Adfywio Cyforgorsydd Cymru
Crynodeb Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE
Roedd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gynllun gwerth £5.2 miliwn, a ariannwyd gan gronfa LIFE yr UE gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a fu’n weithredol am 6.5 mlynedd rhwng 1 Medi 2017 a 30 Mehefin 2024. Llwyddodd y prosiect i adfer mawndiroedd ar draws 6 safle cyforgors Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, a chafodd y prosiect ei reoli gan CNC, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
- ACA Cors Caron UK0014790
 - ACA Cors Fochno UK0014791
 - ACA Cors Goch Trawsfynydd UK0030075
 - ACA Rhos Goch UK0014792
 - SoDdGA Esgyrn Bottom (rhan o ACA Afonydd Cleddau) UK0030074
 - ACA Cernydd Carmel UK0030070
 
Yn anffodus, ni fu modd gwneud gwaith ar gyforgors Waun Ddu (rhan o ACA Safleoedd Ystlumod Wysg).
At ei gilydd, cafodd 998 hectar o gynefin cyforgors ei wella drwy gyflawni’r canlynol:
- Dros 140,000m o fyndiau mawn a 150 o argaeau mawn, gan helpu i godi a sefydlogi lefelau dŵr ar y mawndir.
 - 676 hectar o waith rheoli prysgwydd, gan gynnwys bedw, helyg, conwydd, a rhododendron estron goresgynnol
 - Torri dros 100 hectar o wellt y gweunydd trwchus a dominyddol gan ddefnyddio’r peiriant Pisten Bully a brynwyd gan y prosiect.
 
Mae gwaith monitro lefelau dŵr wedi dangos cynnydd rhwng 4cm-10cm yn lefelau dŵr cymedrig blynyddol yn dilyn gwaith adfer, gan hybu llawer mwy o allu i wrthsefyll sychder yn yr haf yn y dyfodol a darparu amodau addas ar gyfer adfer cynefinoedd. Ac mae gwaith monitro nwyon tŷ gwydr yn dangos bod y gwaith wedi lleihau allyriadau carbon o safleoedd y prosiect.
Llwyddodd y prosiect i ymgysylltu â dros 25,000 o bobl dros y 6.5 mlynedd, gan wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fawndiroedd ledled Cymru, y DU ac Ewrop, trwy ddigwyddiadau, gweminarau a chynnwys ar-lein.
Am ragor o fanylion, ewch i gronfa ddata gyhoeddus EU LIFE i lawrlwytho adroddiadau a gwerthusiadau prosiect.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol
Twitter @WelshRaisedBog
Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs
Instagram @welshraisedbog
Darllen ein newyddion
- Postyn tynnu llun - 6 Ionawr 2020
 - Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd - 20 Ionawr 2020
 - Migwyn y Baltig - 6 Mawrth 2020
 - Adnoddau Addysg Mawndir - 14 Gorffennaf 2020
 - Pladur Pwerus newydd yn cyrraedd canolbarth Cymru - 13 Mawrth 2019
 - Arolwg o wrid y gors - 4 Mehefin 2019
 - Er mwyn y mawnedd - gwirfoddoli i arbed cynefin prinnaf Cymru - 7 Mehefin 2019
 - Diwrnod Rhyngwladol y Gors -18 Gorffennaf 2019
 - Adfywiad - 6 Medi 2019
 - Troellig Wyddelig - 9 Hydref 2019
 - Adfywio Cyforgorsydd Cymru - 6 Medi 2018
 - Ymgyrch newydd i adfywio cynefinoedd gwerthfawr - 17 Hydref 2017
 - Gwaith hanfodol yn dechrau ar gynefinoedd cors prin - 27 Awst 2020
 - Gwirfoddolwch a chyfrannwch at y gwaith o adfer mawndiroedd - 23 Medi 2020
 - Gwaith adfer yn dangos canlyniadau calonogol - 8 Chwef 2021
 - Adfywio ein corsydd prin yng Nghymru - 15 Chwef 2021
 - Prosiect mawndiroedd yng Nghymru’n ymuno â Phrosiect y Wasg Mawndiroedd Fyd-eang (GP3) - 3 Medi 2021
 - Prosiect adfer mawndiroedd ar y trywydd iawn i gefnogi adferiad yr hinsawdd - 2 Tach 2021
 - Dathlwch Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd gyda thaith gerdded dywysedig am ddim yng Nghors Caron - 27 Ion 2022
 - Cau llwybr pren i ymwelwyr Cors Caron yn ystod gwaith adfer - 28 Ion 2022
 
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch ni ar LIFEraisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Byddai'n braf cael clywed gennych!
 
 