Marches Mosses yn nodi’r carreg filltir o30 mlynedd yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd
Mae cors fawn rhwng Cymru a Lloegr yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a'i dychweliad araf i amgylchedd naturiol
Roedd y Marches Mosses, y drydedd gyforgors fwyaf yn y DU, yn cael ei hadnabod ar un adeg fel ffynhonnell o fawn ar gyfer tanwydd a garddwriaeth. Nawr mae'n enghraifft flaenllaw o sut y gall corsydd mawn ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd os cânt eu hadfer. Ym 1990 prynwyd y tir gan Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig a ddechreuodd y broses o'i adfer cyn ymuno â Phrosiect BogLIFE Ewrop yn 2016.
Mae'r gors fawn 2,500 erw, sy'n croesi'r ffin rhwng Wrecsam a Sir Amwythig, wedi'i chlirio o goed a phrysgwydd, mae ffosydd wedi'u argaenu a'u creu i adfer byrddau dŵr corsydd i wyneb y mawn. Bydd y 30fed pen-blwydd hefyd yn gweld statws y Warchodfa Natur Genedlaethol yn cael ei ledaenu i ymgorffori 237 erw arall o fawndir sydd wedi'u hychwanegu at y gwaith adfer.
Meddai Tony Juniper, cadeirydd Natural England:
"Mae deng mlynedd ar hugain o weithredu i adfywio un o'n corsydd mawn mwyaf yn talu ar ei ganfed wrth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac, ar yr un pryd, mae wedi rhoi hwb i oroesiad ei ecoleg brin.
"Mae lleoedd fel y Marches Mosses yn enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r bygythiad amgylcheddol mwyaf a wynebwn drwy ganiatáu i natur wella a chynorthwyo'r adferiad hwnnw gyda thechnegau adfer modern a diogelwch drwy ein dynodiadau fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig."
Er bod y Marches Mosses yn cynnwys Cadney Moss a dau NNRs (Fenn's, Whixall a Bettisfield Mosses, a Wem Moss), maent mewn gwirionedd yn un bog mawr a godwyd - cynefin asidig, gwlyb sy'n berffaith ar gyfer y mwsogl Sphagnum sy'n pydru'n araf ac yn storio carbon fel mawn. Dim ond pan fydd y mawn hwn yn cael ei dorri, ei godi a'i sychu – yn bennaf ar gyfer defnydd garddwriaeth yn bennaf - y caiff y carbon ei ryddhau. Dyna pam yr anogir garddwyr i wneud eu rhan yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy ddefnyddio compost di-fawn.
Meddai Syr David Henshaw, cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Adfer a diogelu mawndiroedd yw'r unig ffordd y gallwn ddiogelu eu bioamrywiaeth gyfoethog a sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu'r ystod lawn o wasanaethau ecosystem sy'n gysylltiedig â'r cynefinoedd hyn, megis storio carbon, rheoli llifogydd yn naturiol ac amrywiaeth o wasanaethau eraill.
"Bydd y prosiect trawsffiniol, cydweithredol hwn, yn ogystal â phrosiectau eraill yng Nghymru a thu hwnt, yn cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol iawn at fynd i'r afael â natur ac argyfyngau hinsawdd."
Meddai Richard Grindle, cadeirydd Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig:
"Mae gan Sir Amwythig ei rhan i'w chwarae o ran lleihau allyriadau CO2 a bydd ymdrechion i adfer ac ehangu safleoedd fel FWB Mosses yn ffactor allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ond mae'r Mosses hefyd yn gartref i bryfed ac adar prin, sy'n dibynnu ar natur asidig y mawndir. Mae rhywogaethau bywyd gwyllt sy'n dirywio wedi dychwelyd i'r ardal wrth i'r gwaith adfer fynd rhagddo.
"Mae'n galonogol iawn gweld pa dri degawd o waith partneriaeth sydd wedi creu – dychmygwch yr hyn y gellir ei gyflawni ymhen 30 mlynedd arall!"