Mor bwysig yw’r draenog môr

Bob mis mae ein timau’n ysgrifennu blog am y mannau arbennig y maent yn gofalu amdanynt. Dyma Kate Lock, swyddog asesu’r amgylchedd morol, i sôn am y draenog môr a pham y mae mor bwysig.

Siâp sfferig sydd arno, ac mae’n las, pinc neu’n borffor. Mae ganddo haen allanol o blatiau sgerbydol sy’n ymuno i greu cragen â phum urchin at skomerrheidden. Mae’r gragen wedi’i gorchuddio â channoedd o bigau symudol miniog, ac ar hyd bob rheidden mae rhesi o draed tiwbaidd hydrolig, a disg sugno ar ddiwedd pob un. Mae ganddo hefyd gyfarpar deintyddol cymhleth sy’n gweithredu pum gên sy’n ymestyn allan o’r geg.

O weld disgrifiad o’r fath, byddai’n hawdd i rywun feddwl bod rhywogaeth estron newydd lanio o’r gofod. Fodd bynnag, disgrifiad yw hwn o’r draenog môr cyffredin, Echinus esculentus, sydd i’w gael ar hyd arfordir Prydain.

Porwyr gwych

Draenogiaid môr yw ‘cwningod’ y byd morol – maent yn bwyta gwymon ac anifeiliaid sy’n crawennu, gan sugno wyneb y graig yn effeithlon nes bod dim ar ôl arni.

Drwy sugno wynebau creigiau’n effeithlon yn y modd yma, maent yn creu lle i larfâu o wahanol rywogaethau lanio ar y graig ac, o ganlyniad, yn rhoi hwb i amrywiaeth yn yr amgylchedd morol. 

Casglu trugareddau morol yn arwain at warchodfa fôr wirfoddol

Câi draenogiaid môr eu casglu o Sir Benfro yn ystod y 1960au a’r 1970au wrth i ddeifio ddod yn boblogaidd. Câi’r anifail ei dynnu o’r gragen, a’i wynnu a’i sychu er mwyn ei gadw neu ei werthu ar ffurf cofrodd. 

Roedd safleoedd o amgylch Ynys Sgomer yn cael eu targedu’n aml, a chynyddodd pryderon ynglŷn ag effeithiau ecolegol y gwaith casglu, y credid y gwnaed gormod ohono. Sbardunodd hyn yr awgrymiadau cyntaf fod angen gwarchod yr ardal forol o amgylch yr ynys, ac erbyn 1971 cynigiodd grŵp o naturiaethwyr a biolegwyr o’r Cyngor Astudiaethau Maes y dylai fod gwarchodfa forol yno.

Rhwng 1979 a 1982, cynhaliodd y Gymdeithas Cadwraeth Danddwr (y Gymdeithas Cadwraeth Forol erbyn hyn) arolygon draenogiaid môr ar nifer fach o safleoedd Ynys Sgomer er mwyn canfod dwyseddau’r rhywogaeth. 

Dangosodd y canlyniadau fod y niferoedd yn debyg i’r poblogaethau y manteisiwyd arnynt yn fasnachol yn Nyfnaint, ac yn is na’r rhai mewn ardaloedd eraill o amgylch y DU na fanteisiwyd arnynt. Yn ffodus iawn, daeth yr arfer o gasglu trugareddau morol yn y DU i ben ddechrau’r 1980au.

Arolygon draenogiaid môr gan ddeifwyr gwirfoddol

Cwblhawyd yr arolwg cyntaf o ddraenogiaid môr (ers dynodi Parth Cadwraeth Morol Sgomer) yn 2003.

Sefydlwyd safleoedd arolygu penodol ag amrywiaeth o gynefinoedd a dyfnderoedd ar hyd arfordiroedd gogleddol a deheuol yr ynys, ac arfordir gogleddol y tir mawr.

Rydym yn parhau i gynnal yr arolwg hwn bob pedair blynedd gyda thîm o ddeifwyr sy’n wirfoddolwyr. Mae ymdrechion y timau deifio gwirfoddol yn hynod werthfawr oherwydd gallwn arolygu ardal enfawr dros ddau benwythnos, gan gasglu data am ddosbarthiad, helaethder a maint draenogiaid môr.

Ym mis Mehefin eleni, aeth 40 o ddeifwyr gwirfoddol ar draws 8400m2, gan fesur 949 o ddraenogiaid môr. Bydd y data gwerthfawr hyn yn cael eu mewnbynnu a’u dadansoddi yn y gaeaf ac yn cael eu cymharu â chanlyniadau arolygon blaenorol.  

Gwaith monitro hirdymor yn darparu tystiolaeth am gyflwr yr amgylchedd naturiol

Mae Parth Cadwraeth Morol Sgomer yn gartref i raglen monitro rhywogaethau a chymunedau morol fwyaf cynhwysfawr y DU. divers at Skomer

Pryderon am y draenog môr a sbardunodd warchodaeth forol o amgylch Ynys Sgomer, ac erbyn hyn, 48 mlynedd yn ddiweddarach, Parth Cadwraeth Morol Sgomer yw un o’r ardaloedd morol a astudir fwyaf yn y DU. 

Un rhan yn unig o’r rhaglen o brosiectau monitro morol a gynhelir ym Mharth Cadwraeth Morol Sgomer yw’r arolwg draenogiaid môr. Rydym hefyd yn monitro’r tywydd a’r dŵr, gan gynnwys tymheredd y môr, sy’n dylanwadu ar fywyd gwyllt y safle. Mae ein rhaglen fiolegol yn casglu tystiolaeth a gwybodaeth am fywyd tanddwr ac ar y glannau, gan ganiatáu inni adrodd ar iechyd yr amgylchedd morol.

Bob blwyddyn bydd tîm Parth Cadwraeth Morol Sgomer yn llunio adroddiad ar statws y prosiectau monitro, sy’n cynnwys canlyniadau manwl am bob prosiect monitro a gwblhawyd - https://cdn.naturalresources.wales/media/688024/eng-report-251-skomer-mcz-project-status-report-2017-18.pdf 

Canfyddwch ragor am yr ardal a sut y gallwch ymweld â hi ar ein gwefan; gallwch hefyd ddilyn Kate a’r tîm ar Facebook.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru