Cyfleoedd cyffrous i roi help llaw i fyd natur

Cyfleoedd cyffrous i roi help llaw i natur

gan John Clark

Mae partneriaeth ‘Natur am Byth!’ yn gynllun cyffrous newydd ar gyfer yr Adferiad Gwyrdd, a gefnogir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’n uno naw elusen amgylcheddol â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddarparu rhaglen gadwraethol a chymunedol fwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â natur.

Fan hyn, mae John Clark, Rheolwr y Cynllun, yn dweud mwy wrthym am y fenter newydd a’r cyfleoedd cyffrous am swyddi ...

Mae yna ymrwymiad yng Nghymru, o'r lefel uchaf, i fynd i'r afael â'r dirywiad brawychus mewn bioamrywiaeth.

Yn wir, mae cyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) i ddatblygu - dros y 18 mis nesaf – rhaglen eang i warchod rhywogaethau prinaf Cymru yn gwbl amserol. Mae ei hangen yn fwy nag erioed.

Mae Natur am Byth, fel y gelwir y rhaglen, yn cael ei chynllunio i chwarae rhan bwysig ac ysbrydoledig wrth fynd i’r afael ag Argyfwng Natur Cymru.

Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae’r bartneriaeth yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau gwirfoddol i weithio ochr yn ochr â CNC ar brosiectau uchelgeisiol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Y 10 partner craidd yn Natur am Byth yw Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; Buglife; Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn; Cadwraeth Glöynnod Byw; Plantlife Cymru; Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; RSPB Cymru; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, a CNC.

Mae Llywodraeth Cymru a CNC hefyd yn darparu cyllid cyfatebol sylweddol i gefnogi'r rhaglen. Mae Natur am Byth yn rhannu'r un partneriaid â'n prosiectau adfer rhywogaethau yn Lloegr a'r Alban – Back from the Brink a Species on the Edge. Mae dysgu oddi wrthyn nhw, ynghyd â gwerthusiad NLHF o’u gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni lunio datblygiad Natur am Byth.

Llwyddiant cyllido

Dyfarnwyd swm o £ 932,700 i'r bartneriaeth gan NLHF y mis diwethaf i gefnogi'r cam datblygu 18 mis, ac ar ôl hynny bydd cais cam dau yn cael ei gyflwyno, gan ddod â chyfanswm y cais i NLHF i £ 5 miliwn ar gyfer rhaglen bedair blynedd o weithgareddau rhwng 2023 a 2027.

Dyna pryd y bydd y gwaith cadwraeth ymarferol, cymunedol ac ymgysylltu cyhoeddus cyffrous yn digwydd - os ydym yn llwyddiannus gyda'n cais cam dau!

Adeiladu ein tîm ar draws y bartneriaeth

Rydyn ni newydd lansio'r broses o recriwtio tîm o ansawdd uchel i arwain y gwaith cynllunio sy'n ofynnol i'w gyflwyno i'r NLHF yn ein cais cam dau.

Mae arnom angen swyddogion prosiect angerddol, ecolegwyr a gweithwyr sy’n arbenig mewn ymgysylltu. Os mai dyna ydych chi, edrychwch ar dudalen swyddi CNC a dilynwch #naturambyth ar draws cyfryngau cymdeithasol yr holl bartneriaid am swyddi gwag.

Bydd recriwtio ar gyfer y swyddi canlynol yn digwydd rhwng rwan a’r hydref i adlewyrchu’r gwahanol ddyddiadau cychwyn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd ar draws y bartneriaeth.

Teitl swydd Lleoliad Cyfogwr Llawn Amser neu Ran Amser Hyd Cytundeb; Dyddiad Cychwyn Cyflog

Swyddog Datblygu’r Cynllun – Natur am Byth! (Bae Abertawe)

De Orllewin neu Ganolbarth De Cymru

Buglife

Rhan AMser - 0.6                      FTE

16mis o Hyd/Tach 2021

£29,281 (pro rata)

Uwch Ymgynghorydd – Ymgysylltu â Phobl  - Natur am Byth

Hyblyg

CNC

Llawn Amser

16mis o Tach 2021

£35,288

Swyddog Datblygu Cynllun - Natur am Byth!

Gogledd Orllewin Cymru

RSPB

Llawn Amser

14mis o Tach 2021

£26,867

Swyddog Datblygu Cynllun – Natur am Byth! (Y Fritheg Frown)

De Cymru

Butterfly Conservation

Rhan Amser- 0.6                      FTE

15mis o Rhagfyr 2021

£28,000 (pro rata)

Swyddog Datblygu Natur am Byth! (Shrill carder bee)

De Cymru

Bumblebee Conservation Trust

Rhan Amser - 0.4                      FTE

15mis o Rhagfyr 2021

£23,000 pro rata

Rhaglen Planhigion Integredig – Swyddog Planhigion Fasgwlaidd - Datblygu

Hyblyg ond Gogledd Cymru yn ddelfrydol

Plantlife

Llawn Amser

15mis o Rhagfyr 2021

£28,500

Natur am Byth – Rhaglen Planhigion Integredig – Swddog Cen a Bryoffytau

Hyblyg

Plantlife

Llawn Amser

15mis o Rhagfyr 2021

£28,500

Swyddog Cynllun - Natur am Byth

Hyblyg

CNC

Rhan Amser- 0.5                      FTE

10mis o Ebrill 2022

£30,873 (pro rata)

Bydd y tîm newydd a’n contractwyr yn cynnal arolygon rhywogaethau a chynllunio cadwraeth ar draws llawer o’r tirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru. Byddant hefyd yn gweithio'n agos gydag ystod amrywiol o gymunedau i ysbrydoli sgyrsiau ar yr hyn sy'n bwysig iddynt, a sut y gall cysylltu â natur gefnogi llesiant ac adferiad yn dilyn Covid.

Mae'n hanfodol bod ein cynlluniau ar gyfer y cyfnod cyflawni pedair blynedd yn adlewyrchu anghenion pobl yn ogystal ag anghenion y rhywogaethau sydd dan fygythiad.

Sut wnaethon ni ddod o hyd i'n ffocws?

Mae partneriaid Natur am Byth wedi nodi rhywogaethau sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf o ddifodiant ac sydd o bwysigrwydd arbennig, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr treftadaeth naturiol ledled y DU.

Mapiodd y bartneriaeth 62 o rywogaethau yn erbyn themâu a nodi'r tirweddau a'r ardaloedd arfordirol i dargedu rhaglen gadwraeth ac ymgysylltu.

Mae Natur am Byth yn unigryw yn y ffordd rydyn ni'n integreiddio materion rheoli ar dir ac yn y môr, gan gefnogi rhywogaethau morol bregus yn ogystal â'r rhai ar dir ac mewn dŵr croyw.

Ein meysydd ffocws yw Pen Llŷn ac Ynys Môn; Sir Benfro; Bro Gŵyr ac Abertawe; Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; Gwastadeddau Gwent Caerdydd a Chasnewydd; Eryri; Powys; Wrecsam.

Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn bydd y prosiect yn defnyddio dull integredig ar draws cynefinoedd i sicrhau buddion lluosog i rywogaethau prin. Ond mae rhai lleoliadau hefyd yn cynrychioli poblogaethau ynysig o rywogaethau sydd ar fin diflannu ac angen gofal dwys.

Sut i ddarganfod mwy

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cam datblygu dilynwch hashnod #naturambyth ar draws cyfryngau cymdeithasol y partneriaid neu cysylltwch â John Clark i gael mwy o fanylion.

@BuglifeCymru

@RSPBCymru

@Arc_Bytes

@savebutterflies

@BumblebeeTrust

@PlantlifeCymru

@MCSUK

@vincentwildlife

@_BCT_

@NatResWales

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru