Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r pedair blynedd diwethaf. Rydym yn parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn parhau i addasu ein cynlluniau ar gyfer ymgysylltu a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.

Ynglŷn â'r ardal hon

Mae'r ardal yn cynnwys tirwedd fendigedig o ardaloedd ucheldir ac arfordirol eang, ynghyd â thiroedd isel ac aneddiadau. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn cwmpasu'r brif gadwyn ucheldir o fynyddoedd, a cheir gweunydd ucheldir pellach ar yr ochr ddwyreiniol yng Nghonwy.  Mae ardaloedd arfordirol yn cynnwys Penrhyn Llŷn, y mae llawer ohono wedi'i gynnwys yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn, ac Ynys Môn, y mae’r rhan fwyaf o’i harfordir wedi'i gynnwys yn AHNE Ynys Môn. Ceir gwrthgyferbyniad rhwng tir isel gwledig yn Arfon, Ynys Môn, Dwyfor a mewndir Conwy ac arfordir gogleddol sydd wedi'i ddatblygu i raddau helaeth ar hyd llwybrau trafnidiaeth mawr.

Yn ogystal â darparu’r dirwedd amrywiol fendigedig hon, mae'r amgylchedd naturiol yn ein helpu i aros yn hapus ac yn iach ac yn cynnal ein heconomi. Fodd bynnag, mae llawer o'r ecosystemau o fewn ein hamgylchedd naturiol yn dirywio. Mae angen dod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o reoli, diogelu a gwella'r asedau naturiol hyn fel y gallwn ni, a chenedlaethau'r dyfodol, barhau i fwynhau'r buddion pwysig y maent yn eu darparu.

Mae Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (UK NEA) wedi categoreiddio'r DU gyfan yn ôl wyth ecosystem neu gynefin bras er mwyn creu fframwaith a sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein hadnoddau naturiol. Darparodd yr wyth cynefin bras hyn y sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) hefyd yn defnyddio'r wyth categori o ecosystemau er mwyn llunio cyfrifon cyfalaf naturiol drafft ar gyfer y DU.

Mae'r wyth categori o ecosystemau'n cwmpasu Cymru yn ei chyfanrwydd ac maent yn ein galluogi i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd ar gyfer casglu gwybodaeth ar yr adnoddau naturiol a'r buddion ecosystem a geir ymhob ardal a chymharu'r canlyniadau yn erbyn cyfartaledd y DU. 

Mae Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru yn ystyried saith o'r wyth categori; caiff y categori Morol ei gynnwys yn y Datganiad Ardal Forol, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod mai'r arfordir yw'r rhyngwyneb rhwng y tir a'r môr a bod camau a gymerir ar y tir yn cael effaith ar y môr. Gweler y Asesiad ecosystem cenedlaethol.

Proses

Dechreuodd Cyfoeth Naturiol Cymru broses y Datganiad Ardal gan edrych ar Bolisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Gwnaethom hefyd archwilio'r blaenoriaethau a gafodd eu defnyddio ar gyfer cynlluniau comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2018, a ddefnyddiwyd i lywio'r heriau ar gyfer rownd gyllido Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Wedyn, cynhaliwyd sesiwn mewnol i drafod syniadau gyda'n tîm rheoli er mwyn ystyried y materion penodol sy'n effeithio ar Ogledd-orllewin Cymru, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n berthnasol yn lleol o'r Polisi Adnoddau Naturiol yn ogystal ag unrhyw heriau a chyfleoedd. Gwnaethom hefyd ystyried gwybodaeth o'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol o ran ecosystemau a'u gwydnwch, y risgiau i'r buddion y maent yn eu darparu, a'r asesiadau, cynlluniau a blaenoriaethau llesiant a ddaeth i'r amlwg trwy'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Gyda chymorth hwylusydd allanol ac annibynnol (the Wellbeing Planner), cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddwy rownd o weithdai, y rownd gyntaf ym mis Gorffennaf 2019 a rownd ddilynol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019, a adeiladodd ar y cydweithrediad cyntaf. Cynhaliwyd trydedd rownd ym mis Tachwedd 2020 a helpodd ni i ddatblygu ymhellach.

Yn ystod rownd gyntaf y gweithdai, yr amcan oedd gwella'r ddealltwriaeth gyffredinol o’r themâu sy'n dod i'r amlwg yng Ngogledd-orllewin Cymru, heb ddisgwyl i bawb a gymerodd ran gytuno o reidrwydd, gwrando'n weithredol ar y rhai a fu'n cymryd rhan a pheidio â cheisio'u darbwyllo i newid eu meddyliau, ac, yn olaf, datgelu'r materion sydd o bwys i bobl leol mewn perthynas â'r Polisi Adnoddau Naturiol. Cynhaliwyd y digwyddiadau mewn lleoliadau cymunedol lleol gan ddefnyddio busnesau lleol lle bu hynny'n bosibl, a gwasgarwyd y digwyddiadau ar draws yr ardal ddaearyddol er mwyn sicrhau y daethom â budd i'r  economi leol ac, yn ogystal, gwnaethom sicrhau bod y lluniaeth a ddarparwyd yn rhydd o blastig. Cafodd y themâu sy'n dod i'r amlwg eu defnyddio i sbarduno'r drafodaeth a chaffael gwybodaeth a gweledigaethau rhanddeiliaid ar gyfer y themâu a'r camau gweithredu posibl sydd eu hangen. 

Ar gyfer yr ail rownd o ymgysylltu, roeddem yn awyddus i hysbysu rhanddeiliaid am y cynnydd roeddem wedi'i wneud a chanfod eu gweledigaeth ynghylch yr heriau a'r rhwystrau o greu amgylchedd gwydn ar y cyd. Ynghyd â rhanddeiliaid, dechreuom archwilio opsiynau a chamau gweithredu posibl er mwyn datblygu'r Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru. Yn benodol, roeddem am fynd i'r afael â bwlch daearyddol ymddangosiadol yn y digwyddiadau, ac felly cynhaliwyd digwyddiad yn Abergynolwyn er mwyn ymgysylltu ag ardal a oedd yn cael ei ystyried yn ardal ymylol. Cafwyd cydnabyddiaeth gan randdeiliaid eu bod yn aml yn cysylltu eu hunain i raddau mwy â Machynlleth (tref leol) ac Aberystwyth (sef lleoliad y gwasanaethau ysbyty lleol) yng Nghanolbarth Cymru, yn hytrach na Gogledd-orllewin Cymru. Yn ogystal, gwnaethom hefyd fynychu cyfarfodydd grwpiau sefydlog amrywiol fel Fforymau Mynediad Lleol, cyfarfodydd undebau’r ffermwyr a Bwrdd Parc Cenedlaethol Eryri.

Cynhaliwyd y drydedd rownd o waith ymgysylltu ar-lein trwy gyfres o weithdai’n seiliedig ar Themâu, gyda chymorth Hwylusydd Allanol. Rydym ni hefyd wedi cynnal sesiynau ymgysylltu cymunedol eraill yn edrych ar Niwbwrch ar lefel sy’n benodol i’r safle. Buom hefyd yn edrych ar dargedu ymgysylltiad o ganlyniad i fwlch a nodwyd ymysg rhanddeiliaid – sef ymgysylltiad â’r ifanc.

Cafwyd cydnabyddiaeth ein bod i gyd yn rhan o hyn, felly gwnaethom sicrhau ein bod yn addasu ein dulliau o weithio, gan sicrhau bod yr egwyddorion o greu ar y cyd wrth wraidd y penderfyniadau a wnaethpwyd wrth ddatblygu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru.  Rydym yn cydnabod mai taith ar hyd llwybr o gydweithio yw hyn a fydd yn parhau i gefnogi datblygiad y Datganiad Ardal. Mae rhywfaint o'r adborth rydym wedi'i dderbyn yn cadarnhau'r hyn roeddem yn ei gredu, sef mai dyma fu'r peth cywir i'w wneud:

“Des i'n llawn amheuon, ei weld yn cael ei gadw'n agored a bod pawb yn cymryd rhan”

“Meddyliais i fydden ni'n dod a byddai rhywun yn dweud wrthym beth oedd e a beth oedd rhaid i ni ei wneud”

“Mae pobl wedi canslo cyfarfodydd er mwyn bod yma”

“Mae wedi bod yn llawn cyffro”

“Mae agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth newydd yn dal i deimlo fel cylch caeedig, mae'n dda iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddangos ei fod yn gwrando” 

“Mae lleoliad y digwyddiad hwn yn dweud llawer am Cyfoeth Naturiol Cymru”

“Mae ymdeimlad cryf fod hyn wedi edrych tuag allan”

Mae'r Datganiad Ardal yn cynrychioli adlewyrchiad o'r gwaith rydym wedi'i wneud yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae hyn wedi bod yn ffordd wahanol o weithio – taith o integreiddio, gwrando, casglu tystiolaeth, ymgysylltu'n lleol a chydweithredu. Y daith fu agwedd allweddol y gwaith hwn, gan weithio gyda phartneriaid, hen a newydd, i greu gweledigaeth a rennir ar gyfer sut y gellir rheoli adnoddau naturiol Cymru i gyflenwi mwy ar gyfer ein cymunedau lleol, yr economi a'r amgylchedd. Rydym wedi rhoi ystyriaeth i safbwyntiau rhanddeiliaid, felly mae'r Datganiad Ardal yn nodi'r cyfleoedd a blaenoriaethau ar y cyd y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw er mwyn adeiladu gwydnwch ein hecosystemau a chefnogi'r egwyddor o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym ni’n parhau i ddatblygu’r Datganiadau Ardal yn seiliedig ar sgyrsiau, gan ddatblygu’r camau gweithredu y bydd CNC a’n partneriaid yn ehangu arnynt er mwyn mynd i'r afael â’r cyfleoedd rydym wedi'u nodi.

Mae bod yn rhan o'r broses ymgysylltu werthfawr hon gyda phobl a busnesau yng Ngogledd-orllewin Cymru wedi'n galluogi i weld y darlun o ongl wahanol. Rydym yn gwerthfawrogi na allwn roi'r atebion bob tro i'r holl gwestiynau a ofynnwyd, ond, gallwn weithio gyda'n gilydd i gyflawni prosiectau gwerth chweil sy'n gallu bod yn fanteisiol i'r amgylchedd a'r bobl sy'n byw yn yr ardal werthfawr hon.

Dyfyniadau gan rai a fu’n cymryd rhan mewn gweithdai:

“Mae hyn yn bendant yn teimlo'n wahanol i bawb, y lleoliadau, dull y drafodaeth, mae'n newid ein cydberthynas”

“Mae'n teimlo'n fwy anniben na'r hyn rydyn ni'n arfer ag e, sy'n anodd, ond mae'n teimlo'n wych”

“Mae wedi bod yn werthfawr cael cyfle i eistedd o gwmpas y byrddau gyda'n gilydd, yn darganfod beth rydyn ni i gyd yn ei wneud, a dod o hyd i gyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd”

“Mae angen i ni gael y gymuned i ryngweithio gyda'r amgylchedd ond i gymryd cyfrifoldeb hefyd”

“Rwy'n deall y neges – dyw hwn ddim i Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig, mae hwn i bawb”

“Mae'r 'beth' gennym nawr, nesaf mae angen i ni gael y 'sut' a'r 'ble'”

“Nawr mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru roi ei arian ar ei air”

Mae CNC wedi cynnwys cymaint o sectorau â phosibl er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. Bydd hyn yn adlewyrchu'r rhwydwaith presennol yn yr ardal, sydd wedi bod o gymorth mawr i ni lle mae'r rhwydweithiau hyn yn gadarn.  Ond rydym hefyd yn cydnabod bod grwpiau nad ydym wedi gallu eu cyrraedd eto. Rydym ni’n gwerthuso ac yn diweddaru ein rhestrau rhanddeiliaid yn barhaus.

Roedd uno safbwyntiau gwahanol gan bobl wahanol yn rhan hanfodol o'r hyn yr oeddem yn ceisio'i gyflawni. Roeddem yn falch o weld bod pawb a ddaeth i’r gweithdai rhanddeiliaid yn gytûn ynghylch y themâu a gyflwynwyd gennym ar y dechrau: ‘Rheoli Tir yn Gynaliadwy', Lliniaru ac Ymaddasu i Newid Hinsawdd', 'Ailgysylltu Pobl' ac 'Ecosystemau Gwydn'. Roedd grwpiau allanol hefyd â diddordeb mewn dysgu gydol oes, ac felly, mae hyn wedi cael ei gynnwys yn y thema 'Ailgysylltu Pobl â Natur'. Arweiniodd rhagor o adborth gan ein rhanddeiliaid at ein thema olaf, sef 'Annog Economi Gynaliadwy’. Rydym ni’n treialu Dull Grŵp Ffocws Thematig ar gyfer y thema hon, a bydd y canlyniadau’n llywio ein dulliau ar draws yr holl themâu. Rydym ni hefyd yn dechrau datblygu dull aml-thema ar gyfer datblygu prosiectau mewn lleoedd, gan edrych ar Ddyffryn Conwy ac Ynys Môn fel ardaloedd peilot cychwynnol Rydym ni’n galw’r dull hwn yn “Llifo” (gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng Amcanion Llesiant y Byrddau Gwasanaethau Busnes, blaenoriaethau’r Dalgylchoedd Cyfle a Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru).

Goleudy Ynys Llanddwyn hefo merlen mynydd Cymraeg yn por

Themâu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru

Nododd ein rhanddeiliaid ddwy thema drawsbynciol wrth ddatblygu’r Datganiad Ardal, sef Ffyrdd o Weithio, sydd wrth wraidd popeth rydym yn ceisio'i wneud, ac Argyfwng yr Hinsawdd ac Amgylchedd, sy'n adlewyrchu datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng hinsawdd ac ym myd natur. Mae hefyd yn cefnogi'r argyfyngau hinsawdd a natur sydd wedi'u datgan ar draws gogledd Cymru gan awdurdodau lleol a blaenoriaethau tanategol Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar gyfer 2020/21 (lliniaru effeithiau'r argyfwng yn yr hinsawdd a lliniaru dylanwad ac effeithiau'r argyfwng ym myd natur).

Y themâu eraill yw:

Y camau nesaf

Rydym yn cydnabod bod rhai rhanddeiliaid, fel cyrff anllywodraethol, wedi cael anhawster wrth roi'r un amser i mewn i'r holl Ddatganiadau Ardal, yn enwedig lle maent yn cwmpasu mwy nag un ardal datganiad. Rydym hefyd yn cydnabod y bu rhai bylchau yn ein dadansoddiad cychwynnol o randdeiliaid, fel pobl ifanc, a chodwyd yr angen i'w cynnwys gan ein rhanddeiliaid yn ystod nifer o ddigwyddiadau.  Mae'n bosib na fydd sectorau eraill yn gweld sut mae ein gwaith yn berthnasol eto, felly mae angen i ni fireinio ffyrdd o dargedu negeseuon allweddol sy'n ymgysylltu â sectorau eraill er mwyn iddynt ddeall mai'r amgylchedd sy'n sail i bopeth. 

Cynhaliwyd gweithdai pellach ar-lein ym mis Tachwedd 2020 lle buom yn edrych ar ddatblygu’r cyfleoedd a nodwyd dan bob thema. Gyda'n gilydd mae angen i ni flaenoriaethu a phenderfynu lle bydd ffocws ein hymdrechion a sut y byddwn yn mesur llwyddiant.  Bydd yn gyfle i ni i gyd adolygu'r cynnydd hyd yn hyn, blaenoriaethu'r cyfleoedd, a pharhau i gynllunio rhagor o fanylion o dan bob maes o waith sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn datblygu gweledigaeth ardal gyfan ar gyfer y Datganiad Ardal gyda rhanddeiliaid – gyda chylch gorchwyl a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn parhau i geisio a chynllunio ar gyfer atebion cydweithredol, ac o bosibl yn datblygu nifer o grwpiau cyflawni daearyddol cymysg a ffyrdd o ymgysylltu'n ehangach yn y gymuned – byddem yn falch iawn am unrhyw arbenigedd, neu gynigion o gymorth, o ran gweithio ar hyn. Byddwn hefyd yn archwilio'r angen i sefydlu dull cyffredinol o lywodraethu'r grwpiau a'r broses a sefydlu melin drafod fach er mwyn herio a dylanwadu ar y dull ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru yn rheolaidd.

Bydd proses y Datganiad Ardal yn parhau i ddatblygu o un flwyddyn i'r llall wrth i ni gydweithio, dysgu mwy am y blaenoriaethu, a deall yr hyn y gall pobl ei gyflawni.  Mae'r Datganiad Ardal a themâu yn addasol a bydd angen eu hadolygu a'u gwella yn barhaus wrth i ni weithredu, adeiladu mwy o wybodaeth a thystiolaeth, myfyrio, dysgu, ac ehangu ar ein sgiliau a gwybodaeth ar y cyd.

Mae'r Datganiad Ardal yn cefnogi gweithgareddau lle gellir osgoi effeithiau andwyol ar safleoedd dynodedig rhyngwladol (ac yn genedlaethol) yn unig.

“Nawr mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru roi ei arian ar ei air”

“Yn nhermau gorwel 12 mis, ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i gynllunio rwy'n credu bod perygl enfawr y gallwn golli'n traed yn ein brwdfrydedd a rhuthro i mewn i lwyth o wahanol fentrau rwy'n credu y byddai cymryd cyfle i gasglu ychydig o syniadau gyda'i gilydd, camu'n ôl, gweld sut y maen nhw'n integreiddio, gweld sut y gallwn gynyddu'r adnoddau sydd gennym er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o gyflawni wrth symud ymlaen os gallwn wneud y gwaith cynllunio rwy'n credu bydd y pethau 10 mlynedd a 50 mlynedd yn dilyn hynny'n naturiol.”
-Tom Jenkins, Pennaeth Ymchwil Coedwigaeth Cymru, Gweithdy Llanfairfechan, 18 Gorffennaf 2019

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Cynefinoedd eang – Gogledd Orllewin Cymru (PDF)
• Ffermdir caeedig
• y môr
• mynyddoedd
• gweundir
• rhos
• dŵr agored
• gwlyptiroedd
• gorlifdiroedd
• glaswelltir lled-naturiol
• trefol
• coetiroedd

Ardaloedd gwarchodedig – Gogledd Orllewin Cymru (PDF)

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
  • Parc Cenedlaethol

Ardaloedd Hamdden yng Ngogledd Orllewin Cymru (PDF)

  • Llwybr Arfordir Cymru
  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus
  • Parciau Gwledig
  • Gwarchodfeydd Natur
  • Cenedlaethol Ystad
  • Coetir Llywodraeth Cymru
  • Tir Comin Cofrestredig 

Dwysedd Poblogaeth yng Ngogledd Orllewin Cymru - mae'n dangos dwysedd poblogaeth pob ardal

Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol – Gogledd Orllewin Cymru (PDF) mae’n dangos ardaloedd o goedwig ac Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr – cydymffurfiaeth o ran afonydd, cyrff dŵr a dyfroedd ymdrochi (y data diweddaraf sydd ar gael - Mawrth 2020) (PDF) ardaloedd o ansawdd dŵr da, cymedrol, a gwael mewn afonydd, llynnoedd a moroedd yn y Gogledd Orllewin

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn y Gogledd Orllewin 2019 (PDF) sy'n dangos yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yn y Gogledd Ddwyrain

Porwch ragor o ddata am amgylchedd naturiol Cymru 

Sut i gysylltu â ni

Rydym yn croesawu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ar unrhyw gam ym mhroses y Datganiad Ardal. Ein cyfeiriad e-bost yw: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf