Monitro Môr-wyntyllau ym mharth cadwraeth morol Sgomer

Mae Ali Massey, Swyddog Asesu ac Adrodd Amgylcheddol Morol yn gweithio yn Sgomer, sef y parth cadwraeth morol cyntaf yng Nghymru a rhan o rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n diogelu amrywiaeth bywyd gwyllt y môr. Mae hi'n sôn wrthym am y môr-wyntyllau pinc sydd i'w cael yn Sgomer.

“Mae’n ddechrau mis Mehefin ac mae’r lonydd yn frith o orthyfail, bysedd y cŵn a gludlys. Wrth feicio i lawr y rhiw o bentref Marloes at y swyddfa yn Martins Haven, daw Ynys Sgomer i’r golwg yn ei holl ogoniant, gyda’i darth glas tymhorol oherwydd y carpedi o glychau’r gog sydd yn eu blodau.

Yn fuan ar ôl cyrraedd y swyddfa, mae’r pedwar ohonom yn bwrw iddi er mwyn paratoi Skalmey, ein cwch modur, a’n cyfarpar deifio SCUBA ar gyfer gorchwyl y dydd. Rydyn ni’n cymryd y camera SLR digidol, sydd wedi’i osod ar ffrâm yn ei gas tanddwr, i safle deifio o’r enw Sandy Sea Fan Gully ar ymyl ogleddol Sgomer lle byddwn yn tynnu lluniau o fôr-wyntyllau pinc.

Efallai y bydd yn syndod i rai mai cwrel yw’r fôr-wyntyll binc (Eunicella verrucosa). Mae’n perthyn i fôr-wyntyllau trofannol ac i’w gweld yn bennaf ar hyd arfordir deheuol y DU gyda’i chadarnle gogleddol yma yn Sgomer. 

Mae môr-wyntyllau’n organebau cytrefol. Mae’r canghennau calchog yn ffurfio strwythur caled ar gyfer y polypiaid meddal sy’n debyg i anemonïau. Mae môr-wyntyllau’n tyfu ar greigiau a chlogfeini ac fel arfer yn gosod eu hunain ar ongl sgwâr yn erbyn y prif geryntau. Mae hyn yn caniatáu i’r polypiaid fwydo ar blanctonau sy’n pasio ac sydd wedi’u dal yn y golofn ddŵr. Yn yr amodau iawn, mae gwyntyllau unigol yn tyfu i dros 40cm o un pen i’r llall a gallant fyw am fwy na hanner can mlynedd. 

Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith ym Mharth Cadwraeth Morol (PCM) Sgomer yn canolbwyntio ar fonitro hirdymor. PCM Sgomer sydd â'r crynodiad uchaf o brosiectau monitro morol yng Nghymru. Mae'r setiau data hyn yn hanfodol bwysig ar gyfer cadwraeth forol, sy'n caniatáu i newidiadau gael eu monitro dros amser. Mae un llun o fôr-wyntyll yn rhoi cipolwg i chi ar un adeg benodol ond mae tynnu lluniau o'r un fôr-wyntyll flwyddyn ar ôl blwyddyn yn rhoi data ar dwf, yn monitro difrod ac yn olrhain ei gallu i ymadfer.

Y data sylfaenol hwn yw'r allwedd sy'n dangos i ni sut mae cynefinoedd morol yn ymateb i newid naturiol a newid oherwydd pobl (newid anthropogenig). Er ein bod mewn parth cadwraeth morol, rydym yn gweld mwy o ddirywiad yn niferoedd môr-wyntyllau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae gwaith ymchwil parhaus yn ystyried yr achosion posibl. Drwy ddeall beth mae'r effeithiau hyn yn ei olygu, byddwn yn gallu sefydlu rhaglenni i ddiogelu a gwarchod môr-wyntyllau.”

Môr-wyntyll Binc (Eunicella verrucosa) rhif 13 yn Sandy Sea Fan Gully, yn dangos twf dros 28 mlynedd 1994-2021. Mae ffrâm y camera yn 50 x 70cm.

 

I ddarllen mwy am waith ymchwil ar Fôr-wyntyllau Pinc, gweler Adroddiad Tystiolaeth Morol CNC: Adroddiad Statws Prosiect PCM Sgomer 2021

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru