Diwrnod Gylfinir y Byd 2023: Brwydro i achub y gylfinir fel rhywogaeth fagu yng Nghymru
Ar 21 Ebrill bydd y sylw unwaith eto ar y gylfinir wrth i ni ddod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth o dynged poblogaeth fagu’r gylfinir ac annog gweithgareddau sy’n eu diogelu a’u helpu i ffynnu.
Mae’r gylfinir yn un o’n hadar anwylaf ond mwyaf agored i fygythiad yng Nghymru. Roedd eu galwadau nodedig unwaith yn thema gyffredin ar hyd ein harfordiroedd ac ar draws ein tirweddau amaethyddol, yn yr iseldiroedd a’r ucheldiroedd.
Mae’r gylfinir yn rhan annatod o’n hetifeddiaeth – rhywogaeth eiconig y cyfeirir ati’n aml drwy hanes, diwinyddiaeth, llenyddiaeth, celfyddydau Cymru a threftadaeth lythrennol arall. Mae llawer wrth eu bodd â galwad atgofus y gylfinir ac yn cyfeirio ato fel 'cyhoeddwr y gwanwyn'. I lawer o drigolion ein cymunedau gwledig, mae cân swynol y gylfinir yn dynodi anialwch, dirgelwch ac yn awr, yn anffodus, oherwydd ei absenoldeb – trasiedi.
Fodd bynnag, mae sŵn gylfinirod sy’n magu yn ystod y gwanwyn a dechrau'r haf yn beryglus o agos at ddiflannu. Mae’r hyn yr oeddem yn ei gymryd yn ganiataol ar un adeg wedi diflannu'n gyflym gyda dirywiad o fwy na 60% yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru i atal y dirywiad trist hwn a helpu i achub y gylfinir fel rhywogaeth fagu yng Nghymru. Mae sefydliadau ledled y wlad wedi dod at ei gilydd i ffurfio amddiffyniad cryfach i amddiffyn a helpu i droi'r llanw ar fodolaeth simsan yr aderyn eiconig hwn.
Sut cyrhaeddodd y gylfinir y pwynt hwn?
Mae newidiadau eang i’n cefn gwlad wedi gweld niferoedd y gylfinir yn gostwng yn aruthrol dros y 40 mlynedd diwethaf.
Mae’r gylfinir yn defnyddio ardaloedd cymharol fawr o fewn tirweddau’r ucheldir a’r iseldir i fridio a bwydo yn ystod y gwanwyn a’r haf. Mae newidiadau i arferion ffermio modern, gan arwain at ddyddiadau torri cynharach ar gyfer gwair a silwair, yn golygu bod gan y gylfinir lai o amser i ganiatáu i gywion fagu plu. Mae cyfraddau uchel o ysglyfaethu wyau a chywion hefyd yn lleihau llwyddiant magu ac yn arwain at ostyngiad yn y boblogaeth.
Mae astudiaethau yn y DU wedi dangos bod cynhyrchiant isel cywion y gylfinir yn arwain at ddirywiad yn nifer y gylfinirod sy’n magu ledled Cymru.
Yng Nghymru, mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yn amcangyfrif bod y boblogaeth yn gostwng ar gyfradd o 6% y flwyddyn, gyda llawer o safleoedd paru bellach yn dawel a phoblogaethau bellach ar fin diflannu'n lleol.
Mae Cymru a gweddill y DU hefyd yn cefnogi tua 120,000 o ylfinirod sy’n gaeafu, ac mae eu niferoedd wedi gostwng dros y 25 mlynedd diwethaf.
O ganlyniad i leihad yn y boblogaeth ledled Ewrop, rhestrir y gylfinir fel un sy’n agored i ddifodiant yn Ewrop ac fe’i hystyrir dan beth bygythiad yn fyd-eang.
Beth ydyn ni'n ei wneud i helpu'r gylfinir?
Mae cadwraeth effeithiol yn dibynnu ar dystiolaeth dda i lywio penderfyniadau ar bob cam o adferiad rhywogaethau, o nodi rhesymau dros ddirywiad a dyfeisio a defnyddio atebion, i asesu effeithiolrwydd ymateb y boblogaeth.
Mae blaenoriaethu'n hanfodol, fel bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu targedu ac yn cael yr effaith fwyaf ar gadwraeth. Ar y sail hon, rydym wedi mabwysiadu dull wedi'i dargedu, gan weithio mewn Ardaloedd Gylfinir Pwysig a enwebwyd, gan hefyd edrych am gyfleoedd i gysylltu’r ardaloedd hyn â chynefinoedd arferion rheoli tir cyfeillgar i'r gylfinir.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner yn y grŵp partneriaeth Gylfinir Cymru i godi ymwybyddiaeth o dynged gylfinirod sy’n magu drwy helpu i reoli safleoedd magu ffafriol ledled Cymru. Mae Gylfinir Cymru yn weithgor ar y cyd rhwng sefydliadau sy’n cynrychioli sectorau’r llywodraeth, cadwraeth, ffermio a rheoli helwriaeth. Ei nod yw atal ac, os yn bosibl, gwrthdroi'r dirywiad hwn trwy roi cynllun gweithredu deng mlynedd ar waith.
Nod y cynllun, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2021, yw nodi Ardaloedd Gylfinir Pwysig lle mae'r gylfinir yn goroesi, a chyflwyno mesurau cadwraeth wedi'u targedu, megis arferion rheoli glaswelltir yn ystod y tymor paru. Mae hefyd yn cynnig pecyn cymorth i alluogi pob ffermwr a rheolwr tir i greu’r math o dirweddau y gall y gylfinir ffynnu ynddynt – gyda’r pecyn hwn ar gael ar hyn o bryd ac i’w defnyddio gan y rheini o fewn Ardaloedd Gylfinir Pwysig a nodwyd yn unig.
Canolbwyntio ar ein gwaith yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn's, Whixall a Bettisfield
Mae gwaith rheoli cynefinoedd yn mynd rhagddo yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Mawnogydd Fenn's, Whixall a Bettisfield i ganiatáu ail-wlychu'r gors fawn iseldir hon.
Mae'r safle, sy'n Ardal Gylfinir Bwysig, yn pontio ffin ein gwlad â Lloegr ac wedi gweld gwaith rheoli yn cynnwys technegau torri gwair addas ar gyfer gylfinirod sy’n magu i greu strwythur llystyfiant amrywiol o ran uchder a chyfansoddiad. Rydym hefyd wedi bod yn gosod ffensys trydan dros dro o amgylch nythod i amddiffyn yr wyau rhag ysglyfaethwyr o’r ddaear.
Ymhellach, er mwyn deall symudiadau’r gylfinirod sy’n magu, rydym wedi cefnogi prosiect tracio GPS, gyda dau wedi’u cysylltu a’u tracio yn 2022 a dau aderyn arall i’w tagio eleni. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth hanfodol am ddefnydd cynefin y gylfinir ac ymddygiad adar ar y GNG a fydd hefyd yn cynorthwyo ein gwaith mewn safleoedd eraill ledled Cymru.
Sut allwch chi helpu?
Mae Gylfinir Cymru bellach yn amcangyfrif bod y niferoedd mor isel yng Nghymru – efallai llai na 400 o barau sy’n magu – fel bod dirfawr angen cael gwybod am leoliad pob pâr sy’n magu ar draws y wlad.
Mae’r grŵp yn galw ar y cyhoedd, ffermwyr, tirfeddianwyr a selogion byd natur i drosglwyddo’ch cofnodion eleni. Bydd hyn wedyn yn caniatáu inni weithio gyda phartneriaid o fewn yr Ardaloedd Gylfinir Pwysig a sefydliadau eraill i roi adnoddau yn eu lle i helpu’r gylfinir yn y lleoliadau y gwyddys eu bod yn bridio.
Anfonwch gofnodion o unrhyw ylfinirod sy’n magu at Bethan.Beech@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu gallwch hefyd gofnodi unrhyw rai rydych chi'n eu gweld ar wefan Cofnod.
Pam mae Diwrnod y Gylfinir yn cael ei gynnal ar 21 Ebrill?
Dyma ddydd gŵyl Sant Beuno, nawddsant y gylfinir.
Yn y seithfed ganrif, gwyddys fod Sant Beuno wedi bendithio’r gylfinir ar ôl iddo achub ei lyfr pregethau, a oedd yn llawn o’i waith ar hyd y blynyddoedd, ar ôl iddo ei ollwng i’r môr yn ddamweiniol. Mae'n hysbys bod y gylfinir wedi plymio i'r dŵr a'i ddychwelyd i'r lan i sychu ar y creigiau.
O'r eiliad honno ymlaen, helpodd bendith Sant Beuno i sicrhau y byddai nythod y gylfinir bob amser yn anodd dod o hyd iddynt ac yn cael eu hamddiffyn am byth.
Gwyliwch fideo am Ddiwrnod Gylfinir y Byd 2023.