Cwblhau adolygiad o drwyddedau llosgyddion gwastraff

Cafodd trwyddedau amgylcheddol ar gyfer safleoedd llosgi gwastraff mawr Cymru eu hadolygu yn ystod 2022 a'u diweddaru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau bod y safleoedd yn perfformio yn unol â’r safonau amgylcheddol uchaf.

Roedd yr ymarfer yn cynnwys adolygu trwyddedau yn erbyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant, sef y Technegau Gorau Sydd ar Gael. Mae'n un o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ac mae'n sicrhau bod diwydiant yn parhau i ddefnyddio'r technegau gorau i atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd. Gallai'r technegau hyn gynnwys y dechnoleg a ddefnyddir a'r ffordd y mae gosodiad yn cael ei gynnal, ei weithredu a'i ddatgomisiynu. 

Mae gan Gymru bum safle llosgi gwastraff, gan gynnwys dau losgydd gwastraff trefol, dau losgydd biomas a llosgydd gwastraff clinigol, a bydd yn rhaid i bob un gyrraedd terfynau tynnach o ran allyrru llygryddion yn ogystal â monitro ychwanegol yn dilyn yr adolygiad.

Ar draws pob safle, mae gostyngiad o 50% wedi bod yn nherfyn yr allyriadau ar gyfer deunydd gronynnol; yn y ddau losgydd gwastraff trefol mae'r terfyn newydd ar gyfer allyriadau mercwri yn sicrhau gostyngiad o 60%, ac ar un safle mae gostyngiad o 55% wedi bod yn y terfyn ar gyfer ocsidau nitrogen.

Trwy amod gwella a ychwanegwyd at bob trwydded, mae bellach yn ofynnol i weithredwyr ymchwilio i sut i leihau ocsidau nitrogen y tu hwnt i derfyn y Technegau Gorau Sydd ar Gael ac mae'n ofynnol i bob safle lunio cynlluniau rheoli newydd mewn perthynas â gweithrediadau annormal ac wrth gychwyn llosgyddion a’u dirwyn i ben.

Yn gyffredinol, mae'r amodau newydd yn sicrhau bod y trwyddedau ar gyfer y sector hwn yn parhau i fod yn offeryn rheoleiddio effeithlon a fydd yn ysgogi gwelliannau parhaus yn y dyfodol.

Gallwch weld y trwyddedau sydd wedi'u diweddaru a'n dogfennau penderfynu ar ein cofrestr gyhoeddus:

 

Gallwch weld cefndir ar broses y Technegau Gorau Sydd ar Gael yma Establishing the Best Available Techniques for the UK (UK BAT) - GOV.UK (www.gov.uk) a gellir lawrlwytho dogfennau cyfeirio ar y Technegau Gorau Sydd ar Gael ar gyfer Llosgi Gwastraff yma Waste Incineration | Eippcb (europa.eu)

 

 

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru