Area Statements and farmers, foresters and land managers
Rydym am glywed gennych
Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i gael dealltwriaeth well o sut mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol eu hunain.
Bwriad y dudalen hon yw rhoi cyflwyniad i’r broses Datganiadau Ardal, ynghyd â’r heriau, cyfleoedd a ‘themâu’ cysylltiedig sy’n dod i’r amlwg, a sut mae hynny’n ymwneud â’r rheini sy’n gweithio ym meysydd ffermio, coedwigaeth a rheoli tir.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymuno â ni, ac eraill, i fynd i'r afael â heriau rheoli tir yn gynaliadwy, cysylltwch â'ch ardal berthnasol yn:
Ynys Môn, Conwy a Gwynedd
northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
northeast.as@naturalresourceswales.gov.uk
Ceredigion a Powys
mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Abertawe
southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen
southeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dyfroedd glannau Cymru, sy'n ymestyn am 12 milltir i'r môr o’r morlin
marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rheoli tir yn gynaliadwy a Datganiadau Ardal
Yng Nghymru, mae mwy na 80% o'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, a defnyddir 15% arall ar gyfer coedwigaeth. Mae'r ddau sector yn cyfrannu'n helaeth at ddarparu gwasanaethau ecosystem lluosog pwysig a buddion llesiant (e.e. cynhyrchu bwyd a ffeibr, rheoleiddio'r hinsawdd, pridd, dŵr ac ansawdd yr aer). Mae gan ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir rôl hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan gyflawni'r weledigaeth a gyflwynwyd gan Ddatganiadau Ardal Cymru a, gyda’i gilydd, sicrhau Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ar raddfa leol a chenedlaethol.
Trwy ymgynghori, mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir wedi dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru mai eu blaenoriaeth yw parhau i weithio ar y tir gan ddefnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy i sicrhau incymau hyfyw ar gyfer y dyfodol. Mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru trwy gynllun Ffermio Cynaliadwy a'n Tir newydd. Mae economi wledig hyfyw a chynaliadwy yn golygu gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â heriau lleol a chenedlaethol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru mewn cyd-destun lleol trwy Ddatganiadau Ardal. Mae'r Polisi Adnoddau Naturiol, ynghyd â Chynllun Cyflawni Carbon Isel a Chynllun Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru, yn cydnabod bod Datganiadau Ardal yn gallu helpu i gyflawni polisi cenedlaethol o fewn cyd-destun lleol gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar natur. Gyda'i gilydd, mae'r heriau a'r cyfleoedd hyn o ran polisi cenedlaethol yn gofyn am weithredu er mwyn cefnogi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
Newid yn yr hinsawdd
- Cynyddu’r ddealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar amaethyddiaeth a rheoli tir trwy'r Rhaglen Gallu, Addasrwydd a Hinsawdd ar gyfer Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
- Cefnogi’r broses o liniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd trwy ddulliau rheoli ar lefel yr ecosystem
- Datblygu fframwaith ymaddasu i newid yn yr hinsawdd ar gyfer gwerthoedd brand cynaliadwy ar draws y gadwyn gyflenwi, o'r ‘fferm i'r fforc’
- Cyflawni’r broses o ymaddasu i newid yn yr hinsawdd trwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd ar gyfer Cymru
Priddoedd
- Cynnal gallu cynhyrchiol, yn arbennig trwy wella ansawdd a bioddiogelwch y pridd
- Gwella arferion rheoli pridd a maethynnau
- Lleihau faint o garbon a gollir o fawndiroedd ac adeiladu stociau carbon o fewn biomas
- Diogelu a chynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas
Effeithlonrwydd adnoddau ac ynni adnewyddadwy
- Gwella effeithlonrwydd lefelau cynhyrchu da byw
- Cyflawni effeithlonrwydd tanwydd ac ynni ar y fferm
- Gweithredu i leihau’r pwysau ar adnoddau naturiol, megis trwy effeithlonrwydd adnoddau ac ynni adnewyddadwy (mae defnyddio dŵr ac adnoddau eraill yn effeithlon yn flaenoriaeth allweddol wrth helpu i gynnal cyflenwadau cynaliadwy – am wybodaeth bellach, gweler tudalennau’r sectorau gwastraff, dŵr ac ynni)
Iechyd, cymunedau, cyflogaeth
- Cefnogi dulliau ataliol ar gyfer canlyniadau iechyd, â ffocws penodol ar faterion allweddol o safbwynt iechyd y cyhoedd sef llygredd aer a sŵn a achosir gan drafnidiaeth, mynd i'r afael ag anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl
- Gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd
- Cydlyniad cymunedol
- Cyflogaeth sicr a sefydlog
Bioamrywiaeth
- Gwrthdroi’r dirywiad i fioamrywiaeth
Adfer ein hucheldir
- Adfer ein hucheldir a’i reoli o safbwynt diogelu buddion bioamrywiaeth, carbon, dŵr, perygl llifogydd, ynni a hamdden
Mwy o goetiroedd
- Cynyddu gorchudd coed a choetir mewn lleoliad da ar gyfer gwerth gwasanaeth ecosystem gwell, er mwyn adeiladu gwydnwch ecosystemau a buddion ehangach ar draws y nodau llesiant
Dŵr
- Cynnal, gwella ac adfer gorlifdiroedd, systemau dŵr wyneb a dŵr daear i leihau’r risg o lifogydd ac i wella ansawdd dŵr a’r cyflenwad ohono
Seilwaith gwyrdd
- Cynyddu seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â threfol sydd, o ganlyniad, yn helpu i adeiladu gwydnwch mewn ardaloedd trefol
Yr arfordir
- Rheoli parthau arfordirol a dulliau ymaddasu
Gwydnwch
- Datblygu rhwydweithiau ecolegol cydnerth
Rhywogaethau estron goresgynnol
- Diogelu ein cynefinoedd naturiol rhag y risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â rhywogaethau estron goresgynnol
Ansawdd Aer
- Lleihau lefelau llygredd yn ein haer, a gwella ansawdd aer
Sŵn
- Lleihau llygredd sŵn
Mae'r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir yn ymgorffori'r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy. Mae cynhyrchu bwyd yn rhan hanfodol o’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy er mwyn cynhyrchu canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Yn yr un modd, mae coetiroedd yn gallu darparu’r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a chyfrannu at amaethyddiaeth gynaliadwy trwy integreiddio priodol, a gallant ddarparu buddion economaidd trwy werthu coed a phren.
Mae'r fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy hefyd yn cefnogi'r Polisi Adnoddau Naturiol a'r ddyletswydd bioamrywiaeth o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i helpu i adeiladu ecosystemau yn ogystal â gwydnwch busnes. Efallai y bydd y cynllun arfaethedig yn rhoi cyfle i ddefnyddio'r Datganiadau Ardal pan fo hynny'n briodol, i roi gwybodaeth am flaenoriaethau gofodol posibl ar gyfer cydweithredu, ac i helpu i nodi graddfa'r cyfleoedd a allai godi.
Gwaith cydweithredol
Er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn, mae nifer o'r heriau'n gofyn i ni gydweithio naill ai'n lleol neu ar raddfa fwy gan gwmpasu ardaloedd ehangach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau sy'n cynrychioli ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir trwy Fforwm Rheoli Tir Cymru (WLMF), Grŵp Gorchwyl a Gorffen Creu Coetir Fforwm Rheoli Tir Cymru, ac is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol. Bydd hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau rheoli tir yn gynaliadwy mewn ffyrdd sy'n darparu buddion ar gyfer pobl, busnesau a'r amgylchedd.
Darganfod themâu Datganiadau Ardal
Gellir canfod disgrifiad llawn o'r themâu gwahanol sy'n dod i'r amlwg ledled Cymru yma:
- Gogledd-orllewin Cymru
- Gogledd-ddwyrain Cymru
- Canolbarth Cymru
- De-orllewin Cymru
- Canol De Cymru
- De-ddwyrain Cymru
- Yr ardal forol
Cyngor ac arweiniad
Ar gyfer safonau ac arweiniad perthnasol, gweler y canlynol:
- Cod Ymarfer Amaethyddol Da
- Storio olew yn ddiogel
- Egwyddorion rheoli priddoedd
- Canllaw Rheoli Maethynnau (RB209) ar gyfer tir gwell
- Sut all plannu coed gyfrannu at fusnes eich fferm
- Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig
- Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig
Gweler ein gwefan am gyngor a chanllawiau pellach sy'n berthnasol i amaethyddiaeth a choetiroedd.
Am wasanaethau cynghori, ewch i'r gwefannau canlynol:
- Cyswllt Ffermio – cymorth, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad wedi'i ariannu i ffermwyr a pherchnogion coetiroedd
- Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm – Gwasanaeth cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisïau a grantiau
- Coed Cymru – cyngor a gwybodaeth am goetiroedd, coedwigaeth, gwrychoedd a phren i ffermwyr, perchnogion/rheolwyr coetiroedd, grwpiau cymunedol a busnesau coed ledled Cymru.
- Coed Cadw/Woodland Trust – cyngor a chymorth ar gyfer ardaloedd plannu coed bach, gan gynnwys cynlluniau cymunedol
- Llais y Goedwig – ar gyfer coetiroedd cymunedol
- Coed Lleol – Cangen Cymru o Gymdeithas y Coetiroedd Bach, yn darparu cyngor ar gyfer perchnogion coetiroedd
- Cynllunwyr Glastir cofrestredig - rhestr o gynghorwyr a chynllunwyr coetir yng Nghymru
- Focus on Forestry First – hyfforddiant coedwigaeth yng Nghymru a mynediad at gyfleoedd cyllido
- Coedwigoedd y GIG – yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau er mwyn sicrhau bod mannau gwyrdd ar gael at ddibenion iechyd
- Canolfan Creu Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru – cyfeiriad at ffynonellau cyllid a chyngor pellach, wrth gysylltu â'r Datganiadau Ardal a Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fforwm Rheoli Tir Cymru ynghylch creu coetir newydd, cysylltwch â WoodlandCreation.Hub@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Astudiaethau achos
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwaith cydweithredol sy’n mynd rhagddo gan ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir yn eich ardal chi, edrychwch ar astudiaethau achos prosiectau’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy gan gynnwys Rheoli'r ucheldiroedd yn gynaliadwy a Coetir a Gwrychoedd Ffermydd.
Cyfleoedd cyllido
I gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd cyllido ac ymgeisio yn ymwneud â rheoli tir yn gynaliadwy y Rhaglen Datblygu Gwledig, ewch i wefannau Llywodraeth Cymru ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig:
- Creu Coetir Glastir
- Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles
- Grant Busnes i Ffermydd
- Cynllun Rheoli Cynaliadwy – Cefnogi Adfer Natura 2000
Mae ffynonellau cyllido eraill yn cynnwys y canlynol:
- Cod Carbon Coetir y DU
- Grantiau Cyfoeth Naturiol Cymru
- Coedwig Genedlaethol Cymru - Cyllido Coedwigoedd Cymunedol trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Coed Cadw – cynlluniau i greu mwy o goedwigoedd neu fwy o wrychoedd, MOREwoods or MOREhedges
- Plant! Coed i bob plentyn yng Nghymru