gwlad, gan helpu i roi gwybod am ddigwyddiadau, cefnogi ymatebion gweithredol a rheoli pwysau hamdden ar draws y dirwedd. Maent yn gweithio ochr yn ochr â ni i gefnogi trefnwyr digwyddiadau cerdded a rhedeg sy'n croesi tir a reolir gan y ddau sefydliad.

Mae ein Tîm Rheoli Tir Gogledd Ddwyrain yn cyfrannu cyllid tuag at ddwy swydd Tîm Tirwedd Genedlaethol sy'n helpu i gyflenwi'r gwaith hwn, tra bod cerbyd partneriaeth pwrpasol yn tynnu sylw at y berthynas waith gref rhwng ein timau.

Drwy gyfuno ein hymdrechion, rydym yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt, gwella profiadau i ymwelwyr a sicrhau bod y tirweddau arbennig hyn yn parhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru