Llygredd dŵr mwyngloddiau metel
Mae gan Gymru hanes maith o gloddio am fetelau, ac mae yma 1300 o fwyngloddiau segur sy’n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd. Cyrhaeddodd y diwydiant ei benllanw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac erbyn y 1920au roedd y rhan fwyaf o’r mwyngloddio wedi dod i ben. Ond mae gollyngiadau o weithfeydd tanddaearol a thrwytholchi neu erydiad metelau o domenni rwbel yn dal i fod yn ffynonellau sylweddol o lygredd dŵr.
Mae dros 500 tunnell o fetelau fel sinc, plwm, cadmiwm a haearn yn mynd i afonydd Cymru o fwyngloddiau segur bob blwyddyn; sy’n achosi i 6% ohonynt (tua 700km), fethu â chyflawni statws cemegol neu ecolegol da. Mae'r llygredd yn niweidio ecoleg yr afon; gan leihau poblogaethau pysgod a’r amrywiaeth o ran infertebratau.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r Awdurdod Glo i fynd i’r afael â’r llygredd hwn, gan wneud ein hafonydd yn lanach ac yn iachach er budd pobl, bywyd gwyllt a’r economi.
Dysgwch fwy am y rhaglen mwyngloddiau metel ynghyd â diweddariadau am brosiectau unigol.