Pam mae angen i ni adolygu ein taliadau rheoleiddio
Ym mis Hydref eleni, fe lansiwyd ymgynghoriad 12 wythnos ar ein cynlluniau i ddiweddaru'r taliadau am rai o'n trwyddedau.
Byddai'r cynigion a osodwyd yn golygu bod y talwr yn talu am y gwasanaethau rheoleiddio llawn y maent yn eu defnyddio yn hytrach na dibynnu ar bwrs y wlad - model mwy cynaliadwy yn ariannol a fydd yn arwain at welliannau amgylcheddol hirdymor.
Gyda'r ymgynghoriad i fod i gau ar 7 Ionawr 2023, mae ein Harweinydd Tîm Rheoleiddio'r Dyfodol, Martyn Evans yn esbonio pam ein bod ni'n cymryd y camau hyn nawr, yr hyn y mae'n ei olygu (a ddim yn ei olygu) i fusnesau yng Nghymru a sut y gallwch chi rannu eich barn i'n helpu i lunio'r cynigion.
Rydym i gyd eisiau i’n hamgylchedd gael ei reoli a’i gynnal yn dda er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni gymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol, ac i leihau colli bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a chynefinoedd.
Mae rheoleiddio yn rhan allweddol o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i gyflawni'r uchelgais hon yng Nghymru. Mae ein dull rheoleiddio yno i ddarparu safon ofynnol fel sylfaen i atal niwed amgylcheddol.
Mae hyn yn cynnwys asesu a rhoi trwyddedau ag amodau i warchod yr amgylchedd, a gweithio gyda phobl a busnesau ledled Cymru i fonitro sut mae safonau deddfwriaethol yn cael eu bodloni a sut y cydymffurfir â nhw.
Ond os ydym am ddarparu’r amgylchedd yr ydym am ei weld, ac os yw CNC am gefnogi amgylchedd o ansawdd uchel, mae angen i ni sicrhau bod ein taliadau rheoleiddio wedi’u cysylltu’n agosach â chost wirioneddol cyflawni’r gweithgareddau hyn. Wedi’r cyfan, dim ond i ryw raddau y gall ein cyllid gan y llywodraeth sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.
Ble rydyn ni nawr
Mae’r ffioedd a’r taliadau yr ydym yn eu codi ar hyn o bryd i dalu costau rheoleiddio yn cwmpasu 16% o’n cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Er nad yw’n taliadau rheoleiddio wedi newid yn sylfaenol ers sefydlu CNC yn 2013, mae ein rolau a’n cyfrifoldebau wedi cynyddu’n sylweddol, mae ein hystod o ddyletswyddau deddfwriaethol wedi newid, ac mae ein blaenoriaethau a’r ffordd yr ydym yn rheoleiddio hefyd wedi newid.
Yn syml iawn, nid yw ein taliadau a’n ffioedd wedi cyd-fynd â’r newidiadau hyn, sy’n golygu nad ydynt bellach yn adlewyrchu faint o waith sydd angen i ni ei wneud i asesu a phenderfynu ar gais.
Mae hyn yn golygu ein bod yn tan-adfer yn sylweddol ar draws y rhan fwyaf o'n cynlluniau codi tâl. Mae hyn wedi arwain at ddibyniaeth ar gyllid y llywodraeth – neu Gymorth Grant – i lenwi’r bwlch. Mae tynnu’r arian hwn oddi wrth rannau eraill o’n gwaith yn golygu na allwn gynnig rhai o’r gwasanaethau yr hoffem eu cynnig. Mae hefyd yn effeithio’n negyddol ar ein gallu i ymgymryd â gweithgareddau cydymffurfio.
Yr adolygiad
I ni, mae’n bwysig iawn nad yw pwrs y wlad yn cael ei ddefnyddio i dalu am unrhyw ddiffyg yn yr incwm rheoleiddiol hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i CNC, o dan ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ adennill costau gwasanaethau rheoleiddio yn llawn, yn hytrach na thrwy ddibyniaeth ar y trethdalwr.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi datblygu rhaglen i adolygu ein taliadau yn strategol, sydd wedi rhoi mewnwelediad gwirioneddol i ni faint mae’n ei gostio i gyflawni rheoleiddio effeithiol ac effeithlon. Dyma’r archwiliad dwfn go iawn cyntaf i ni ei wneud yn y maes hwn ers sefydlu CNC bron i ddeng mlynedd yn ôl.
Rydym wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth o dimau i ddeall yr holl gamau gweithredu gwahanol sy'n gysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau newydd neu ddiwygiedig, wedi edrych ar ddata a gofnodwyd o ran amser ac wedi mapio’r holl bethau a ddysgwyd fel y gallwn gael darlun clir o'r hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, a beth mae'n ei gostio mewn gwirionedd. Rydym hefyd wedi dysgu o adolygiadau tebyg o daliadau a gynhaliwyd eisoes yn Lloegr a’r Alban.
Rydym hefyd wedi defnyddio’r rhaglen hon i edrych ar welliannau ac effeithlonrwydd yn ein gwasanaeth. Mae mwy o waith i’w wneud ar hyn, ond rydym wedi ymrwymo i wella prosesau a gwasanaethau yn y dyfodol.
Yn sail i'r holl waith hwn mae'r uchelgais i sicrhau bod y sawl sy'n talu'r tâl yn talu'n llawn am y gwasanaethau y mae'n eu defnyddio. Bydd hyn yn ein galluogi i wella ein ffocws cwsmeriaid, i gryfhau ein gwaith cydymffurfio, ac i wneud yn siŵr bod gennym ddull mwy cynaliadwy o ariannu ein gwasanaeth trwyddedu yn y tymor canolig.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Rhennir ein hymgynghoriad yn ddwy ran.
Mae'r cyntaf yn edrych ar wneud newidiadau i nifer o gynlluniau codi tâl sy'n gysylltiedig â cheisiadau am drwyddedau newydd a diwygiedig ar draws chwe chyfundrefn: Rheoleiddio diwydiant, gwastraff ar y safle, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a chydymffurfiaeth cronfeydd dŵr a thrwyddedu rhywogaethau.
Mae’r ail ran yn edrych ar ein ffioedd cynhaliaeth blynyddol hefyd, sy'n cwmpasu’r ffioedd ar gyfer monitro cydymffurfiaeth yn bennaf, er mwyn sicrhau bod pwysau chwyddiant yn y dyfodol yn cael ei reoli'n effeithiol.
Ceisiadau
Bydd rhai taliadau a gynigiwn yn rhan gyntaf ein hymgynghoriad yn newydd, bydd rhai yn gostwng, a bydd eraill yn gweld cynnydd – rhai sylweddol. Bydd y codiadau hyn yn berthnasol yn bennaf i geisiadau untro am drwyddedau newydd – neu ar gyfer deiliaid trwydded presennol sy’n bwriadu trosglwyddo, amrywio neu ildio eu trwydded.
Mae'r diwydiant dŵr yn debygol o weld cynnydd, yn bennaf oherwydd na welwyd cynnydd mewn taliadau am ansawdd dŵr ac adnoddau am yr 20 mlynedd diwethaf i raddau, a'r ffaith nad yw'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu wedi'i chymhwyso. Bydd effeithiau hefyd ar ymgeiswyr am drwyddedau rhywogaeth gan na chodwyd tâl am yr ardal hon yn flaenorol.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r diwydiant wrth i ni ddatblygu ein cynigion i sicrhau eu bod yn gallu cynllunio’n effeithiol ac ymateb i’r ymgynghoriad yn ôl yr angen.
Effeithiau ar ffermwyr
Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n eang â’r undebau amaethyddol drwy gydol y broses hon gan ein bod yn arbennig o ymwybodol o’r effaith ariannol ar y sector hwn o’i ystyried yn erbyn cefndir o bwysau ariannol ehangach.
Bûm draw yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd yn siarad â ffermwyr a’r undebau am ein cynigion. Rwy’n gwybod fod llawer yn pryderu am y taliadau arfaethedig sy’n debygol o effeithio ar ffermwyr – yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n magu moch a dofednod yn ddwys; trwyddedau ar gyfer gwaredu dip defaid gwastraff i'r tir; tynnu dŵr a chroniadau dŵr a ffioedd cydymffurfio â diogelwch cronfeydd dŵr. Rwyf hefyd yn ymwybodol y gallai rhai gael eu heffeithio gan y taliadau arfaethedig newydd ar gyfer ceisiadau am weithgareddau a allai niweidio cynefinoedd rhywogaethau a warchodir, neu am aflonyddu, trapio neu drin rhywogaethau a warchodir.
Un o’r prif bwyntiau a bwysleisiais yw bod y rhan fwyaf o’n newidiadau arfaethedig yn berthnasol i ffioedd ceisiadau untro. Mae hyn yn golygu, y tu hwnt i’r cynnydd arfaethedig i daliadau cynhaliaeth blynyddol, na fyddai’r newidiadau arfaethedig i ffioedd ymgeisio yn effeithio ar drwyddedau presennol sydd gan ffermwyr a thirfeddianwyr, oni bai eu bod yn bwriadu amrywio trwydded, ildio hawlen neu’n bwriadu ehangu neu arallgyfeirio eu busnes y byddai angen hawlen newydd ar ei gyfer.
Un o'r meysydd a fydd yn gweld y cynnydd mwyaf yw'r drwydded ar gyfer rhoi dip defaid gwastraff ar dir. Fodd bynnag, mae’r cynigion yn berthnasol i is-set fach o ffermydd, gan fod CNC yn rhoi 40 trwydded y flwyddyn ar gyfartaledd yn y maes hwn. Felly, er ein bod yn deall yn iawn yr effeithiau y bydd y cynnydd yn ei gael ar y rhai sy'n dymuno gwneud trwyddedau newydd neu ddiwygio eu hawlenni, dim ond nifer fach o ffermwyr y bydd hyn yn effeithio arnynt. Yn wir, mae ein gwaith yn dangos na ragwelir y bydd yr un cynllun codi tâl arfaethedig yn effeithio ar fwy nag un y cant o ffermydd Cymru.
Ac, wrth gwrs, mae yna ffyrdd eraill o waredu dip defaid gwastraff i'r tir, megis dod â chontractwr i mewn i'w gludo ymaith a delio ag ef yn briodol. Mae canllawiau pellach ar gael i ffermwyr ar ein gwefan.
Gyda'r ffenestr ymgynghori yn parhau ar agor rydym yn dal i fod eisiau clywed eich barn a'ch dadansoddiad fel y gallwn ddeall effeithiau a manteision y cynigion. Os oes effeithiau sylweddol, hoffem glywed gennych chi am unrhyw fecanweithiau rydych chi'n meddwl y gellid eu defnyddio i liniaru'r effeithiau hyn neu unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar sut y gallwn wella'r cynigion hyn.
Ni allaf bwysleisio cymaint rydym yn gwerthfawrogi eich ymgysylltiad – a pha mor werthfawrogol ydym o’r sector amaethyddol, a nifer o sefydliadau eraill – sydd wedi cefnogi ein hadolygiad codi tâl hyd yma.
Argyfwng costau byw
Rydym yn gwybod bod y cynigion hyn yn cyrraedd ar adeg anodd iawn. Rydym i gyd yn teimlo effeithiau codiadau mewn prisiau ynni, pwysau chwyddiant a chostau cynyddol dilynol bywyd bob dydd, felly rydym yn llwyr ddeall yr effaith ariannol y gallai ein cynigion ei chael ar bobl a busnesau ledled Cymru. Ond rydym ninnau hefyd yn teimlo’r pwysau hynny fel sefydliad, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y gwasanaethau rheoleiddio y maent (yn gwbl briodol) yn eu disgwyl gennym.
Mae yna hefyd lawer o feysydd lle rydym yn cynnig gostyngiadau yn ein ffioedd a’n taliadau. Er enghraifft, mae gostyngiadau ar gyfer rhai taliadau gwastraff ar y safle a gosodiadau mwy cymhleth. Rydym hefyd wedi cymryd agwedd rhagofalus tuag at gyflwyno taliadau trwyddedau rhywogaethau i wneud yn siŵr nad yw taliadau’n wrthgynhyrchiol ar gyfer natur neu rywogaethau a warchodir. Felly, rydym wedi amlinellu hepgoriadau ar gyfer ceisiadau y codir tâl amdanynt fel arall.
Yn tanlinellu hyn oll mae'r angen i adennill holl gostau ein rheoleiddio fel y gallwn ail-fuddsoddi adnoddau mewn mwy o weithgaredd cydymffurfio ac wrth atal llygredd rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rydym hefyd am wneud ein prosesau’n symlach i ymgeiswyr, i gyflwyno cynllun codi tâl sy’n addas ar gyfer rheoleiddiwr modern, i sicrhau bod ein hymagwedd yn adlewyrchu ymrwymiad busnesau yng Nghymru i gydymffurfio, ac yn cefnogi pobl, economi ac amgylchedd Cymru.
Yn y pen draw, ein huchelgais yw creu system daliadau decach a mwy tryloyw a fydd yn arwain at ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a gwella'n hamgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.
Rhannwch eich barn erbyn 7 Ionawr 2023
Ar ran CNC, hoffwn ddiolch i’r rhai sydd eisoes wedi rhannu eu barn ar ein cynigion hyd yma.
Bydd yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig ar gyfer ceisiadau am daliadau trwydded newydd ac adolygiad blynyddol o falansau taliadau cynhaliaeth yn rhedeg tan 7 Ionawr 2023 ac rydym yn annog pawb i rannu eu barn cyn hynny.