Cwestiynau ac Atebion - Llifogydd Llanfair Talhaiarn
Oherwydd argyfwng coronafirws, nid ydym yn gallu cynnal sesiwn galw heibio yn Llanfair Talhaiarn i drafod materion llifogydd. Byddwn yn gwneud hynny, cyn gynted ag y bydd y sefyllfa'n dychwelyd i normal.
Yn y cyfamser, rydym wedi paratoi atebion i gwestiynau a godwyd gyda ni gan bobl yn y gymuned. Maent ymdrin â'r prif faterion ond gellir codi ymholiadau eraill trwy Risg.Llifogydd.Llanfairtalhaiarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae'r atebion yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael hyd yma wrth i ymchwiliadau barhau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd wedi cynnal Ymchwiliad Llifogydd annibynnol.
Llifogydd oherwydd storm Ciara - Chwefror 2020
Faint o law a gafwyd?
Daeth Storm Ciara â glaw sylweddol i’r ardal – fe gofnodwyd y lefelau llif uchaf erioed ar yr Afon Elwy.
Cyrhaeddodd yr Afon Elwy'r lefel uchaf ar record wrth Bont y Gwyddel - 3.65metr am 11:30 ar 9 Chwefror 2020. Mae hyn 0.17metr yn uwch nag yn ystod llifogydd Tachwedd 2012.
Cofnodwyd glawiad o 77mm dros gyfnod o 16 awr gan fesurydd glaw CNC yng Ngwytherin (sydd 12km i’r de-orllewin o Lanfair Talhaiarn. Mae hyn yn gyfystyr â 66 y cant o’r cyfartaledd misol.
Cofnodwyd 58mm o law dros gyfnod o 16 awr gan y mesurydd glaw ym Mhlas Pigot (7km i’r de o Lanfair Talhaiarn), sy’n 76 y cant o’r cyfartaledd misol.
Nodwyd fod llawer iawn o law wedi bod yn ystod rhai oriau penodol o fewn y cyfnodau y cyfeirir atynt uchod – cafwyd 25% o’r glaw mewn un awr yng Ngwytherin a 28% mewn awr ym Mhlas Pigot.
Pam na chafodd pobl wasanaeth rhybudd/larwm?
Fe anfonwyd larymau. Mae’r ffordd a ddefnyddir ar hyn o bryd i anfon larymau yn defnyddio System Telemetreg Cymru. Mae’r system yn anfon neges destun SMS i rifau ffôn sydd wedi’u cofrestru. Mae rhifau llinell tir cofrestredig yn derbyn neges destun ar lafar trwy BT.
Yn sgîl cyfyngiadau o ran y niferoedd y gallem eu cofrestru, penderfynodd CNC beidio â chynnig y larwm ond i’r naw Warden Llifogydd yn Llanfair Talhaiarn.
Sefydlwyd y larymau er mwyn rhoi trothwy ar gyfer ymateb gweithredol CNC; nid yw’n rhybudd swyddogol fod llifogydd yn bosibl neu’n debygol.
Pam nad oedd digon o amser i Wardeiniaid weithredu’r cynllun llifogydd?
Am tua 5:30am ddydd Sul 9 Chwefror 2020 anfonwyd rhybuddion yn uniongyrchol at y Wardeiniaid Llifogydd yn dilyn larwm, er mwyn iddynt weithredu’r cynllun llifogydd. Fodd bynnag, oherwydd bod cymaint o law a gwyntoedd cryfion, achoswyd i lifddwr a malurion raeadru i lawr yr afon gan orlifo’r cwlfert a’r sgrîn sbwriel. Yn sgîl y cyfuniad digynsail hwn, roedd yr amser hysbysu ar gyfer gweithredu’r cynllun llifogydd yn llawer iawn byrrach nag sy’n arferol.
Gwirfoddolwyr yw Wardeiniaid Llifogydd ac ni ddylent roi eu hunain nac eraill mewn perygl yn ystod llifogydd
A ddylai CNC fod wedi rhyddhau rhybuddion yn gynt?
Rhyddhawyd rhybuddion yn unol â’r hyn y mae’r system bresennol yn ei ganiatáu. Mae’r lefelau trothwy presennol wedi cael eu hadolygu ar sawl achlysur yn dilyn achosion yn y gorffennol er mwyn sicrhau y gellir ymateb yn weithredol mewn modd effeithlon ac amserol. Byddai rhyddhau rhybuddion yn gynt nag a wnaed wedi golygu gostwng y lefel trothwy’n sylweddol, a byddai hynny wedi cynyddu’r nifer o gamrybuddion.
A oedd y sgrîn sbwriel wedi blocio?
Nag oedd. Mae’n ymddangos mai’r ffaith fod lefel y dŵr yn fwy na chapasiti’r cwlfert a achosodd y llifogydd. Roedd y sgrîn sbwriel yn glir cyn i’r llif mawr ddod trwodd a gorlifo’r cwlfert
A ddylai CNC fod wedi sicrhau bod peiriant ar y safle yn barod ar gyfer pan fyddai’r sgrîn yn blocio?
Mae ein cloddiwr arbenigol wedi’i leoli yn storfa CNC yn Rhuddlan fel y gallwn ymateb i unrhyw ddigwyddiad yn y dalgylch hwn. Nid oes angen y peiriant ond mewn achosion pan na ellir clirio’r sgrîn â llaw. Hyd nes daeth y llif mawr o ddŵr, bu swyddogion CNC yn monitro’n rheolaidd i sicrhau fod y sgrîn yn glir.
A wnaeth y sgrîn dal coed achosi’r llif mawr o ddŵr?
Mae ein harchwiliadau hyd yma yn awgrymu bod y llif wedi cael ei achosi gan gynnydd sydyn ac eithafol o ran y glaw. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar rôl y daliwr coed ac a oedd unrhyw falurion a gasglwyd yno wedi effeithio ar lifoedd yn y Barrog.
Gweler hefyd yr ateb i gwestiwn 1.
Pam na wnaeth cynllun llifogydd CNC stopio’r llifogydd?
Roedd capasiti’r cwlfert (pibell) sy’n rhedeg hyd Water Street wedu cynyddu’n sylweddol yn sgîl y gwaith a wnaed yn 2018. Roedd y darn culaf, mwyaf serth o’r cwlfert wedi ei dynnu.
Cafwyd gwared hefyd â risgiau blocio a chroesiad pibellau.
Gwnaed cymaint o waith ar y cwlfert ag oedd yn bosibl i amddiffyn pentref o’r maint hwn, yn seiliedig ar y rheolau ariannu gan y Llywodraeth y mae rhaid i CNC gydymffurfio â nhw.
Amcangyfrifwn fod y llifogydd a welwyd ar 9 Chwefror ymhell y tu hwnt i gapasiti’r cwlfert.
A oedd y sefyllfa’n waeth oherwydd cynllun CNC?
Does dim tystiolaeth i gefnogi hyn. Cafodd capasiti’r cwlfert ei gynyddu’n sgîl y cynllun, ond cafodd ei orlifo serch hynny oherwydd bod cymaint o law.
Pam na weithiodd y falfiau fflap i lawr yr afon?
Fe weithiodd y falfiau fflap. Maent yn agor ac yn cau’n annibynnol wrth i lefelau dŵr amrywio ar ochr y tir a’r afon.
Nid oes rhaid i CNC eu gweithredu â llaw.
Gan fod yr Afon Elwy mor uchel ar 9 Chwefror, ni allai’r falfiau fflap agor.
Beth yw’r 75 tunnell o sbwriel sydd wedi ei glirio ers y 10fed o Chwefror, ac o le y daeth?
Daeth y rhan fwyaf o’r sbwriel o’r sianel sy’n arwain at y daliwr coed a’r ardal sydd tua 10 metr i fyny’r afon ohono.
Llystyfiant o’r daliwr coed oedd tua 2 dunnell o’r sbwriel; roedd 70 tunnell ohono’n raean a deunydd arall o’r sianel sy’n rhedeg tua’r daliwr coed a’r ardal gyfagos, a thair tunnell ohono’n llystyfiant o’r sgrîn sbwriel.
A wnaeth y sbwriel a gafodd ei glirio gan CNC achosi’r llifogydd?
Na – credwn fod y llifogydd wedi digwydd am fod mwy o ddŵr nag y gallai’r cwlfert ymdopi ag ef. Cafwyd gwared â’r sbwriel er mwyn helpu i gadw’r afon yn ei sianel, i fyny’r afon o’r pentref.
Pam fod CNC yn cael gweithio yn y sianel ar yr adeg hon o’r flwyddyn?
Fel arfer, nid ydym yn cael gweithio mewn afonydd yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd deddfwriaeth sy’n amddiffyn pysgod. Fodd bynnag, gwnaed y gwaith hwn fel achos brys er mwyn ceisio sicrhau bod yr afon yn aros o fewn ei glannau i fyny’r afon o’r sgrîn dal coed.
Edrych tua'r dyfodol
Beth sydd wedi digwydd ers y llifogydd?
Mae ein timau wedi gweithio i ailsefydlu’r offer telemetreg sy’n darparu’r rhybuddion cynnar.
Buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) i archwilio achosion y llifogydd.
CBSC oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r adroddiad ymchwil llifogydd, sydd ar gael i’r cyhoedd
Beth yw’r diweddaraf o ran cwblhau’r cynllun rheoli perygl llifogydd?
Fel y gwyddoch, mae CNC wedi gwella’r rhan uchaf o gwlfert Nant Barrog Water Street a chwlfert Nant Barrog Black Lion. Dyma oedd cam cyntaf y gwaith.
Y disgwyl oedd y byddai CNC, yn ystod haf 2020, yn gosod sgrîn sbwriel newydd, well y tu ôl i Gapel Soar.
Byddai gwaith yn cael ei wneud hefyd i wella’r waliau yn ystod ail gam y cynllun. Byddai ein cynllun yn amddiffyn hyd at siawns un y cant o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn, unwaith y byddai’r holl waith, yn cynnwys Cam 2, wedi’i gwblhau.
Ar yr un pryd, mae CNC, ar y cyd â phartneriaid, yn gobeithio sicrhau dulliau rheoli perygl llifogydd naturiol yn y dalgylch i reoli briglifau dŵr.
Yng ngoleuni’r llifogydd a fu ar 9 Chwefror, rydym yn adolygu ein cynlluniau. Bydd Cam 2 bellach yn cael ei wneud yn y Gwanwyn 2022.
Pam na allwch newid y cwlfert cyfan?
Fe wnaethom ystyried newid y cwlfert cyfan, ond nid oedd modd i ni wneud hynny am resymau technegol, amgylcheddol ac economaidd. Rhaid i gynlluniau llifogydd fodloni meini prawf cost/budd.
Byddai cost newid y cwlfert cyfan yn llawer uwch na’r budd ariannol. Byddai hefyd yn anodd iawn gwneud hynny, gan fod Water Street mor gul a chymaint o adeiladau gerllaw.
A fyddai gwella rhan uchaf y cwlfert yn golygu na allai’r gwaelod ymdopi?
Cafodd hyn ei ystyried fel rhan o’r asesiad a newidiwyd pob un o’r gorchuddion twll archwilio ar hyd y cwlfert, gan osod gorchuddion arbennig yn eu lle a fyddai’n galluogi mwy o ddŵr i lifo. Hefyd, gosodwyd falfiau un ffordd mewn rhigolau sy’n rhedeg i’r cwlfert.
Pam na wnaethoch chi ehangu’r cwlfert i lawr yr afon – onid yn y fan honno mae’r broblem?
Dangosodd ein dadansoddiad ni mai’r ardal i fyny’r afon o’r cwlfert oedd yn cyfyngu ar lif y dŵr drwy’r cwlfert gan leihau capasiti, a thrwy hynny gynyddu’r perygl o lifogydd.
Byddai hefyd yn arbennig o anodd newid y cwlfert i lawr yr afon gan ei fod yn agos iawn at, ac yn mynd o dan adeiladau.
Fe wnaethom gynyddu maint cwlfert Black Lion er mwyn caniatáu mwy o lif trwy’r cwlfert. Yn ogystal, golygai hynny nad oedd angen adeiladu cymaint o wal i lawr yr afon tua diwedd y cwlfert.
Sut allai sgrîn sbwriel newydd helpu?
Cafodd staff CNC gryn drafferth cynnal a chadw’r sgrîn bresennol oherwydd ei maint a’i lleoliad. Byddai’r sgrîn newydd yn fwy ac yn haws mynd ati. Byddai hyn yn ein galluogi i ymateb yn well ac yn fwy effeithlon ac yn lleihau’r perygl o flocio yn sylweddol.
Pa ystyriaeth a roddwyd i newid hinsawdd?
Mae newid hinsawdd yn realiti ac yn cael effaith arnom mewn sawl ffordd – hafau sychach, gaeafau gwlypach, a mwy o stormydd.
Mae CNC eisoes yn ystyried pa effaith a gaiff hyn ar gynlluniau lliniaru llifogydd a sut, fel sefydliad, y gallwn helpu cymunedau i ymateb i’r digwyddiadau hyn.
Pe bai gwaith i fyny’r afon yn mynd yn ei flaen, byddai gwell gwydnwch i wrthsefyll newid hinsawdd.
Byddwn yn parhau i gydweithio gyda chyrff eraill i archwilio cynlluniau ar gyfer rheoli perygl llifogydd naturiol yn y dalgylch uchaf er mwyn lleddfu effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol
Felly, ni fydd y cynllun yn stopio llifogydd yn gyfan gwbl?
Yn anffodus, na. Allwn ni fyth stopio llifogydd yn gyfan gwbl. Yn anffodus hefyd, yn achos Llanfair Talhaiarn, bydd capasiti’r cwlfert bob amser yn cyfyngu ar faint y gellir amddiffyn rhag llifogydd.
Mae’r cynllun wedi cynyddu capasiti’r cwlfert a bydd yn cynyddu safon yr amddiffynfa.
Ond os bydd mwy o law nag y gall y cwlfert ymdopi ag ef, bydd llifogydd yn dal i ddigwydd.
Pam na ellir rhoi mwy o gyfrifoldeb i Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol?
Mae Wardeiniaid Llifogydd yn rhydd i ddiffinio eu rôl fel y mynnant, yn seiliedig ar anghenion eu cymuned. Mae CNC yn argymell na ddylent roi eu hunain, nac eraill, mewn perygl.
Bydd CNC yn trefnu i gwrdd â’r Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol yn fuan er mwyn helpu i adolygu a diweddaru’r Cynllun Llifogydd Cymunedol, gan sicrhau fod yr hyn y dymunant ei wneud yn addas, yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch, a ddim yn eu rhoi mewn perygl o wynebu achos cyfreithiol
Pam nad yw pob eiddo yn y pentref yn cael ei ddiogelu’n unigol?
Yn 2012/13, cynigwyd diogelu pob eiddo a gafodd ei effeithio yn sgîl llifogydd 2012 yn unigol, fel rhan o gynllun i helpu pob eiddo a effeithiwyd.
A fydd CNC yn cynnig diogelu eiddo unigol i unrhyw un sy’n dymuno hynny?
Fel rheol, mae perchnogion eiddo yn gyfrifol am weithredu mesurau penodol i amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd.
Bydd CNC yn ystyried mesurau ar lefel eiddo unigol os credwn fod hyn yn opsiwn dilys ar gyfer lleihau’r perygl o lifogydd o fewn y gymuned.
Cafodd rhai adeiladau eu llifogi o’r Afon Elwy hefyd – a ellid datblygu gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer yr Elwy?
Efallai fod hyn yn bosibl ond mae angen gwneud mwy o ymchwil.
A fyddai dulliau rheoli llifogydd naturiol – defnyddio prosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd – wedi medru atal y llifogydd?
Mae’n annhebygol y byddai mesurau rheoli naturiol, megis plannu coed neu argloddiau arafu llif wedi bod yn ddigon i wrthsefyll y dŵr a ddaeth i lawr yr Afon Barrog ar 9 Chwefror.
Mae mesurau rheoli llifogydd naturiol yn ddefnyddiol iawn o ran arafu llif ac yn effeithiol pan nad oes gormodedd o law, ond nid ydynt yn cael llawer o effaith pan mae stormydd glaw trymion.
Fodd bynnag, rydym yn bwriadu gweithio gyda phartneriaid i lunio cynllun Rheoli Llifogydd Naturiol ar gyfer yr Afon Barrog gan y gallai gael rhywfaint o effaith bositif
A ellid ystyried storio dŵr i fyny’r afon?
Byddai gofyn am storfa ddŵr fawr iawn i ymdopi â lefel y dŵr a gafwyd ar 9 Chwefror. Nid oes llawer o fannau lle gellid storio i fyny’r afon. Rydym wedi ystyried dau safle, ond mae’r gofod storio yn fach o gymharu â’r llifogydd dan sylw ac felly nid ydym o’r farn y byddent wedi cael llawer o effaith ar y llif.
Mae rheoli a chynnal a chadw safleoedd storio hefyd yn fater i’w ystyried.
A fyddai Cam 2 wedi stopio’r llifogydd?
Byddai’r sefyllfa’n well yn sgîl y gwaith arfaethedig ar gyfer Cam 2, gan y mae wedi’i gynllunio ar hyn o bryd, gan y byddai’r waliau’n uwch na’r rhai presennol ac felly byddai peth o’r dŵr wedi aros yn y sianel ar y cychwyn. Serch hynny, gan fod cymaint o ddŵr wedi llifo credwn na fyddai’r waliau uwch wedi medru ymdopi ychwaith, oherwydd capasiti cyfyngedig y cwlfert. Credwn fod natur eithriadol y digwyddiad wedi arwain at lifoedd oedd y tu hwnt i gapasiti’r cwlfert.
Pam fod Cam 2 yn dal i gael ei ystyried?
Byddai’r sgrîn newydd, a gynigir o dan Gam 2, yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy i’w chynnal. Byddai felly’n llai tebygol o flocio. Mae hefyd yn lletach felly’n llai tebygol na’r sgrîn bresennol o flocio.
Byddai modd gweithredu peiriannau i ffwrdd o’r ffordd fawr a fyddai’n gwneud y gwaith cynnal a chadw’n fwy diogel.
Mae’r sgrîn yn rhy serth – oni fyddai sgrîn sy’n fwy fflat yn ei gwneud yn haws i ddŵr lifo ac yn atal sbwriel rhag ymgasglu?
Mae’r sgrîn bresennol wedi ei chynllunio yn unol â chanllawiau, gymaint ag y bo hynny’n bosibl oherwydd cyfyngiadau’r safle. Dyma’r cynllun gorau ar gyfer y lleoliad.
Mae’r ardal lle mae’r sgrîn wedi’i gosod yn gul iawn, sy’n cyfyngu ar ei lled. Mae’r canllawiau’n nodi bod angen sgrîn fwy llydan, a fydd yn haws ei rheoli ac yn gallu ymdopi’n well ag ymgasgliad sbwriel.
Mae uchafswm hyd ar gyfer sgriniau sy’n cael eu clirio gyda llaw, er mwyn medru defnyddio cribin. Felly ni fyddai sgrîn sy’n fwy fflat ac yn hirach yn dderbyniol gan na fyddai modd tynnu’r cribin ar hyd wyneb y sgrîn gyfan.
Mae’r sgrîn wedi’i lleoli tua thair metr o geg y cwlfert, sy’n caniatáu i ddŵr lifo dros yr wyneb a mynd yn ôl i’r sianel cyn mynd trwy’r cwlfert. Fodd bynnag, nid yw hynny’n bosibl pan fo mwy o ddŵr na chapasiti’r cwlfert.
Pam fod angen sgrîn o gwbl?
Dilynwyd canllawiau Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) ar gyfer y cwlfert yn ystod y broses ddylunio, ac roedd hynny’n nodi fod sgrîn yn angenrheidiol.
Rydym hefyd yn asesu’r safle o ran diogelwch y cyhoedd ac yn asesu’r risg sy’n gysylltiedig â cheg y cwlfert drwy gynnal Asesiad Risg Diogelwch y Cyhoedd.
Fodd bynnag, mae canllawiau CIRIA wedi cael eu diweddaru’n ddiweddar felly rydym yn adolygu er mwyn cadarnhau’r sefyllfa.
Fel rhan o’r gwaith yng Ngham 2 byddai’r sgrîn yn cael ei symud i fyny’r afon wrth gefn y Capel. Byddai ffens yn cael ei gosod rhwng y sgrîn a cheg y cwlfert. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fwriad rhoi ail sgrîn wrth geg y cwlfert.
Pam na all y gymuned reoli’r sgrîn yn hytrach na CNC?
CNC wnaeth adeiladu’r sgrîn bresennol ac rydym yn gyfreithiol gyfrifol am gynnal a chadw. Fel cyflogwyr, mae gan CNC ddyletswydd i ofalu am yr holl staff a chyflogeion sy’n gwneud y gwaith cynnal a chadw.
Felly mae staff yn cael eu hyfforddi, maent yn gymwys ac maent yn cael Offer Diogelwch Personol (PPE) i reoli’r risg sy’n gysylltiedig â gwaith cynnal a chadw.
Mae gan CNC ddyletswydd hefyd i ofalu am y cyhoedd a allai fod mewn perygl o’i asedau.
Fyddai gan CNC ddim rheolaeth i sicrhau fod aelodau o’r gymuned wedi’u hyfforddi, yn gymwys nac yn defnyddio’r offer diogelwch personol priodol.
Fel rhan o’n hadolygiad yn dilyn 9 Chwefror, byddwn yn archwilio a oes mwy o sgôp i’r gymuned gyfrannu.
A yw cored Elwy yn achosi problem – mae wedi’i difrodi, beth fydd yn digwydd iddi?
Bydd astudiaeth i bennu’r ffordd ymlaen ar gyfer y gored yn cael ei chynnal yn nes ymlaen eleni.
A yw ymgasgliad graean wrth bontydd Elwy yn peri problem?
Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i awgrymu fod ymgasgliad graean yn broblem
A fydd CNC yn clirio graean o bontydd Elwy... Pont y Llan a Phont Ffordd Llansannan?
Ni fyddai CNC ond yn clirio graean ar ôl cynnal adolygiad o effaith o ran perygl llifogydd. Pe bai hynny’n adnabod fod y graean yn cael effaith sylweddol, byddai CNC yn ystyried ei glirio.
Mae unrhyw gynlluniau i waredu graean yn weithgaredd sy’n ddibynnol ar ganiatâd o dan reoliadau amgylcheddol – byddai gofyn i ni adolygu’r goblygiadau a chyfiawnhau ei glirio cyn ymgymryd ag unrhyw waith.
Cafodd School Lane ei llifogi gan yr Afon Elwy... a fydd cynllun yn cael ei sefydlu?
Bydd hyn yn cael ei ystyried ar ôl cwblhau’r broses adolygu. Mae yna glawdd llifogydd ar hyn o bryd, ond mae’n cael ei archwilio i ddeall pa ran a chwaraeodd ar 9 Chwefror.
Pwy sy’n talu am y difrod yn sgîl llifogydd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y gallwch wneud cais am gymorth ariannol os cafodd eich cartref ei effeithio yn ystod llifogydd Chwefror 2020.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn grant Taliad Cymorth Brys gan Lywodraeth Cymru.
Mae Turn2us yn elusen genedlaethol sy’n cynnig cymorth ymarferol i helpu’r rhai sy’n wynebu trafferthion ariannol.
Gallai ffermwyr a gweithwyr fferm fod yn gymwys ar gyfer cronfa frys gan y Sefydliad Llesiannol Amaethyddol Brenhinol (RABI). Gallwch ffonio’u llinell gymorth yn rhad am ddim i gael mwy o wybodaeth – 0808 281 9490. Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynghori ar: Grantiau Adfer Llifogydd Cymunedol; Llety brys/amgen drwy https://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Housing/Homelessness/Am-I-homeless.aspx; Ffôn: 0300 124 0050; Ebost: housingsolutions@conwy.gov.uk
Oriau Agor: Mae’r gwasanaeth wyneb yn wyneb wedi cau. Gall unrhyw un sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd gysylltu rhwng 9.30a.m, a 5.15pm ar 0300 123 3079
Gall CBS Conwy hefyd gynghori ar:
- Rhyddhad Treth Cyngor;
- Casgliadau gwastraff;
- Beth i’w wneud gyda bagiau tywod ar ôl llifogydd (mae bagiau tywod sydd wedi dod i gyswllt â dŵr llifogydd, carthffosiaeth, olew neu dannwydd yn cael eu hystyried yn llygredig). Bydd rhaid eu trin fel gwastraff llygredig.
Os credwch fod gennych achos, anfonwch ebost at Gyfoeth Naturiol Cymru (ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk).
A fydd gwell gwasanaeth larwm/rhybuddion llifogydd yn cael ei sefydlu?
Bydd, i raddau. Bydd y dull presennol o rannu’r larwm gyda wardeiniaid yn unig yn awr yn cael ei ymestyn i bawb sydd mewn perygl. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un sy’n cofrestru dderbyn y rhybudd trwy wasanaeth o’u dewis, sy’n cynnwys galwad i ffôn symudol a/neu linell tir, neges destun ac ebost.
Mae hyn hefyd yn ein galluogi i ffonio’n ôl hyd at deirgwaith pan na fo ateb.
Bydd staff CNC yn cadarnhau pan fydd y gwasanaeth ar gael.
Bydd angen cynnal astudiaeth bellach ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd penodol ar gyfer Llanfair Talhaiarn.
A fydd cynllun mwy/gwahanol yn dilyn llifogydd 9 Chwefror ac ymweliad y Gweinidog?
Hyd yma, nid oes unrhyw awgrym y bydd mwy o gyllid na newid yn rheolau’r Llywodraeth a fyddai’n arwain at newid y drefn y mae gofyn i CNC ei dilyn wrth gyfiawnhau a/neu ddatblygu cynlluniau llifogydd.
Rydym yn adolygu ein cynlluniau ac yn asesu a yw’r gwaith a fwriedir yng Ngham 2 yn addas yng ngoleuni’r hyn a ddigwyddodd ar 9 Chwefror.
A fydd prosiect ar gyfer yr holl dalgylch y gall y gymuned fod yn rhan ohono?
Fel rhan o’r adolygiad cyfredol byddwn yn ystyried materion sy’n berthnasol i’r holl dalgylch. Gallwn helpu i sefydlu grŵp partneriaeth llifogydd ar gyfer y dalgylch ac ardaloedd cyfagos. Byddai hwn yn cael ei arwain gan y gymuned, gan alluogi pobl leol i ddod at ei gilydd gyda chyrff statudol a rhanddeiliaid eraill i rannu pryderon/syniadau ynglŷn â materion yn ymwneud â pherygl llifogydd. Rhan o sgôp y grŵp fyddai ystyried materion sy’n berthnasol i’r holl dalgylch a gwelliannau o ran rheoli perygl llifogydd y gellid eu cyflawni trwy fentrau ar y cyd neu wahanol ffrydiau ariannu. Gallai hefyd ystyried opsiynau ar gyfer cynyddu cyfraniad y gymuned tuag at reoli perygl llifogydd.
Pryd a lle fydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal?
Roeddem yn bwriadu cynnal sesiwn galw heibio yn y pentref ym mis Mawrth 2020, ond bu’n rhaid gohirio oherwydd yr argyfwng coronafeirws. Byddwn yn dod i drafod y camau nesaf unwaith y bydd yn bosibl i ni wneud hynny.
Be nesa?
Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 03000 65 3000 neu ebost Risg.Llifogydd.Llanfairtalhaiarn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk