Storm Bert
Dywedodd Sally Davies, CNC, y Rheolwr Tactegol sydd ar Ddyletswydd ar gyfer Cymru:
"Gall llifogydd fod yn ddinistriol, ac rydym yn cydymdeimlo â’r bobl sydd wedi eu heffeithio gan law trwm Storm Bert dros y penwythnos.
"Yn y cyfnod cyn unrhyw law sylweddol, rydym yn ymgysylltu â'n cydweithwyr yn y Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Rhagweld Llifogydd (FFC), ac rydym yn defnyddio'r modelu a'r rhagolygon sydd ar gael i ni i sicrhau bod ein timau'n barod i ymateb. Buom hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill lle bo hynny'n briodol i sicrhau bod paratoadau yn cael eu rhoi ar waith i leihau'r risg i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gwnaethom hefyd sicrhau bod negeseuon ynghylch y perygl posibl o lifogydd yn cael eu rhannu gyda'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd sy’n agored i risg.
"Disgynnodd glaw sylweddol ar draws de Cymru - fe wnaethon ni gyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd ddydd Sadwrn gan roi rhybudd ymlaen llaw i bobl fod llifogydd yn bosibl. Yn gynnar fore Sul, cafwyd glaw dwys iawn yn nalgylch Taf, gyda hyd at 160mm wedi'i gofnodi mewn rhai lleoliadau. Roedd hynny’n fwy na’r amcangyfrifon cychwynnol.
"Gyda glaw dwys am gyfnod estynedig ar dir sydd eisoes yn llawn dŵr mewn ardal â dyffrynnoedd serth, mae lefelau'r afonydd yn codi'n eithriadol o gyflym. Cododd Afon Taf 300mm bob 15 munud ar anterth y glawiad. Cyhoeddwyd rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd am 7:41am pan gyrhaeddodd yr afon y lefel sy’n sbarduno rhybuddion llifogydd.
"Gweithiodd ein timau o gwmpas y cloc gyda'r gwasanaethau brys i ymateb i'r digwyddiad arwyddocaol hwn. Nawr, fel y gwnawn gyda phob achos o lifogydd sylweddol, byddwn yn adolygu'r ymateb wrth i ni ddechrau ar y cyfnod adfer.
"Gwyddom fod unrhyw lifogydd i gartrefi a busnesau yn ddinistriol – a chafodd llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt ddoe eu heffeithio gan stormydd Chwefror 2020 hefyd. Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyflwyno amddiffyniad eiddo unigol i gannoedd o gartrefi sydd â risg uwch o lifogydd yn yr ardal hon.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i adolygu'r perygl llifogydd mewn ardaloedd ar draws dalgylch Taf (gan gynnwys Pontypridd) – bydd hynny’n llywio ein cynlluniau rheoli perygl llifogydd hirdymor.
"Ond does dim datrysiad syml - fel dalgylch serth, sydd felly’n dioddef yn gyflym, a chyda llawer o'r gorlifdiroedd eisoes ag adeiladau arnynt, nid yw lleihau'r perygl o lifogydd yn syml o gwbl. Mae lleihau'r risg mewn un gymuned drwy ddulliau ad-hoc yn debygol o gynyddu'r perygl o lifogydd mewn cymuned arall. Y canlyniad arfaethedig yw rhaglen gynhwysfawr o brosiectau cysylltiedig ar raddfa dalgylch i'w darparu ar y cyd gan yr Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd.
"Mae’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'n sylweddol y peryglon llifogydd sy'n ein hwynebu. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y gwnawn mewn cymunedau eraill ledled Cymru, i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i helpu i liniaru ac addasu i'r risgiau a’r peryglon hyn.
"Ond allwn ni ddim atal llifogydd i gyd. Bydd dysgu byw gyda pherygl llifogydd cynyddol, ac addasu i hynny, gan adfer yn gyflymach ar ôl llifogydd, yn gwbl allweddol yn y degawdau nesaf."
DIWEDD