Wythnos Natur Cymru – cefnogi afonydd iach

Mae afonydd iach yn ecosystemau pwysig. Maen nhw’n darparu dŵr croyw a chynefin i gyfoeth o rywogaethau o blanhigion a bywyd gwyllt.

Y rhain yw rhydwelïau tirwedd Cymru – sy’n llifo trwy ein cymunedau, yn llunio ein cefn gwlad ac yn cynnal bywyd.

Yn anffodus, rydyn ni'n gwybod nad yw llawer o'n hafonydd yn y cyflwr yr hoffem ei weld.

Yn ogystal â wynebu heriau llygredd a newid hinsawdd, nid yw afonydd wedi cael y lle sydd ei angen arnynt i ffynnu. Drwy garthu a sythu ein hafonydd yn ogystal â'u gorfodi i lifio drwy bibellau tanddaearol rydym wedi cyfyngu ar allu ein hafonydd i weithredu'n naturiol. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt a'n cymunedau.

Hafan i fywyd gwyllt

Mae afonydd iach yn byrlymu â bywyd. O las y dorlan a dyfrgwn i'r eogiaid sy'n teithio’n ddiflino i fyny'r afon, mae ein dyfrffyrdd yn cynnal bioamrywiaeth anhygoel.

Mae afonydd Cymru yn cynnal rhai o'r rhywogaethau mwyaf prin a dan fygythiad, gan gynnwys misglod perlog dŵr croyw a'r cimwch afon crafanc wen.

misglod perlog dŵr croyw

Manteision y tu hwnt i fywyd gwyllt

Nid yn unig y mae afonydd yn bwysig i natur – maent yn bwysig iawn i bobl hefyd. Siffrwd dŵr yn llifo, cysgod oer coed glan yr afon – profwyd bod y profiadau hyn yn fanteisiol i'n lles meddyliol. Mae llawer ohonom yn dod o hyd i heddwch wrth gerdded ar hyd glannau afonydd neu'n eistedd wrth ymyl dŵr sy'n llifo.

Mae afonydd iach hefyd yn rhoi hwb i'n heconomïau lleol trwy dwristiaeth a chyfleoedd hamdden. Mae Cymru yn denu pysgotwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt.

Sut rydym yn helpu i adfer ein hafonydd

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru raglen adfer afonydd uchelgeisiol, sy'n mynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy’n wynebu cynefinoedd afonydd iach. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dileu strwythurau artiffisial, fel coredau, sy’n rhwystro pysgod mudol
  • Ailgyflwyno dolenni i afonydd sydd wedi'u sythu, a elwir hefyd yn 'ailystumio' afon
  • Lleihau erydiad glannau a siltio
  • Cael gwared ar rywogaethau goresgynnol fel y Jac y neidiwr, sy'n mygu rhywogaethau brodorol.

Mae'r rhaglen hon yn ategu ein prosiectau mawr blaenllaw, fel Pedair Afon LIFE, afon LIFE Dyfrdwy, ac Adfer Dalgylch Uchaf Afon Gwy.

Afon Adfer Nant Dowlais

Sut gall tirfeddianwyr helpu

Gall newidiadau bychain, fel plannu coed newydd ar hyd coridorau afonydd, a gosod deunyddiau pren mewn afonydd a nentydd wneud gwahaniaeth mawr i iechyd ecosystemau bregus.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o animeiddiadau sy'n esbonio sut y gall tirfeddianwyr wneud eu rhan i gadw afonydd a nentydd yn iach ac yn llifo.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Cyfrifoldeb a rennir

Nid oes ateb cyflym ar gyfer gwella ein hafonydd. Mae'r atebion i'r problemau'n gymhleth a bydd arnynt angen buddsoddiad a newid ymddygiadol a diwylliannol trawsnewidiol ar draws pob rhan o gymdeithas.

Ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud ein rhan i ddiogelu iechyd hirdymor ein hafonydd. O wneuthurwyr penderfyniadau, swyddogion gweithredol cwmnïau hyd at berchnogion tir unigol ac aelodau'r gymuned.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n croesi pont neu’n cerdded ar hyd glan afon, arhoswch am eiliad. Mae'r dŵr sy’n llifo oddi tanoch yn cysylltu cymunedau, yn meithrin natur ac yn haeddu cael ei warchod gennym. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod ein hafonydd yn parhau i fod yn drysorau naturiol mwyaf Cymru am genedlaethau i ddod.

Gwaith adfer afonydd ar waith

Darllenwch fwy am rai o'n prosiectau ar waith: