Natur a Ni - menter genedlaethol ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru

Pa ddyfodol ydyn ni eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol?

Gweledigaeth Natur a Ni yw'r weledigaeth a rennir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru.  

Fe'i crëwyd trwy sawl cam ymgysylltu rhwng Chwefror 2022 a Mawrth 2023. Y nod oedd datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y flwyddyn 2050 ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud yn arwain at 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad, i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a'r hinsawdd.

Casglwyd safbwyntiau gan filoedd o bobl ledled Cymru fel rhan o sgwrs genedlaethol. Yna fe wnaethom ofyn i Gynulliad Dinasyddion ystyried y safbwyntiau hynny, a chreu'r Weledigaeth a rennir.

Ewch i www.naturani.cymru i ddarllen y weledigaeth a rennir ar gyfer yr amgylchedd ac i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.

Canfyddiadau'r sgwrs genedlaethol

Digwyddodd cam cyntaf Natur a Ni yng ngwanwyn 2022 ac fe'i cynhaliwyd ar-lein. Cynhaliwyd yr ail gam dros yr haf a dechrau'r Hydref. Yng ngwanwyn 2023 daeth cynulliad dinasyddion â'r holl safbwyntiau a gasglwyd ynghyd a chytuno ar y weledigaeth ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru.

Gallwch ddod o hyd i'r weledigaeth derfynol a'r adroddiadau llawn, fideos ac adroddiadau cryno ar wefan Natur a Ni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf