Adfywio Cyforgorsydd Cymru
Cyforgorsydd
Mae cyforgorsydd yn cael eu henw oherwydd eu siâp cromen. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr. Maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin fel lindysyn gwrid y gors ac andromeda’r gors.
Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu pwysigrwydd amgylcheddol, fe'u dynodir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Mae Cymru'n gartref i ddim ond 50 o gyforgorsydd ac mae'r rhain wedi diflannu mwy nag unrhyw fath o fawndir arall ac maent yn parhau i fod o dan bwysau acíwt. Dim ond 7 o'r safleoedd yng Nghymru sydd wedi'u dynodi'n ACA, ac mae'r rhain yn cynrychioli dros 10% o adnodd ACA y DU.
Mae mawndir iach a chyforgorsydd mewn cyflwr da yn amsugno carbon o'r atmosffer sy'n golygu eu bod yn bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da maent yn rhyddhau carbon niweidiol i'r atmosffer.
Saith cyforgors
Y saith safle yn y prosiect yw:
- Cors Caron, Tregaro
- Cors Fochno, Y Borth, Aberystwyth
- Cors Goch, Trawsfynydd
- Rhos Goch, Llanfair-ym-Muallt
- Waun Ddu, Crucywel
- Cernydd Carmel, Cross Hands
- Esgyrn Bottom, Abergwaun
Beth rydyn ni'n ei wneud a pham
Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.
Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol 4 blynedd yw adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael ei adfer i gyflwr gwell, mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.
Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wlypdir gwael yn y gorffennol ac mae hyn wedi achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd a stopio planhigion pwysig fel migwyn (mwsogl y gors) rhag ffynnu.
Mae planhigion fel migwyn yn helpu i gadw'r mawn yn gorslyd ac yn wlyb ac yn storio carbon, gan ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd arloesol newydd o weithio i wneud gwahaniaeth go iawn ac adfer y seven ACA cyforgors yng Nghymru.
Mae cyforgorsydd yn darparu nifer o fuddion i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl. Maent yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maent yn storio carbon o'r atmosffer, yn gallu storio a phuro dŵr ac maent hefyd yn rhoi mewnwelediad hynod ddiddorol i'n hanes amgylcheddol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl ymweld â natur a mwynhau ar ei gorau.
Mae cyllid o gyfanswm o £4 miliwn ar gyfer y prosiect wedi'i roi i CNC o raglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Gwaith adfer
Mewn partneriaeth â chontractwyr, tirfeddianwyr a chymunedau lleol, bydd ein gwaith yn cynnwys gwella cyflwr y mawndiroedd, cael gwared ar brysgwydd a rhywogaethau goresgynnol a chyflwyno arferion pori ysgafn.
Cael gwared ar rododendron
Gall rhododendron fod yn brydferth pan fydd yn blodeuo, ond mae’n rhywogaeth ddieithr a goresgynnol. Mae wedi ffynnu ar ardaloedd o'r gors sydd wedi troi'n sychach. Os caiff ei gadael ar ei phen ei hun, bydd yn tyfu ac yn gwthio planhigion pwysig a phrin, megis migwyn (mwsogl corsydd), i’r neilltu.
Gall mwsoglau migwyn ddal dŵr sy'n pwyso mwy nag wyth gwaith eu pwysau eu hunain a gallant helpu i gadw'r gors yn wlyb ac yn feddal.
Bydd cael gwared ar rododendron yn helpu i gadw'r mawn yn gorslyd.
Torri coed
Mae coed wedi goresgyn ardaloedd o'r gors sydd wedi troi'n sychach. Bydd coed yn yfed 100 o alwyni o ddŵr y dydd, sef ychydig dros ddau dwb ymolchi llawn! Mae hyn yn sychu'r gors ac yn atal planhigion corsydd pwysig, megis migwyn rhag tyfu.
Byddwn yn torri ac yn cael gwared ar rywfaint o goed sy'n tyfu ar y gors neu'n agos ati er mwyn helpu i annog mwy o figwyn i dyfu.
Torri'r glaswellt
Mae math o laswellt o'r enw gwellt y gweunydd neu laswellt y bwla bellach yn drech ar rannau o'r gors sydd wedi troi'n sychach o ganlyniad. Mae hyn yn ffurfio haen ddwys ac yn atal planhigion pwysig rhag tyfu a ffynnu.
Byddwn yn torri ac yn rholio'r glaswellt gyda pheiriant cynaeafu mawr ar gyfer gwlypdiroedd. Bydd hyn yn creu rhagor o ardaloedd agored lle gall planhigion corsydd pwysig, megis migwyn, dyfu a ffynnu.
Sut mae’r prosiect yn effeithio ar bobl a’r economi
Rydym ni wedi edrych ar effaith y prosiect ar bobl a’r economi.
Gallwch ddarganfod mwy yn yr adroddiad effaith economaidd-gymdeithasol
Palu glannau mawn lefel isel
Rydym yn creu glannau mawn lefel isel. Bydd hyn yn ein helpu i lenwi tyllau a holltau sy'n ymddangos ar rannau o'r gors sydd wedi troi'n sychach.
Bydd y gwaith yn gwella lefel y dŵr ac yn sicrhau bod y gors yn parhau'n wlyb ac yn feddal, sef y cyflwr delfrydol ar gyfer planhigion pwysig megis migwyn ac ar gyfer bywyd gwyllt.
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol
Twitter @WelshRaisedBog
Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs
Instagram @welshraisedbog
Darllen ein newyddion
- Postyn tynnu llun - 6 Ionawr 2020
- Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd - 20 Ionawr 2020
- Migwyn y Baltig - 6 Mawrth 2020
- Adnoddau Addysg Mawndir - 14 Gorffennaf 2020
- Pladur Pwerus newydd yn cyrraedd canolbarth Cymru - 13 Mawrth 2019
- Arolwg o wrid y gors - 4 Mehefin 2019
- Er mwyn y mawnedd - gwirfoddoli i arbed cynefin prinnaf Cymru - 7 Mehefin 2019
- Diwrnod Rhyngwladol y Gors -18 Gorffennaf 2019
- Adfywiad - 6 Medi 2019
- Troellig Wyddelig - 9 Hydref 2019
- Adfywio Cyforgorsydd Cymru - 6 Medi 2018
- Ymgyrch newydd i adfywio cynefinoedd gwerthfawr - 17 Hydref 2017
- Gwaith hanfodol yn dechrau ar gynefinoedd cors prin - 27 Awst 2020
- Gwirfoddolwch a chyfrannwch at y gwaith o adfer mawndiroedd - 23 Medi 2020
- Gwaith adfer yn dangos canlyniadau calonogol - 8 Chwef 2021
- Adfywio ein corsydd prin yng Nghymru - 15 Chwef 2021
- Prosiect mawndiroedd yng Nghymru’n ymuno â Phrosiect y Wasg Mawndiroedd Fyd-eang (GP3) - 3 Medi 2021
- Prosiect adfer mawndiroedd ar y trywydd iawn i gefnogi adferiad yr hinsawdd - 2 Tach 2021
- Dathlwch Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd gyda thaith gerdded dywysedig am ddim yng Nghors Caron - 27 Ion 2022
- Cau llwybr pren i ymwelwyr Cors Caron yn ystod gwaith adfer - 28 Ion 2022
Cylchlythyr
Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch ni ar LIFEraisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Byddai'n braf cael clywed gennych!